Cymeradwyo cymorth gadael gofal
Buttle UK
14 Mai 2013
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn adroddiad gwych gan Buttle UK, yr elusen fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi er mwyn rhoi cyfle teg iddynt.
Yn dilyn ymweliad gan Gadeirydd Ymddiriedolwyr Buttle UK, David Anderson, cydnabuwyd fod strwythurau cymorth gadael gofal y Brifysgol yn fwy na'r hyn sy’n ofynnol. Ni nodwyd fod angen gwella ar unrhyw faes.
Wrth adrodd ar ei ymweliad, a oedd yn cynnwys trafodaethau gyda myfyrwyr sydd wedi gadael gofal, dywedodd David Anderson, "Mae eich ffocws ar ehangu mynediad yn amlwg yn ôl y drafodaeth ac o ddarllen eich cynllun strategol. Roeddem yn chwilio am feysydd i'w gwella a ni ddaethom o hyd i’r un. Roedd hi’n amlwg i mi fod cefnogaeth ar gael i’r rheiny sy’n gadael gofal o adeg cyflwyno’r cais ac wedi ei hymgorffori yn eich diwylliant a'ch systemau. "
Dyfarnwyd y Marc Ansawdd gan Buttle UK i Brifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf yn 2008 yn gydnabyddiaeth o’i chynlluniau uchelgeisiol i weithio gyda phobl ifanc sy'n mynychu'r Brifysgol ac sydd wedi bod mewn gofal.
Ers derbyn y wobr, mae'r Brifysgol wedi sicrhau bod ei strwythurau a’i systemau yn parhau i gwrdd ag anghenion yr holl fyfyrwyr ac yn enwedig y rhai sy'n dod i'r Brifysgol o gefndiroedd mwy heriol.
Dywedodd yr Athro April McMahon Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae profiad myfyrwyr yn ganolog i ni yn Aberystwyth, ac mae hynny'n golygu trin pob myfyriwr fel unigolyn. Fodd bynnag, mae'n arbennig o braf ein bod wedi cael ein cydnabod fel cystal darparwr ar gyfer myfyrwyr sy'n wynebu heriau penodol. Mae gennym strwythurau cymorth priodol ar gyfer yr holl bobl ifanc, gan gynnwys y rheiny sy'n gadael gofal, o'r eiliad y maent yn gwneud cais i'r Brifysgol hyd at raddio ac ymuno gyda’n cymuned o gyn-fyfyrwyr. "
Dywedodd Dr Debra Croft, Rheolwr Ehangu Cyfranogiad, "Rydym wedi gweithio'n galed i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau i helpu'r rheiny sy'n gadael gofal cyn iddynt gyrraedd, ar ôl iddynt gyrraedd a hyd iddynt raddio. Mae arfer gorau Buttle UK o gael un person a enwir yn helpu gyda hyn - mae person sy'n gadael gofal yn aml wedi cael anawsterau mewn bywyd, heb lawer o gysondeb, dyma un ffordd y gallwn ddechrau adeiladu eu hymddiriedaeth a phrofi llwyddiant."
Mae Aberystwyth wedi cyflwyno a gwella ar fesurau i gefnogi pobl ifanc mewn gofal sy'n ystyried gwneud cais i Aberystwyth, a rheiny sydd wedi gadael gofal ac sydd eisoes yn astudio yn y Brifysgol.
Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen blaenoriaeth i gymryd rhan mewn amrywiol brosiectau ehangu mynediad, gan gynnwys y cynllun Prifysgol Haf neu adolygu TGAU Ehangu Gorwelion.
Mae'r Brifysgol yn darparu cyngor ac arweiniad drwy'r broses ymgeisio, gan gynnwys cymorth ar gyfer Diwrnodau Agored ac Ymweld a all fod yn anodd i unigolion sy'n gadael gofal ac sy’n mynd ar eu pen eu hunain.
Wrth gofrestru, maen nhw’n gymwys ar gyfer Pecyn Dechrau Gwell yn ystod Wythnos y Glas er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.
Mae'r holl bobl sy'n gadael gofal yn sicr o lety 365 diwrnod y flwyddyn, ac yn gallu manteisio ar ddarpariaeth bwrsariaethau a mentora hael.
Buttle UK
Buttle UK http://www.buttleuk.org/, a elwid gynt yn yr Ymddiriedolaeth Frank Buttle, yw'r elusen fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol sy’n darparu cymorth grant i "blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi i roi cyfle teg iddyn nhw". Fe'i sefydlwyd yn 1937 ac yn weithredol ers 1953, mae'r elusen wedi cynorthwyo miloedd o blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y DG sydd mewn sefyllfa fregus.
Yng ngeiriau myfyrwyr sydd wedi gadael gofal:
"... Weithiau gall deimlo fel mai chi yw'r unig un, OND mae clywed eraill yn siarad yn gwneud i mi sylweddoli’r gefnogaeth wych yr ydych wedi eu cynnig i bob un ohonom a sut rydych chi a'ch tîm yn parhau i helpu eraill mewn angen.... . Diolch i chi am eich cefnogaeth drwy gydol fy mywyd fel myfyriwr yma." [L. 3edd flwyddyn, myfyrwraig Daearyddiaeth]
"... Un o'r pethau rwy’n teimlo yw y gallaf bob amser gysylltu â rhywun am help, ac y bydd yn digwydd, nid yw hyn wedi bod yn wir bob amser yn y gorffennol, gyda gweithwyr cymdeithasol ac athrawon." [F. 3ydd blwyddyn, myfyriwr y Gyfraith]
AU17013