Myfyrwyr yn gwobrwyo cefnogaeth rhagorol
Yr Is-Ganghellor a'r Dirprwy Is-Gangellorion efo'r swyddogion yr Undeb newydd
01 Mai 2013
Yr Adran Addysg a Dysgu Gydol Oes enillodd Adran y Flwyddyn yn ail seremoni Wobrwyo Dysgu dan arweiniad myfyrwyr ar ddydd Mawrth 30 Ebrill ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyhaliwyd y noson gan Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr Jess Leigh, a'r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol, yn ddathliad o ragoriaeth addysgu yn ogystal â chyfraniad staff cymorth a chynrychiolwyr y myfyrwyr.
Cynigwyd yr enwebiadau ar gyfer y Gwobrau gan fyfyrwyr ar-lein ac mewn blychau pleidleisio confensiynol - nifer ohonynt mewn lleoliadau gwahanol ar draws y Brifysgol.
Derbyniwyd dros 250 o enwebiadau gyda'r enillwyr a'r rhai a dderbyniodd glod gan banel o feirniaid: Jess Leigh, Swyddog Addysg, Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor, John Glasby, Prif Weithredwr yr Undeb, Grace Burton Darpar Swyddog Addysg a’r Swyddog Polisi Rees Kieron o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Jess Leigh:"Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr o ganlyniad i gefnogaeth staff a myfyrwyr. Oni bai am eu brwdfrydedd, ni fyddai wedi bod yn gymaint o lwyddiant. Roedd yn gyfle i fyfyrwyr ddiolch a gwobrwyo staff ymhob rhan o’r brifysgol am y gwaith y maent wedi'u wneud gyda nhw ac ar eu cyfer, ac i ddathlu gyda'i gilydd.
Dywedodd yr Athro John Grattan: "Mae hon yn fenter ragorol ar ran Undeb y Myfyrwyr ac rwy'n eu llongyfarch ar yr hyn a oedd yn noson lwyddiannus iawn. Mae'n bleser mawr i weld ein myfyrwyr yn pleidleisio dros ragoriaeth mewn addysgu, datblygu cyflogadwyedd a chefnogi lles myfyrwyr. Un o'r pethau arbennig am bawb sy'n gweithio i Brifysgol Aberystwyth yw ein ymrwymiad i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn yr addysg a'r cymorth gorau posibl, a hynny mewn amgylchedd wych.
"Mae hefyd yn dda gweld staff cymorth yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad yn ogystal â'r myfyrwyr sy'n chwarae rhan mor weithredol wrth ddarparu adborth i Adrannau."
Mae rhestr lawn o'r enillwyr ac enwebeion yn is. Llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd wobr a'r rhai a enwebwyd, a diolch i'r cannoedd o bobl sy'n gwneud enwebiadau.
Staff cymorth y wobr flwyddyn
Gwenan Creunant, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Addysgu Arloesol
Dr Alun Hubbard, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Tiwtor Personol y Flwyddyn
Balasz Pinter, Sefydliad Mathemateg a Ffiseg
Addysgu drwy Dechnoleg
Dr Madeline Carr, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Effaith Cyflogadwyedd
Dr Iwan Owen, Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Gwobr Addysgu Rhagorol
Mike Smith, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Cynrychiolydd ôl-raddedig y flwyddyn
Alexandra Kilcoyne, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Cynrychiolydd israddedig y flwyddyn
Kevin Wingfield, Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol
Adran y Flwyddyn
Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes