Mwy o fwyd am lai

Oni heuir ni fedir

Oni heuir ni fedir

15 Ionawr 2013

Daw rhwydwaith nodedig o gynhyrchwyr, ymchwilwyr, gwerthwyr a llunwyr polisi ynghyd yr wythnos hon i drafod a rhannu gwybodaeth broffesiynol ar sut orau i fesur cynnydd tuag at yr angen i ddarparu bwyd maethlon a fforddiadwy tra’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol.

Cynhelir y gynhadledd ‘Producing more from less – new metrics for sustainable agriculture’ yn Birmingham 16-17 Ionawr gan Ganolfan Rhagoriaeth Ffermio’r Deyrnas Gyfunol (The Centre for Excellence in UK Farming - CEUKF) a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Agriculture and Horticulture Development Board - AHDB).

Gyda her fyd-eang newid hinsawdd a’r angen i wella effeithlonrwydd y defnydd o adnoddau, mae diddordeb yn cynyddu ynglŷn â sut i gymharu â gostwng effaith amgylcheddol systemau cynhyrchu amaeth tra’n ateb y galw am fwyd fforddiadwy, diogel a maethlon. Cydnabyddir bod hyn ond yn bosibl wrth gydweithio ar draws y gadwyn fwyd.

Bydd dros 100 o gynadleddwyr yn edrych ar waith cyfredol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn rhannu barn ac yn hyrwyddo cysondeb mewn cyfres o sesiynau yn ystod y gynhadledd ddeuddydd.

Dywedodd yr Athro Nigel Scollan, ar ran y tîm sy’n trefnu’r gynhadledd: “Dyma gyfle ardderchog i ddod ag ymarferwyr ac arweinwyr y maes ynghyd i gyfeirio’n gwaith wrth gytuno ar y ffordd orau o fesur cynaladwyedd cyflenwad gwahanol fwydydd, o gynhyrchu ar y fferm drwy’r gadwyn fwyd hyd at y cwsmer”.

Pwysleisiodd Ian Crute, Prif Wyddonydd AHDB sydd hefyd ar y tîm trefnu: “Nid geiriau cynnes a straeon da sy’n caniatáu i danlinellu a marchnata yw hanfod cynaladwyedd. Mae’r cyfan yn ymwneud â mesuriadau, dadansoddi a chnoi cil ar ffeithiau sydd weithiau’n annymunol, â’r parodrwydd i newid cyfeiriad. Mae diwydiant bwyd y DG mewn lle da i arwain y ffordd ac rwy’n disgwyl i’r gynhadledd hon fod yn gatalydd i sbarduno cytundeb ar y ffordd orau ymlaen.”

Mae’r siaradwyr fydd yn bresennol yn cynnwys:
• Pierre Gerber - Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig
• Tim Benton - Hyrwyddwr Diogelwch Cyflenwad Byd Eang BBSRC DG
• Ian Crute - AHDB - Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
• Jonathan Thomas - Leatherhead Food Research
• Kathleen Lewis - Prifysgol Hertfordshire
• Jonathan Hillier - Prifysgol Aberdeen
• Bob Rees - Coleg Prifysgol Wledig yr Alban
• Alberto Garrido - Prifysgol Bolytechnig Madrid
• Caroline Drummond - LEAF (Linking Environment and Farming)
• Ray Keatinge - DairyCo
• Eileen Wall - Coleg Prifysgol Wledig yr Alban
• Markus Frank - BASF Group, SE

Cynhelir y gynhadledd rhwng 2 y prynhawn ar 16 Ionawr a 1 y prynhawn ar 17 Ionawr yn The Best Western Plus Manor Hotel, NEC, Birmingham, CV7 7NH. Bydd cyflwyniadau a gwybodaeth bellach ar gael ar wefan CEUKF yn dilyn y gynhadledd www.ceukf.org.uk.

AU1713