Teyrnas hynafol y Nîl

Yr Athro Mark Macklin yn casglu samplau o hen sianel yr afon Nîl.

Yr Athro Mark Macklin yn casglu samplau o hen sianel yr afon Nîl.

30 Ebrill 2013

Mae ymchwilwyr wedi datrys y dirgelwch ynghylch sut y llwyddodd un o wareiddiadau mwyaf Affrica oroesi sychdwr trychinebus a ddinistriodd freninliniau enwog eraill.

Yn ôl geomorffolegwyr ac arbenigwyr dyddio o brifysgolion Aberystwyth, Manceinion ac Adelaide, yr Afon Nîl a sicrhaodd fod teyrnas adnabyddus Kerma, sydd yn yr ardal sy’n cael ei hadnabod bellach fel gogledd Sudan, yn llwyddo.

Kerma oedd y deyrnas Oes Efydd gyntaf yn Affrica y tu allan Aifft.

Mae eu dadansoddiad o dair sianel afon hynafol lle bu’r Nîl yn arfer llifo, yn dangos am y tro cyntaf, nad oedd ei llifogydd yn rhy isel nac yn rhy uchel i gynnal bywyd rhwng 2,500 CC a 1,500 CC, cyfnod ffyniannus yn hanes Kerma a oedd yn gystadleuydd pwysig i’r cymydog mwy adnabyddus i lawr yr afon.

Maent hefyd yn dangos bod y gwareiddiad mil o flynyddoedd wedi dod i ben oherwydd bod lefelau llifogydd y Nîl yn annigonol a bod sianel bwysig wedi sychu - er taw ymosodiad gan yr Eifftiaid fu’n gyfrifol am dranc Kerma yn y diwedd.

I lawr yr afon yn yr Aifft, cafwyd sychdwr 30 mlynedd trychinebus 4,200 o flynyddoedd yn ôl, a llifogydd isel ar y Nîl, gan achosi anrhefn yn yr hen deyrnas am o leiaf ganrif.

Dioddefodd gwareiddiadau eraill yn y dwyrain agos a tharwyd Mesopotamia gan sychdwr mawr.

Cyhoeddwyd canfyddiadau'r tîm, sydd wedi eu cyllido gan Gymdeithas Ymchwil Archeolegol Sudan (SARS) a Cyngor Ymchwil Awstralia, yn y cyfnodolyn ‘Geology’.

Dywedodd yr Athro Mark Macklin o Brifysgol Aberystwyth: "Mae’r gwaith hwn yn cynrychioli’r set ddata archeolegol a phalaeoamgylcheddol mwyaf cynhwysfawr a chadarn a gasglwyd hyd yma ar gyfer anialwch Nîl.

"Ychydig yr ydym yn ei ddeall am y berthynas rhwng newid yn yr hinsawdd a datblygiad gwareiddiadau ar hyd afonydd yn yr Hen Fyd gan fod rheolaeth dyddio annigonol wedi llesteirio’r gwaith o integreiddio cofnodion archeolegol, afonol, a hinsawdd yn effeithiol."

Dywedodd yr Athro Jamie Woodward o Brifysgol Manceinion: "Yn Nubia bedair mil o flynyddoedd yn ôl roedd pobl Kerma'n ffermio'r hyn y gallem ei alw'n “Goldilocks y Nîl”: roedd ei llifogydd yn ddigon mawr i gynnal ffermio gorlifdir, ond nid mor fawr fel ei fod yn difrodi i'r aneddiadau ar lan yr afon."

"Mae'n eithaf rhyfeddol bod y gwareiddiad Kerma wedi llwyddo i ffynnu, cynhyrchu crefftwaith anhygoel a chyfoeth ar adeg pan yr oedd eu gelynion ychydig i’r gogledd, yn yr Aifft, yn ymgodymu â checru amgylcheddol, cymdeithasol, a gwleidyddol.

"Tan hyn nid oeddem yn deall pam fod hyn yn digwydd, ond diolch i’r gwaith maes yn y Sudan mae’r dirgelwch wedi ei ddatrys."

Defnyddiodd y tîm y dulliau dyddio daearegol diweddaraf er mwyn dadansoddi'r sianelau sych, sydd bellach 20 km i ffwrdd o gwrs yr afon heddiw. Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiadau llifogydd unigol gael ei dyddio yn anialwch y Nîl.

Drwy ddefnyddio cannoedd o byllau dyfrhau dwfn a gloddiwyd gan ffermwyr modern Swdan, llwyddodd Macklin a Woodward i edrych ar hanes daearegol yr hen sianeli. Mewn mannau mae'r hen sianelau wedi eu cadw'n dda ar wyneb presennol y tir. Maent rhwng 1 a 3 km o led â safleoedd Kerma ar eu cyrion.

Yn ôl Derek Welsby o'r Amgueddfa Brydeinig a fu'n arwain yr arolwg archeolegol, mae’n bosibl taw tiroedd cyfoethog ar lannau’r sianeli hynafol oedd sail cyfoeth a grym y Kerma.

Mae arolygon archeolegol o orlifdir yn ardal Dongola i’r de o Kerma wedi darganfod mwy na 450 o safleoedd sy'n rhychwantu’r cyfnod Neolithig (cyn-3500 CC) a’r cyfnod Cristnogol Canoloesol (500-1500 OC). Mae cysylltiad rhwng llawer o safleoedd a sianelau hynafol y Nîl.

Dywedodd: "Roedd llwyddiant Kerma hefyd yn deillio o’i dibyniaeth ar arferion hwsmonaeth anifeiliaid sy'n llai agored i newidiadau yn lefel y llifogydd, yn fwy symudol, ac yn fwy abl i ymdopi â straen amgylcheddol.

"Roedden nhw'n wareiddiad gwirioneddol ryfeddol, ac yn cynhyrchu rhai o ddarnau o grochenwaith mwyaf gogoneddus yn Nyffryn Nîl."

AU15513