Llyfrgellydd Cenedlaethol newydd

Yr Athro Aled Gruffydd Jones

Yr Athro Aled Gruffydd Jones

25 Chwefror 2013

Cyhoeddwyd taw Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Adran y Gymraeg y Brifysgol, yr Athro Aled Gruffydd Jones, fydd yn cael ei gyflwyno fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gyda chymeradwyaeth y Bwrdd ar 8 Mawrth 2013, bydd yr Athro Jones yn olynu Andrew Green pan fydd yn ymddeol ar 30 Mawrth ar ôl 14 mlynedd o wasanaeth clodwiw i’r Llyfrgell.

Llongyfarchwyd yr Athro Jones ar ei benodiad gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Er yn golled i’r Brifysgol, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn siŵr o elwa o’r penodiad. Mae Aled wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r Brifysgol dros gyfnod o 33 mlynedd, fel academydd o fri, pennaeth adran, Deon Cyfadran y Celfyddydau, a Dirprwy Is-Ganghellor ers 2005. Wrth ddymuno’n dda i Aled i’r dyfodol, yr ydym wrth gwrs yn edrych ymlaen at adeiladu ymhellach ar y berthynas unigryw sy’n bodoli rhwng y Brifysgol a’n ffrindiau a’n cymdogion da ac agos yn y Llyfrgell Genedlaethol.”

Dywedodd Sir Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth; “Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn sefydliad Cymreig o bwys mawr. Wrth ddiolch i’r Athro Jones am ei wasanaeth diflino i’r Brifysgol, rydym yn ei longyfarch ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn ei swydd newydd.”

Yr Athro Jones yw deilydd cadair Hanes Cymru Syr John Williams, ac mae’n un o Ymddiriedolwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chadeirydd ei Bwyllgor Ymchwil.

Mae’n hanesydd diwylliannol ac wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru fodern, hanes llafur, hanes cymdeithasol a diwylliannol y wasg ac ar y berthynas rhwng Cymru, yr Ymerodraeth Brydeinig ac is-gyfandir India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Bu’n olygydd y Welsh History Review yn ogystal.

Fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a bu’n gwasanaethu fel ei Gyfarwyddwr Llenyddol (Modern) ac fel aelod o’i Chyngor Gweithredol. Mae’r Athro hefyd yn aelod o Banel Hanes yr ‘UK Research Excellence Framework’ ac mae ganddo brofiad helaeth o reolaeth academaidd ac ymchwil ac fel ymgynghorydd i’r Llyfrgell Brydeinig ac i Lywodraeth Cymru.  Heb os, mae’n ddarlledwr a cholofnydd profiadol ac ef hefyd oedd cyd drefnydd yr Wŷl Ffilmiau Ryngwladol Cymru gyntaf a chyd sylfaenydd y gydweithfa ffilm a fideo, ‘Creu Cof’. 

Mae ei ymchwil diweddar wedi’i sylfaenu ar y genhadaeth Brotestannaidd Gymreig yn India 1840-1966:  fe’i hetholwyd yn Gymrawd y ‘Royal Asiatic Society’ yn 2004 a hynny fel cydnabyddiaeth am ei waith ar hanes y Cymry yn Bengal.

Meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:  “Yn dilyn proses penodi agored a thryloyw mae’n bleser calon gen i gyhoeddi ein bod ni wedi canfod ymgeisydd o safon eithriadol gyda’r ystod angenrheidiol o briodoleddau a phrofiadau ar gyfer arwain y Llyfrgell drwy’r amrywiol heriau sy’n ein hwynebu. Mae Aled Jones wedi profi ei hun fel arweinydd cadarn ac mae’n meddu ar gymwyseddau strategol eang ym maes addysg uwch. Mae ganddo nid yn unig brofiad ymarferol o weithio yn yr amgylchedd gwybodaeth ddigidol ond mae ei ymrwymiad i’r maes hwn hefyd yn un nodedig. Ef yw’r person delfrydol i arwain y Llyfrgell wrth i’r sefydliad geisio darparu gwasanaeth o safon uchel i bobl Cymru”.

Meddai Aled Jones am ei benodiad:  “Braint o’r fwyaf yw cael y cyfle i arwain un o’n sefydliadau cenedlaethol mwyaf, er gwaethaf y sialensiau sy’n ein hwynebu. Rwy’n teimlo’n annheilwng o’r fraint. Rwy’n edrych ymlaen at drafod â’n rhanddeiliaid a’n defnyddwyr er mwyn canfod sut y gallwn eu gwasanaethu orau gan ymestyn yr un pryd at yr unigolion a’r cymunedau hynny nad ydym wedi gallu gweithio ond ychydig gyda hwy hyd yma, neu ddim o gwbl hyd yn oed. Wrth ddarparu’n gwasanaethau, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda Llywydd y Llyfrgell a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, a chyda staff hynod ddiwyd y Llyfrgell, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ddarparwyr gwybodaeth anghymharol mae’n hawdd mynd ati”.

Mae’r Athro Aled Jones yn frodor o Lanfrothen ym Meirionnydd, Gwynedd, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ardudwy, Harlech, a Phrifysgol Efrog. Graddiodd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Hanes o Brifysgol Efrog a chafodd MA gyda rhagoriaeth a PhD o Brifysgol Caerwair.

Ymunodd ag Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth yn 1979 a bu’n Bennaeth yr Adrannau Hanes a Hanes Cymru rhwng 1994 a 2002. Fe’i penodwyd yn Athro Hanes Cymru Syr John Williams yn 1995 a gwasanaethodd fel Deon Cyfadran y Dyniaethau ac mae wedi bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ers 2005.

Roedd yn gyd olygydd y cylchgrawn hanes cymdeithasol Llafur rhwng 1986 a 1992 a Chyfarwyddwr Llenyddol (Modern) y Gymdeithas Hanes Frenhinol, a golygydd Transactions of the Royal Historical Society, o 2002 i 2004. Yn 2003 fe ddilynodd yr Athro Kenneth O. Morgan (Baron Morgan) fel golygydd (modern) y ‘Welsh History Review’. O 2005 i 2007 bu’n ymgynghorydd i’r Llyfrgell Brydeinig ar ei phrosiect digido papurau newydd a bu hefyd yn aelod o banel Hanes y ‘Research Assessment Exercise (2008) a’r ‘Research Excellence Framework (2014)’.

Yn 2009 fe’i penodwyd yn Ymddiriedolwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Is-Lywydd y sefydliad yn 2011. Yn 2010 gwasanaethodd yr Athro fel cynrychiolydd Addysg Uwch ar Banel Arbenigwyr Ymchwil a Datblygiad y Dirprwy Weinidog, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

AU8613