Aber yng Ngŵyl y Gelli

Bydd yr Athro Howard Thomas, yr Athro Richard Marggraf Turley a Dr Jayne Elisabeth Archer yn traddodi Darlith Inspire 2013 yng Ngwyl y Gelli ar ddydd iau 23 Mai. Yn y llun (o’r chwith) gwelir Yr Athro Howard Thomas, Dr Adeline Johns-Putra, cyfarwyddwr INSPIRE Jane Davidson, Yr Athro Richard Marggraf Turley, and Dr Jayne Elisabeth Archer.

Bydd yr Athro Howard Thomas, yr Athro Richard Marggraf Turley a Dr Jayne Elisabeth Archer yn traddodi Darlith Inspire 2013 yng Ngwyl y Gelli ar ddydd iau 23 Mai. Yn y llun (o’r chwith) gwelir Yr Athro Howard Thomas, Dr Adeline Johns-Putra, cyfarwyddwr INSPIRE Jane Davidson, Yr Athro Richard Marggraf Turley, and Dr Jayne Elisabeth Archer.

21 Mai 2013

Bydd gwaith ymchwil o safon byd o Brifysgol Aberystwyth i’w weld a’i glywed yn un o wyliau llenyddol mwya’r byd sydd yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Fe fydd chwe academydd o Aberystwyth sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol a dau Gymrawd Anrhydeddus yn siarad yng Ngŵyl y Gelli eleni sy'n cael ei chynnal rhwng 23 Mai a 2 Mehefin. Llynedd ymwelodd dros 225,000 o ymwelwyr â’r ŵyl.

Dydd Iau 23 Mai ar Lwyfan Landmarc 100 am 7yh
Bydd yr Athro Richard Marggraf Turley, Dr Jayne Archer Elisabeth a'r Athro Howard Thomas, y tri o Brifysgol Aberystwyth, yn traddodi darlith INSPIRE 2013 ar Lenyddiaeth a Chynaliadwyedd. Nhw yw enillwyr cystadleuaeth a sefydlwyd gan y Sefydliad Arloesi Arfer Cynaliadwy ac Effeithiolrwydd Adnoddau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, â chefnogaeth Asle-UKI.

Mae'r papur yn archwilio sut mae rhai o ddramâu Shakespeare yn ymwneud ag argyfwng cyflenwad bwyd, dosbarthu a chynhaliaeth - argyfwng gydag atseiniau cyfoes ac un lle, trwy ei thrafodion busnes, mae’r dramodydd ei hun yn chwaraewr. Ar ôl y ddarlith cynhelir trafodaeth rhwng academyddion Aberystwyth, cyfarwyddwr INSPIRE Jane Davidson a chadeirydd Asle-UKI, Adeline Johns-Putra. Mwy o wybodaeth yma: http://bit.ly/YXGxNx

Dydd Mawrth 28 Mai ar Lwyfan Landmarc 100 am 5.30yh
Bydd Gwen Davies, Golygydd y cyhoeddiad llenyddol chwarterol New Welsh Review, sydd â’i gartref ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn siarad gyda Lloyd Jones a Cynan Jones am y gyfres New Tales From The Mabinogion. Mae'r straeon newydd yma, sy'n rhoi sbin cyfoes ar chwedlau Cymreig clasurol, yn ymwneud â rygbi, iechyd meddwl a hunaniaeth wrywaidd yn llyfr diweddaraf Lloyd Jones See How They Run a llyfr Cynan Jones, Blood, Bird, Snow. Cafodd The Dig gan Cynan ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer EFG.

Dydd Mawrth 28 Mai ar Lwyfan Cymru - Llwyfan Cymru am 6yh
Bydd Clive Hicks-Jenkins, Cymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth ac un o artistiaid gweledol mwyaf blaenllaw Cymru, yn gweithio gyda Cherddorfa Siambr Canolbarth Cymru i gynhyrchu fersiwn newydd wedi ei hanimeiddio o waith clasurol Stravinsky gyda delweddau a dilyniannau animeiddio. Yr adroddwr yw Lisa Dwan. Mae'rSoldier’s Tale ganIgor Stravinsky gyda libreto gan CF Ramuz a gafodd ei gyfieithu gan Michael Flanders. Mae ei ferch Stephanie Flanders yn ymuno â'r animeiddiwr a'r arweinydd James Slater am sgwrs ar ôl y sioe, a gadeirir gan Clemency Burton-Hill.

Dydd Mawrth 28 Mai yn y Tŷ Haf am 7yh
Bydd New Welsh Review (NWR) yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed a'i 100fed rhifyn yn y Tŷ Haf yng nghwmni Damian Walford Davies, deiliad Cadair Rendel a Phennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Richard Marggraf Turley, a’r Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol, Jem Poster, sydd hefyd o'r Adran. Bydd cystadleuydd Gwobr Stori’r Sunday Times a’r Banc Preifat EFG, Cynan Jones, yn cyflwyno enillydd gwobr Flash in the Pen NWR, cystadleuaeth ffuglen ficro am straeon o dan 100 o eiriau. Bydd y bardd Rhian Edwards, sydd wedi ei henwebu ar gyfer y wobr Forward Prize, hefyd yn perfformio ei stori ffuglen fflach sydd wedi’i chynnwys yn y 100fed rhifyn. Noddwyd y noson gan Gadair Rendel Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Llyfrau Cymru. http://www.newwelshreview.com/

Dydd Mawrth 28 Mai ar Lwyfan Landmarc 100 am 7yh
Fe fydd Matthew Francis a Tiffany Atkinson, y ddau o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Aberystwyth, yn darllen o'u casgliadau barddoniaeth newydd ar Lwyfan Landmarc. Bydd Francis yn darllen o'i gasgliad Faber newydd, Muscovy, sy'n archwilio byd o ryfeddodau, real a gwych. Bydd Atkinson yn rhagweld ei chasgliad 2014 Bloodaxe SoMany Moving Parts, a bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan Simon Mundy.

Dydd Mercher 29 Mai yn y Google’s Big Tent am 7yh
Bydd Damian Walford Davies ac Owen Sheers yn dathlu canmlwyddiant geni RS Thomas. Gwahoddwyd 11 o feirdd i ysgrifennu cerddi mewn ymateb i gerddi RS Thomas; byddant yn cael eu cyhoeddi mewn argraffiad cyfyngedig gan Wasg Gŵyl Y Gelli. Bydd y darlleniad gala hefyd yn cynnwys Gillian Clarke, Menna Elfyn, Mererid Hopwood, Emyr Lewis, Anna Lewis, Glyn Maxwell, Grahame Davies a Simon Armitage ac mae'r digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2012-2013, Eurig Salisbury.

Dydd Mercher 29 Mai yn y Tŷ Haf am 4yh - Derbyniad Aberystwyth yn y Gelli
Fel rhan o bresenoldeb helaeth Prifysgol Aberystwyth yn ystod yr wŷl eleni, mae’r Is-Ganghellor, April McMahon, yn estyn croeso i dderbyniad diodydd a chanapés Aberystwyth yn y Gelli a fydd yn cynnwys darlleniad arbennig gan y bardd a'r awdur Owen Sheers. Bydd Sheers yn cael ei gyflwyno yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn ystod dathliadau Wythnos Raddio'r Brifysgol ym mis Gorffennaf 2013.

Dydd Sadwrn 1 Mehefin yn Llwyfan Landmarc 100 am 2.30yh
Bydd Damian Walford Davies yn dychwelyd i’r llwyfan ar y 1af o Fehefin i siarad â Jill Piercy a Peter Lord. Mae llyfr eiconig Brenda Chamberlain, The Water-castle, newydd ei gyhoeddi fel rhan o gyfres Library of Wales. Bydd ei chofiannydd, Jill Piercy, yn trafod ei bywyd a'i gwaith gyda’r hanesydd celf Peter Lord, sy'n ceisio diogelu murluniau Chamberlain ar Ynys Enlli, a’r bardd Damian Walford Davies, sydd newydd olygu ei drama The Protagonists, a ddechreuodd ei ysgrifennu ar yr ynys Roegaidd Hydra yn ystod coup d'état y coroneliaid ym 1967.

Dydd Sadwrn 1 Mehefin ar Lwyfan Cymru am 10yb
Bydd Owen Sheers yn darllen ei waith newydd Pink Mist, sy'n ddrama fydr am gyfeillgarwch mewn rhyfel modern fel y'i gwelir trwy storïau o filwyr yn gwasanaethu yn Afghanistan, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae Pink Mist wedi’i seilio ar gyfweliadau gyda chyn-filwyr clwyfedig ac yn naratif telynegol o ddwyster dramatig ac emosiynol prin. Bydd y sesiwn yn cael ei gyflwyno gan Francesca Rhydderch, cyn-olygydd New Welsh Review.

Dydd Sadwrn 1 Mehefin ar y Llwyfan Digidol am 5.30yh
Bydd Francesca Rhydderch yn rhannu llwyfan gyda’i chyd ysgrifennwyr Alicia Foster a Joanna Rossiter ar 1 Mehefin mewn sesiwn dan gadeiryddiaeth Lisa Dwan. Mae Warpaint gan Foster yn stori rymus am wirionedd a chelwyddau, trasiedi a chomedi du, sydd wedi ei seilio’n fras ar fywydau pedwar arlunydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae The Sea Change gan Rossiter yn nofel swynol a theimladwy am fam a merch, sydd wedi’i dal rhwng swnami a rhyfel. Yn The Rice Paper Diaries gan Rhydderch, mae pedwar hanesyn yn cydblethu’r hafoc personol sy’n cael ei achosi gan wrthdaro milwrol ar fywydau unigolion.

AU14113