Cynghori gweinidog

Dr Rhian Hayward

Dr Rhian Hayward

10 Ebrill 2013

Penodwyd Dr Rhian Hayward o Brifysgol Aberystwyth yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru  (WIDAB) gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart.

Mae WIDAB yn cynghori'r Gweinidog ar gymorth ariannol i ddiwydiant. Mae Dr Hayward yn aelod o Dîm Trosglwyddo Technoleg adran Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori’r (CCS) Brifysgol.

Egluro Dr Hayward: "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy newis gan y Gweinidog i eistedd ar y Bwrdd. Mae gweithgarwch aruthrol yn digwydd ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru i hwyluso arloesi yng Nghymru a buddsoddiad i mewn i'r rhanbarth.

"Mae WIDAB yn chwarae rôl bwysig wrth gynghori Llywodraeth Cymru ar gymorth ariannol i gwmnïau ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr. Mae'r cwmnïau sy’n ymgeisio yn aml yn sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â chwmnïau ‘angor’ cenedlaethol ac mae’r prosiectau a argymhellir yn allweddol i ddiogelu a chreu swyddi drwy eu denu i Gymru.

"Fel aelod WIDAB byddaf yn cael y cyfle i ryngweithio â holl Dimau Sector Llywodraeth Cymru sydd â'r dasg o ddenu busnes i’n rhanbarth. Edrychaf ymlaen at y rhyngweithio ac i ddod â safbwynt y brifysgol yn ogystal â'm profiad masnachol, at y Bwrdd."

Cyn ymuno â CCS yn 2009 sefydlodd Rhian ei chwmni ei hun, Rhian Hayward Consulting Ltd, sydd yn cynghori buddsoddwyr, prifysgolion a busnesau bach a chanolig ar fasnacheiddio cyfnod cynnar technolegau gwyddorau bywyd.

Mae ei phrofiad mewn datblygu technoleg yn deillio o rolau masnachol amrywiol o fewn y diwydiant biotechnoleg a gwaith ymgynghori technegol gyda sefydliadau masnachol ledled y DG.

Mae Dr Hayward yn un o bedwar penodiad i Fwrdd Ymgynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru. Yn ymuno â’r bwrdd ar yr un pryd y mae Michael Greenway OBE, Michael Macphail a Dr Jo Macpherson.

AU10013