Nghaffi Gwyddoniaeth Aberystwyth yn trafod Biomimcri mewn Pensaernïaeth

22 Mai 2013

Gwyddoniaeth Aberystwyth ar 27 Mai i drafod biomimicri - disgyblaeth sy'n edrych ar syniadau gorau byd natur er mwyn ysbrydoli atebion i broblemau dynol.

Roedd Michael Pawlyn ar y rhestr fer ar gyfer Pensaer Ifanc y Flwyddyn a'r enwog Her Buckminster Fuller. Mae wedi darlithio'n eang ar y pwnc o ddylunio cynaliadwy yn y Deyrnas Gyfunol a thramor.

Cyhoeddwyd ei lyfr 'Biomimicry in Architecture' gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ystod o brosiectau pensaernïol sy'n seiliedig ar biomimicri a llyfr a gomisiynwyd gan TED. http://www.ted.com/pages/about

Mae Caffi Gwyddoniaeth Aberystwyth yn gyfle i bobl o bob cefndir i gyfarfod a sgwrsio mewn awyrgylch anffurfiol am y syniadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth, ac fe'i cynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Ddechrau’r mis, cynhaliwyd gŵyl gyntaf Pensaernïaeth Cymru yng Nghanolfan y Ceflyddydau. Wedi’i chychwyn gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW), bu’r ŵyl chwe wythnos yn dangos cyfres o ffilmiau pensaernïol ac amrywiaeth o arddangosfeydd.
http://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/talks-spoken-word/science-caf%C3%A9-michael-pawlyn-exploration-architecture-ltd