Iechyd gwledig a lles cymunedol

Mr Manoj Kulshrestha

Mr Manoj Kulshrestha

03 Ebrill 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi penodiad Mr Manoj Kulshrestha fel Darllenydd cyntaf Cymru mewn Iechyd Gwledig a Lles Cymunedol.

Mae’r swydd yn cydnabod y cyfle unigryw sydd gan y GIG a’r prifysgolion lleol yng Ngorllewin Cymru i weithio mewn partneriaeth gan ailddiffinio sut y gall polisïau a gwasanaethau wella iechyd a lles pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig.

Bydd Mr Kulshrestha, Offthalmolegydd Ymgynghorol blaenllaw sy’n gweithio yn Ysbyty Bronglais a Meddygfa Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth, yn cychwyn yn y swydd ar 1 Mai 2013 am gyfnod cychwynnol o 12 mis.  

Wedi’i benodi ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bydd Mr Kulshrestha hefyd yn gweithio’n agos â’r Bwrdd Iechyd i ddarparu cyngor ar faterion polisi a gwasanaeth ac i sicrhau grantiau a chyllid ymchwil i greu fframwaith ymchwil ategol, hunangynhaliol ar gyfer y swydd.

Dywedodd Mr Kulshrestha, Darllenydd mewn Iechyd Gwledig a Lles Cymunedol:  “Rwy’n edrych ymlaen at fy rôl newydd fel Darllenydd mewn Gofal Iechyd a Lles Gwledig.  

“Mae yna heriau unigryw ynghlwm wrth ddarparu gofal iechyd yn ardaloedd gwledig Cymru. Bydd y swydd hon yn canolbwyntio ar feysydd ymchwil a datblygu polisi gan gynnwys cydlyniant a chyswllt â’r gymuned, rôl iechyd a lles mewn adfywio gwledig, gwella mynediad i wasanaethau mewn ardaloedd gwledig ac integreiddio gwasanaethau a datblygu’r gweithlu.

“Byddwn yn edrych ar sut y gall telefeddygaeth a theleiechyd wella’r cyfathrebu rhwng cleifion a staff. Mae iechyd yn werthfawr, a thrwy helpu cymunedau i fyw bywydau mwy iach a gweithgar, darparu gofal yn lleol i’r gymuned, a datblygu ein gweithlu cymunedol, rydym yn gobeithio newid pwyslais y gofal o’r prif ysbytai i’r canolfannau cymunedol yn yr ardaloedd gwledig.”                              

Croesawyd y penodiad gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Trevor Purt: “Mae’n bwysicach nag erioed inni nodi a datblygu’r gwasanaethau y mae ein cymunedau gwledig eu hangen i fyw bywydau hirach a mwy iach. Mae’n wych bod Mr Kulshrestha, ymgynghorydd gyda’r Bwrdd Iechyd sy’n amlwg yn angerddol dros ddarparu gofal mewn ardaloedd gwledig, wedi’i benodi i’r swydd unigryw ac arloesol hon.

“Bydd gwaith y Darllenydd mewn Iechyd Gwledig a Lles Cymunedol yn dylanwadu ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu a’r modd y caiff polisïau cenedlaethol eu gweithredu er budd ein cymunedau am flynyddoedd i ddod.”

Meddai’r Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor o Brifysgol Aberystwyth:  “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Athrofa’r Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y swydd hon, sy’n cynrychioli partneriaeth unigryw rhwng Hywel Dda a dau Sefydliad Addysg Uwch, yn darparu sylfaen ar gyfer ymchwil blaengar a chyffrous ar hyrwyddo iechyd a lles gyda, ac ar gyfer, pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Rwy’n wirioneddol falch ynglŷn â’r posibilrwydd o ddylanwadu ar drafodaethau gofal iechyd yng Nghrymu a’r byd ehangach. Bydd penodiad Mr Kulshrestha yn arwain at gyfleoedd newydd strategol inni rwydweithio a gweithio mewn partneriaeth er budd cymunedau lleol a, thrwy hynny, creu cyfleodd newydd o ran addysg, hyfforddiant a datblygu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd a’r sector cyhoeddus yn ehangach.”

Meddai Jane Davidson, Cyfarwyddwr Sefydliad Cynaliadwyedd Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr croesawu Mr Kulshrestha i’r Brifysgol. Gan y bydd y swydd wedi’i lleoli’n rhannol yn Llanbedr Pont Steffan, mae yna gyfle ardderchog i’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd weithio ochr yn ochr i edrych yn arloesol ar sut i wella lles cymunedol yng Ngorllewin Cymru. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’n colegau partneriaethol, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, yng nghyswllt y swydd newydd hon i ddatblygu cyfleoedd hyfforddi newydd ar bob lefel.”

Mae’r Darllenydd mewn Iechyd Gwledig a Lles Cymunedol yn gyfrifol am arwain ymchwil a datblygu polisïau ar gyfer y prifysgolion partneriaethol a Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn perthynas â phedwar maes allweddol: Cydlyniant a chyswllt â’r gymuned; Rôl iechyd a lles mewn adfywio gwledig; Gwella mynediad i wasanaethau mewn ardaloedd gwledig; Integreiddio gwasanaethau a datblygu’r gweithlu.

AU6813