Merlod brodorol Cymru’n unigryw

Merlod gwyllt y Carneddau

Merlod gwyllt y Carneddau

26 Ebrill 2013

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi canfod bod y merlod gwyllt sy’n pori ar Fynyddoedd y Carneddau yng ngogledd Cymru yn boblogaeth unigryw yn enetig.

Am y rheswm hynny dylid eu cadw er mwyn diogelu eu bodolaeth. Mae cadw adnodd genetig unigryw merlod y Carneddau yn arbennig o hanfodol gan fod stormydd gaeafol o eira yn ddiweddar wedi arwain at farwolaeth llawer o’r anifeiliaid hyn, gan leihau eu nifer yn sylweddol.

Cafodd yr  astudiaeth, y cyntaf i nodweddion genetig y merlod gwyllt, sydd â’u cynefin yn cyrraedd uchder o dros 600 metr yng ngogledd Eryri, ei gynnal gan wyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Defnyddiodd y tîm samplau a gasglwyd yn yr helfa flynyddol o ferlod uwchben pentref Llanfairfechan.

Y nod oedd canfod i ba raddau mae merlod y Carneddau yn perthyn yn enetig i fridiau brodorol eraill yn y DG ac yn arbennig a wahanodd y brid yn gymharol ddiweddar o’r merlyn  Cymreig  Adran A. Y Merlyn Cymraeg Adran A yw'r brîd cofrestredig sydd agosaf yn ddaearyddol ac mae’n edrych yn debyg i ferlyn y Carneddau.

Casglwyd samplau blew o’r Merlyn Cymraeg Adran A, y Merlyn Adran D, merlod Connemara, merlod yr Ucheldir ac o ferlod y Carneddau yn ystod eu helfa blynyddol yn yr hydref. Tynnwyd DNA o'r blew a'u brofi gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth.

I sicrhau cadernid yr ymchwil , dadansoddwyd yr amrywiaeth genetig yn drylwyr gan ddefnyddio tair techneg fodern: genoteipio microloerennol; genoteipio polymorffaidd niwcliotid sengl a dilyniant DNA mitocondraidd.

Datgelodd Clare Winton, myfyriwr uwchraddedig yn IBERS fu’n cynnal yr astudiaeth fel rhan o'i hymchwil PhD: "Er bod merlod y Carneddau’n rhannu achau â’r merlod Cymreig Adran A, mae ganddyn nhw lofnodion genetig fel mwtanau unigryw  tra'n cynnal amrywiaeth genetig uchel. Mae hyn yn dangos  bod y boblogaeth, wedi bod yn ynysig am o leiaf cannoedd o flynyddoedd. Felly, mae merlod y Carneddau’n boblogaeth unigryw yn enetig. "

Yn hanesyddol yng nghyfnod y Tuduriaid, gorchmynnodd y Brenin Harri’r VIII y dylid dinistrio merlod brodorol gwyllt oherwydd na fedrent gario marchog yn ei arfwisg lawn, ond, diolch i ymdrechion cenedlaethau o ffermwyr sy’n amaethu mewn amodau heriol iawn ac oherwydd nad ymyrrwyd â’r brîd yn ddwys iawn, fe’u diogelwyd a goroesodd y merlod.

"Mae bodolaeth merlod y Carneddau dan fygythiad oherwydd bwysau ariannol fel y costau sy'n gysylltiedig â'r gofyniad cyfreithiol i gael pasbort a microsglodyn ar gyfer pob ceffyl yn y DG," ychwanegodd Dr Nash, Darlithydd mewn Astudiaethau Ceffylau a Gwyddor Anifeiliaid ac un o ymchwilwyr IBERS.

"Mae poblogaethau sy’n cael eu hystyried yn 'brin' yn cael eu heithrio o’r angen am basbortau a microsglodion wrth barhau i fyw’n rhydd."

Mae'r swyddogaeth hanfodol i ferlod y Carneddau yn ecoleg mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri, gan eu bod yn rhan o gynllun pori i gynnal cynefin yr aderyn prin, y frân big goch.

AU10813