Hudo gan blanhigion
Dr Julie Hofer gyda Anthurium andraenum un o’r planhigion cyfareddol yng Ngardd Botaneg Prifysgol Aberystwyth
10 Mai 2013
: Bydd digwyddiadau sy'n dathlu planhigion yn cael eu cynnal ledled y byd ar 18fed o Fai, diolch i'r fenter hon dan arweiniad Sefydliad Gwyddoniaeth Planhigion Ewrop (EPSO). Yn Aberystwyth bydd staff o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn arwain y digwyddiad.
Nod y diwrnod yw hudo ac ennyn brwdfrydedd pawb am blanhigion a phwysigrwydd gwyddor planhigion ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth, bwyd, papur, pren, cemegau, ynni, a fferylliaeth. Mae rôl planhigion mewn cadwraeth amgylcheddol yn neges allweddol hefyd.
Bydd arddangosfeydd rhyngweithiol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a bydd tŷ gwydr Gerddi Botaneg y Brifysgol ar agor o 10:00 y bore hyd 4:00 y prynhawn. Gall ymwelwyr fynd ar daith dywys neu grwydro drwy'r tŷ gwydr eu hunain.
Dywedodd Dr Julie Hofer, Gwyddonydd Ymchwil yn IBERS a threfnydd y digwyddiad, "Mae planhigion yn sylfaenol i'n bodolaeth, gan roi aer i ni anadlu a bwyd i ni fwyta. Nid ffrwythau a llysiau yn unig chwaith, rwy’n cyfeirio at bron popeth rydym yn ei fwyta. Ni fyddai gennym gig eidion na chig oen heb laswellt a meillion, ni fyddai unrhyw sglodion heb datws, na bara heb rawnfwydydd.
“Ychydig iawn o ffynonellau bwyd sy’n bodoli heb gymorth planhigion. Ac nid dyna’r cyfan. Mae tanwydd, meddyginiaethau, deunyddiau adeiladu, ffibrau a phapur yn cael eu gwneud o blanhigion ac mae planhigion hefyd yn darparu gwasanaeth megis rheoli llifogydd, yn ogystal â gwella ein mannau hamdden. Maen nhw’n amhrisiadwy o bwysig".
Mae tua 250,000 o wahanol fathau o blanhigion sy’n blodeuo ar y ddaear, yn cynnwys rhai sy'n wirioneddol ryfedd a chyfareddol. Yn yr Ardd Botaneg gallwch weld, ac weithiau arogli, lili arum anferth sy'n arogli fel cnawd yn pydru, gan ddenu pryfed i weithredu fel peillwyr. Cewch hefyd weld planhigion cigysol sy'n bwydo ar bryfed, y perlysiau mwyaf sy’n blodeuo ( banana), planhigion sy'n dynwared wyau ieir bach yr haf sydd newydd eu dodwy, mimosa sensitif sy'n ymateb wrth i chi ei gyffwrdd, heb sôn am rai o'n hoff blanhigion fel coco a choffi.
Ychwanegodd Dr Hofer: "Mae planhigion yn hudolus. Rydym yn awyddus i rannu cyfrinachau’r byd planhigion gyda chynulleidfa ehangach, ac i drafod sut mae gwyddorau planhigion yn helpu i fynd i'r afael â’r heriau byd-eang, o ddiogelwch bwyd ac ynni.
"Rydym yn gobeithio bydd y Diwrnod Chwilfrydedd mewn Planhigion yn ysbrydoli pobl i werthfawrogi pwysigrwydd planhigion ac i ddeall y berthynas rhwng planhigion a phoblogaeth iach. "
Bydd arddangosfeydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnwys esblygiad grawnfwydydd a'u chwyn - gan gynnwys stori psychotoxins mewn hanes a diwylliant. Bydd yr arlunydd Becky Knight wrth law i annog ymwelwyr i beintio â phigmentau planhigion. Bydd arddangosfa arall yn tynnu DNA o blanhigion a thrafod sut mae cod genynnau DNA yn cael eu defnyddio wrth fridio planhigion.
‘Does dim angen archebu lle, dim ond galw draw yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neu Ardd Botaneg y Brifysgol unrhyw bryd rhwng 10:00a.m- a 4:00p.m ar ddydd Sadwrn 18 Mai, 2013. Mae’r Ardd Botaneg wedi’i lleoli gyferbyn â phrif fynedfa campws Penglais. Mae parcio yn gyfyngedig iawn yn yr Ardd Fotaneg, felly cerddwch, dewch ar feic neu fws, neu parciwch ger Canolfan y Celfyddydau os gwelwch yn dda.
AU15913