Llyfr y Flwyddyn
Dr Matthew Francis
15 Mai 2013
Mae casgliad o straeon byrion gan Dr Matthew Francis o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth wedi ei gynnwys ar y rhestr fer gwobr Wales Book of the Year.
Mae Singing a Man to Death yn un o dair cyfrol ar y Rhestr Fer Ffuglen. The Testimony gan James Smythe a A Girl’s Arm gan Gee Williams yw’r ddwy arall.
Cafodd mwy na 100 o lyfrau Saesneg cymwys eu cyflwyno ar gyfer gwobr 2013 ac mae 9 wedi ymddangos ar y rhestr fer, tair yn y tri chategori – Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias; Ffuglen; Ffeithiol Creadigol.
Cyhoeddwyd Singing a Man to Death, casgliad o straeon byrionsydd yn nodedig am eu hystod, soffistigeiddrwydd a darllenadwyedd, gan Cinnamon Press.
Mae Dr Francis wrth ei fodd ei fod wedi ei gynnwys ar y rhestr fer. "Ar adegau nid yw’r stori fer fel ffurf yn cael sylw haeddiannol”, dywedodd. "Rwy’n frwd iawn dros y ffurf yma, ac yn ceisio trosglwyddo’r brwdfrydedd hwn i’m myfyrwyr ysgrifennu creadigol.”
"Rwyf hefyd yn falch iawn dros Cinnamon," ychwanegodd. "Maen nhw wedi gwneud llawer o waith dros lenyddiaeth yng Nghymru, ac mae hyn wedi’i gydnabod unwaith eto."
Derbyniodd cyhoeddiad arall gan Cinnamon, I Spy Pinhole Eye gan Philip Gross, wobr Wales Book of the Year Award yn 2010.
Mae Dr Francis yn Ddarllenydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae’n fardd cydnabyddedig, ac mae ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Muscovy, newydd ei gyhoeddi gan Faber and Faber, ac wedi derbyn adolygiadau rhagorol.
Ysgrifennodd The Guardian: "Mae'r straeon yma o'r annisgwyl yn wledd, ac yn cyfuno triciau moderniaeth golau gyda gwawr ffosfforig 'y noson hir a elwir yn / y bedwaredd ganrif ar bymtheg', llawn gwewyr a hudoliaeth."
Dywedodd The Sunday Telegraph: "Mae ysbrydion ac eneidiau unig yn aflonyddu’r tudalennau yma, ond mae chwarae efo geiriau yn creu ymdeimlad o hwyl sy'n cynyddu'r mwynhad."
Ei gasgliadau eraill o farddoniaeth:
Mandeville (Faber, 2008); Whereabouts (Rufus Books, 2005); Dragons (Faber, 2001) – cafodd ei chynnwys ar restr fer gwobr Forward Prize a gwobr The Welsh Book of the Year Award; Blizzard (Faber, 1996) – cafodd ei chynnwys ar restr fer gwobr Forward Prize ac enillydd gwobr Southern Arts Prize. Ef hefyd yw awdur yr astudiaeth feirniadol: Where the People Are: Language and Community in the Poetry of W.S. Graham (Salt, 2004) a’r nofel WHOM (Bloomsbury, 1989), ac mae’n yn olygydd cyfrol o farddoniaeth gan W.S. Graham New Collected Poems (Faber, 2004).
Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar gyfres newydd sydd wedi ei seilio yng Nghymru ac yn Llundain yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal â chasgliad newydd o gerddi.
Gwobr Wales Book of the Year 2013
Beirniaid llyfrau Saesneg gwobr Wales Book of the Year Award eleni yw’r awdur a’r ymgynghorydd busnes Ffion Hague, y nofelydd ffantasi poblogaidd Jasper Fforde, a’r darlithydd a’r bardd Richard Marggraf Turley.
Yn dilyn y cyhoeddiad, caiff darllenwyr Cymru leisio’u barn a dweud pwy ddylai ennill Gwobr Wales Book of the Year Award yn eu tyb nhw trwy bleidleisio dros eu hoff lyfr ar y Rhestr Fer ar wefan Wales Online: www.walesonline.co.uk
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, a chyflwynir gwobr ychwanegol o £6,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Caiff enillydd gwobr Wales Book of the Year Award, ynghyd ag enillydd Barn y Bobl eu cyhoeddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 18 Gorffennaf 2013.
Mae Rhestr Fer Blwyddyn 2013 fel a ganlyn:
Rhestr Fer Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias:
Rhian Edwards, Clueless Dogs (Seren)
Deryn Rees-Jones, Burying of the Wren (Seren)
Samantha Wynne-Rhydderch, Banjo (Picador)
Rhestr Fer Ffuglen:
James Smythe, The Testimony (Blue Door)
Gee Williams, A Girl’s Arm (Salt Publishing)
Matthew Francis, Singing a Man to Death (Cinnamon Press)
Rhestr Fer Ffeithiol Creadigol:
John Harrison, Forgotten Footprints (Parthian)
Jon Gower, Wales at Water’s Edge (Gwasg Gomer)
Meic Stephens, Welsh Lives (Y Lolfa)
Wales Book of the Year Award
http://www.llenyddiaethcymru.org/news/i/143076/
AU17113