Hwb i’r diwylliant arloesi

IBERS ar Campws Penglais

IBERS ar Campws Penglais

31 Ionawr 2013

Mae menter newydd i drosglwyddo mwy o ymchwil blaengar prifysgolion Cymru i fyd busnes er mwyn rhoi hwb i economi Cymru ac adeiladu 'diwylliant o arloesedd' wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Yn sgil y prosiect a ariennir gan CCAUC bydd y 'Grŵp Dydd Gŵyl Dewi o brifysgolion - Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Morgannwg ac Abertawe - yn dod at ei gilydd i greu rhwydwaith newydd o staff er mwyn adnabod, diogelu a masnacheiddio ymchwil mwyaf blaenllaw Cymru.

Bydd y prosiect yn cryfhau gallu’r Grŵp i fasnacheiddio eiddo deallusol ac yn creu rhwydwaith effeithiol er mwyn cynyddu trosglwyddo technoleg rhwng prifysgolion a busnesau yng Nghymru i gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru.

Bydd hefyd yn meithrin cysylltiadau agos â sectorau allweddol o ddiwydiant yng Nghymru er mwyn creu strwythur integredig ar gyfer masnacheiddio technolegau newydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd. Dwedodd yr Athro Chris McGuigan, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, Caerdydd: "Eisoes mae gan brifysgolion Cymru draddodiad o droi technoleg a syniadau newydd o’r byd academaidd yn fusnesau newydd ac arloesol - ond mae'n rhaid i ni wneud mwy."

"Bydd prosiect newydd Grŵp Dydd Gŵyl Dewi - y cyntaf o'i fath ar gyfer y Grŵp - yn cynorthwyo i ddod â phrifysgol ymchwil mwyaf blaenllaw Cymru at ei gilydd i greu tîm sy'n gallu adnabod ac yna cynyddu trosglwyddo technoleg.

"Dros gyfnod y prosiect, bydd hefyd yn cynorthwyo aelodau o Grŵp Dydd Gŵyl Dewi i sefydlu cysylltiadau agosach â sectorau diwydiant allweddol yng Nghymru – datblygiad sydd i'w groesawu'n fawr," ychwanegodd.

Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: "Rwy'n falch bod prifysgolion Grŵp Dydd Gŵyl Dewi wedi dod at ei gilydd i ystyried modelau newydd ar gyfer masnacheiddio Eiddo Deallusol (ED) yng Nghymru.

"Mae'r system ED yn amhrisiadwy o ran cyfieithu'r gwaith ymchwil mewn prifysgolion yn rhywbeth pendant all fod o fudd economaidd ac iddi oblygiadau cadarnhaol i gymdeithas ehangach.

"Mae’r arbenigedd sydd ei angen er mwyn gwneud hyn yn sylweddol. Mi fydd creu rhwydwaith o Swyddogion Trosglwyddo Technoleg o fudd i'r prifysgolion dan sylw a'r cwmnïau neu’r sefydliadau y maent yn cydweithio â nhw; bydd hefyd yn cyflawni un o flaenoriaethau allweddol strategaeth Llywodraeth Cymru, Gwyddoniaeth i Gymru, a sicrhau bod yr economi ehangach yn elwa yn llawn o ED sy’n cael ei gynhyrchu gan brifysgolion yng Nghymru.”

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda nifer o bartneriaid masnachol i wella hylendid cig a lleihau achosion o heintiau difrifol megis E.coli.

Drwy ddefnyddio marcwyr cloroffyl naturiol y gellid eu hychwanegu at borthiant anifeiliaid, mae’r tîm o Aberystwyth yn datblygu technoleg sydd yn ei gwneud yn bosibl i adnabod cig sydd wedi'i halogi gan wastraff anifeiliaid wrth gael ei brosesu. Mae'r marcwyr yn cael eu hadnabod drwy ddefnyddio delweddu fflwrolau.

Caiff y gwaith ei gefnogi gan British Chlorophyll Co Ltd, Castell Howell Foods Ltd, Randall Parker Foods Ltd (Lladd-dy), Waitrose Ltd a Wynnstay Group PLC (Gwneuthirwyr Bwyd Anifeiliaid).

Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan Dr Michael Lee yn IBERS: "Mae'n wych fod Prifysgol Aberystwyth a'i phartneriaid yn gweithio ar rywbeth cadarnhaol sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r manteision posib yn sylweddol - i gynhyrchwyr cig, lladd-dai, archfarchnadoedd ac, yn y pen draw wrth gwrs, y defnyddiwr."

Dywedodd Dr James Hudson, Rheolwr Trosglwyddo Technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Cryfder Prosiect Dydd Gŵyl Dewi yw bod pob sefydliad yn fodlon ac yn medru cyfrannu rhywbeth arbennig mewn perthynas â masnacheiddio ED. Yn ystod y Prosiect bydd rhaglen o rannu arfer gorau yn cael ei chynnal a fydd yn galluogi i bob partner dderbyn arbenigedd gwerthfawr oddi wrth y lleill.”

Dywedodd Chris Drew, Dirprwy Bennaeth Cynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor: "Mae'r rhaglen hon yn adeiladu ar y cydweithio  sydd eisoes yn mynd rhagddo rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth fel rhan o’r Gynghrair Strategol. Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu ymuno â'r consortiwm ehangach hwn er mwyn adeiladu ar beth a faint y gallwn ei wneud. Mae gan bob sefydliad ei gyfleoedd unigryw ei hun ond mae’r heriau o wneud y mwyaf ohonynt yn gyffredin ar draws prosiectau yn y sector addysg uwch. Rwy'n credu y bydd y prosiect hwn roi hwb i'n gallu i wynebu'r heriau hynny ac adnabod mwy o gyfleoedd i fanteisio ar y gwaith ymchwil a’r arbenigedd rhagorol yn ein sefydliadau. "

Llofnodwyd Datganiad Dydd Gŵyl Dewi yn 2009 gan brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Morgannwg ac Abertawe. Roedd y datganiad yn ddechrau pennod newydd mewn cefnogi economi wybodaeth Cymru.

Gyda'i gilydd mae’r pum prifysgol yn cynrychioli dros 70% o holl fyfyrwyr Cymru a dros 95% o weithgaredd ymchwil y genedl.

Gan adeiladu ar eu cryfderau cyfunol, mae'r datganiad yn anelu at ddwyn ynghyd y pum Brifysgol a defnyddio doniau staff a myfyrwyr er mwyn cynorthwyo i hybu economi gwybodaeth Cymru.

AU4813