Gofynion mynediad ac ehangu cyfranogiad
Daeth y myfyriwr aeddfed Jon McCalmont, sydd i'w weld yn sgwrsio gyda'r Is-Ganghellor, i Aber yn 2008 i astudio Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Cefn Gwlad. Erbyn hyn mae hanner ffordd drwy ddoethuriaeth yn IBERS.
11 Ionawr 2013
Mae’r Weithrediaeth a swyddfa’r Is-Ganghellor yn falch iawn i fod nôl ar ôl egwyl y Nadolig, er i’n hwyliau da gael eu difetha ryw ychydig ar ein bore Llun cyntaf yn ôl gan dudalen flaen y Western Mail, oedd â stori am Aber (ymhlith eraill), yn awgrymu bod ein safonau’n gostwng gan ein bod ni’n derbyn myfyrwyr Safon Uwch â dwy radd E yn unig. Ceir sylwadau gwleidyddol eraill sy’n awgrymu diffyg trylwyredd academaidd; ynghyd ag ymdeimlad cyffredinol fod prifysgolion yn ymddwyn yn annheg drwy dderbyn myfyrwyr nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau neu’r gallu angenrheidiol i ddilyn cwrs gradd, ac efallai’n eithrio eraill sy’n fwy haeddiannol neu sydd â gwell cymwysterau.
Wrth reswm, mae cydweithwyr a myfyrwyr yn gandryll am hyn. Mae’n wir fod llawer o’r adroddiad yn anghywir - ac rydym wedi cyhoeddi ymateb yn y Western Mail (gyda chydweithrediad llawn y papur, rhaid dweud) yn cynnwys llawer o’r deunydd isod, i dynnu sylw at hyn. Nid yw’n trafod pob manylyn bach, er y gwyddom y byddai rhai cydweithwyr yn hoffi i ni wneud hynny; ond mae’n rhaid i ni daro’r cydbwysedd cywir rhwng cywiro’r data ac ysgrifennu darn mor sych na fydd neb yn trafferthu ei ddarllen.
Ar y llaw arall, mae rhywfaint o’r hyn sy’n cael ei adrodd yn hollol gywir. Ydym, rydym yn derbyn myfyrwyr sydd â phwyntiau UCAS cymharol isel, ac yn wir, rhai nad oes ganddyn nhw ddim pwyntiau o gwbl, sero, nada. Rydym yn gwneud hyn oherwydd yn Aberystwyth rydym yn croesawu pobl o bob cefndir sy’n profi eu bod yn gallu llwyddo yn eu dewis gwrs. Gallan nhw wneud hyn drwy ddilyn sawl llwybr, a allai olygu ein Prifysgol Haf hynod lwyddiannus, gradd sylfaen, cydnabod profiad bywyd ymgeiswyr aeddfed - neu yn wir set ragorol o ganlyniadau Safon Uwch yn arwain at un o’n hysgoloriaethau cystadleuol.
Rydym yn trin pob person fel unigolyn ac yn ystyried pob cais ar ei rinweddau. Mae graddau Safon Uwch yn bwysig, ond gellir dweud yr un peth am BTEC, y Fagloriaeth Gymreig, cymwysterau rhyngwladol a gweithgareddau allgyrsiol. Mae rhai cymwysterau sy’n cael eu derbyn yn eang yn rhai nad ydyn nhw’n denu unrhyw bwyntiau UCAS, ac yn wir mae tariff UCAS yn cael ei ddirwyn i ben yn raddol. Felly os yw myfyriwr aeddfed wedi dilyn cwrs Mynediad i ddangos ei fod yn barod ar gyfer Addysg Uwch, mae’n cael ei gofnodi fel ymgeisydd heb unrhyw bwyntiau UCAS o gwbl (yn dechnegol dyna’r categori “dau E neu lai”), er ei fod yn gwbl gymwysedig ac yn hollol ymroddedig. Yn yr un modd, pe bai ymgeisydd wedi cwblhau Prentisiaeth - dim pwyntiau UCAS yno chwaith.
Rydyn ni’n cyfarfod â’n hymgeiswyr, yn trafod eu cyflawniadau a’u dyheadau ac yn eu gwahodd i ymweld ar Ddiwrnod Agored a Dyddiau Ymweld yr adrannau. Rydyn ni’n trin ein myfyrwyr fel pobl, nid rhifau. Rydyn ni’n ymfalchïo ein bod yn gwneud cyswllt personol gydag ymgeiswyr ac yn cadw’r cyswllt hwnnw gan adeiladu perthynas o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu canfod talentau, a hefyd ceisio gwneud yn iawn a chynorthwyo darpar fyfyrwyr nad ydyn nhw o bosibl wedi cael y daith hawsaf mewn bywyd.
Felly, ydy hyn yn golygu ein bod wedi lleihau ein gofynion mynediad yn sylweddol, fel y mae sylwadau diweddar yn ei awgrymu? Dim o’r fath beth. Mae’r mwyafrif o’r myfyrwyr newydd rydyn ni’n eu recriwtio yn dod ar ôl gadael ysgol a gwneud yn dda iawn yn eu harholiadau. Cyfartaledd pwyntiau myfyrwyr a gafodd eu derbyn i Aber ym mis Medi 2012 oedd 281, sy’n cyfateb i B, B, C Safon Uwch (a chofiwch, dyna’r cyfartaledd - felly mae digonedd o sêr i’w canfod yn y giwed hon, yn ôl unrhyw gyfrif). Ar gyfer bioleg, lle mae erthygl y Western Mail yn honni ein bod yn gofyn am 200 o bwyntiau, lefel y cynnig mewn gwirionedd yw o leiaf 280 (200 yw’r gyfran sy’n gorfod dod o Safon Uwch llawn). Ac yn hytrach na chwalu’r gofynion mynediad ar gyfer geneteg, er enghraifft, cododd cyfartaledd y pwyntiau a gyflawnwyd o 323 yn 2011 i 325 yn 2012. Fodd bynnag, mae angen rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer achosion gwirioneddol eithriadol.
Yn 2012/13, dim ond tri myfyriwr dan 21 oed gydag 80 o bwyntiau UCAS neu lai, yn cyfateb i ddwy radd E neu is, a dderbyniwyd gennym. Cafodd eu potensial ei gydnabod ac fe gawson nhw’u derbyn ar gwrs pedair blynedd yn y Gwyddorau Bywyd, gyda blwyddyn sylfaen yn cynorthwyo myfyrwyr i gyflawni safonau addysgol yn cyfateb i Safon Uwch - gan ddarparu llwybr amgen at radd.
Mae ein Prifysgol Haf yn cefnogi myfyrwyr o gefndiroedd lle nad yw Addysg Uwch yn arferol. Gan gydnabod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf neu fyfyrwyr o gefndir gofal/gadael gofal, rydyn ni’n darparu rhaglen chwe wythnos wedi’i theilwra’n benodol. Mae llwyddiant yn y Brifysgol Haf yn cynnig gwarant o ddilyniant at gynllun addas yn Aber, gyda dau gymhwyster Safon Uwch neu gyfatebol. O dro i dro, ydy, mae hynny’n golygu derbyn dau gymhwyster Safon Uwch ar raddau is nag y byddem ni’n eu disgwyl fel arfer - ond mae amgylchiadau rhai o’r ymgeiswyr hyn yn golygu bod cyrraedd yr ysgol yn y bore yn her, heb sôn am gyflawni llwyddiant mewn nifer o arholiadau. Ac rydyn ni’n eu hadnabod - maen nhw wedi treulio chwe wythnos lawn gyda ni, wedi gweithio ar aseiniadau, ac wedi’n gwneud ni a’u teuluoedd yn falch ohonyn nhw. Nid yw derbyn y bobl ifanc hyn yn risg uchel ac rydyn ni’n falch i wasanaethu Cymru drwy gydnabod y dalent hon.
Unwaith iddyn nhw gyrraedd Aber, caiff myfyrwyr gymorth, ond mae’n rhaid iddyn nhw hefyd brofi eu gallu academaidd yn barhaus drwy gydol eu gradd. Ac fe all fod yn anodd; yn ôl pob tebyg mae myfyrwyr aeddfed er enghraifft ychydig yn fwy tebygol o dynnu’n ôl o’u cwrs. Fodd bynnag mae gan lawer o’n myfyrwyr aeddfed, a’r sawl sy’n dod trwy lwybrau Mynediad a Gradd Sylfaen, straeon rhagorol i’w hadrodd. I sôn am un enghraifft, daeth Jon McCalmont i Aber yn 2008 yn fyfyriwr aeddfed, i astudio am Radd Sylfaen mewn Rheolaeth Cefn Gwlad. Nid oedd gan Jon unrhyw gymwysterau Safon Uwch, ond roedd ganddo brofiad gwaith cymwysedig sylweddol mewn coedwigaeth. Cwblhaodd ei Radd Sylfaen yn llwyddiannus gyda rhagoriaeth ym mhob modiwl ac aeth yn ei flaen i flwyddyn olaf y radd BSc Rheolaeth Cefn Gwlad, gan raddio ag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Ar hyd y ffordd, enillodd Jon hefyd Wobr Stapleton am y myfyriwr FdSc blwyddyn olaf gorau, gwobr dysgwr y flwyddyn Lantra a gwobr cyfarwyddwr sefydliad IBERS am y traethawd ymchwil blwyddyn olaf gorau yn ei gwrs BSc, ac mae bellach hanner ffordd drwy PhD yn IBERS. Mae Jon yn awgrymu nad yw hyn ‘yn rhy ddrwg i rywun â 5 lefel O digon gwachul’ ac rydyn ni’n cytuno’n llwyr.
Mae Aberystwyth yn falch o’r amrywiaeth eang o fyfyrwyr sy’n astudio gyda ni. Mae ein corff amrywiol o fyfyrwyr yn golygu bod profiad Aber yn anodd ei guro. Rydyn ni’n falch iawn i ddweud bod ein Hundeb Myfyrwyr yn cefnogi’r mentrau ehangu mynediad hyn yn llwyr ac yn frwd. Nid pawb sy’n gallu cyflawni ei botensial llawn yn yr ysgol, a’n gwaith ni yw canfod y dalent a’r gwerth er mwyn i ragor o bobl allu gwneud hynny yn y Brifysgol.
Felly a yw safonau Aberystwyth yn uchel? Heb amheuaeth! Ydyn ni ambell dro’n derbyn myfyrwyr heb gymwysterau confensiynol neu sydd â graddau is na’r cyffredin? Euog i’r cyhuddiad f’Arglwydd - ac rydym ni’n falch iawn i wneud hynny. Blwyddyn Newydd Dda!
April McMahon
Martin Jones
AU0213