Gŵyl Lyfrau Aberystwyth
Yr Hen Goleg
10 Rhagfyr 2012
Dewch i fwynhau Gŵyl Lyfrau Aberystwyth sydd wedi ei threfnu ar y cyd gan Wasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol, myfyrwyr o Adran y Gymraeg a Llyfrgell Ceredigion, Aberystwyth.
Cystadlaethau a gwobrau i’w hennill a llu o hwyl llyfrau Nadoligaidd ar gyfer y teulu cyfan ar ddydd Llun 10 Rhagfyr rhwng 10 y bore ac 8 yr hwyr.
Bydd digwyddiadau'r diwrnod yn dechrau yn Llyfrgell Ceredigion Aberystwyth ac yn dod i ben yn llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol ar Gampws Penglais. Bydd cyfres o ddigwyddiadau Cymraeg a Saesneg i ddathlu popeth sy’n ymwneud â darllen, ysgrifennu, cyhoeddi a llyfrgelloedd!
Mae croeso cynnes i bawb i fwynhau rhaglen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Bydd awduron Cymraeg a Saesneg, golygyddion a chyhoeddwyr o Geredigion a thu hwnt yn cymryd rhan.
Ymhlith y cyfranwyr mae Lorraine Jenkin, enillydd Gwobr Llyfr y Bobl 2010 am ei nofel Cold Enough to Freeze Cows, a Bardd Plant Cymru ar gyfer y flwyddyn 2011-13, Eurig Salisbury. Bydd y ddau ohonynt yn cynnal gweithdai yn Llyfrgell Ceredigion yn ystod y dydd.
Bydd y gweithgareddau yn Llyfrgell Hugh Owen yn dechrau am 4 y prynhawn ac yn cynnwys sgyrsiau gan y bardd Nigel Humphreys, a’r awduron Gwenan Evans, Cyril Jones, Karl Drinkwater a Simon Garrett.
Bydd y Bardd Plant Eurig Salisbury ac enillydd Gwobr Daniel Owen Robat Gruffydd yn son am eu gwaith, a Gwen Davies o’r New Welsh Review yn cyfweld Chril Keil, sydd newydd gyhoeddi ei drydedd nofel ‘Flirting at the Funeral’.
Bydd Llyfrau Dalen, cyhoeddwyr ystod o Nofelau Graffig Celtaidd, gan gynnwys Asterix yn Gymraeg a Saesneg, yn siarad am y gwaith o greu nofelau graffig a bydd cyfle i wylio cyfweliadau arbennig wedi'u recordio gyda Caitlin Moran a Mihangel Morgan.
Bydd hefyd digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan. Cwrdd â golygyddion a chyhoeddwyr a phrynu llyfrau oddi wrth yr awduron yn uniongyrchol. Datblygwch eich sgiliau ysgrifennu gyda sesiwn ysgrifennu creadigol 10 munud yng nghwmni un o Gymrodyr Llenyddol Brenhinol Aber, Heather Dyer.
Profwch eich sgiliau ysgrifennu gyda’n cystadlaethau ysgrifennu: roi cynnig ar ein Flash cystadleuaeth Ffuglen Fflach 500 neu Hanesion Twitter am eich cyfle i ennill amrywiaeth o wobrau, gan gynnwys Tabled 7” Android, a detholiad o lyfrau wedi eu llofnodi a thanysgrifiadau cylchgronau llenyddol - telerau ac amodau llawn a manylion am sut i gymryd rhan ar gael yma: http://www.aber.ac.uk/cy/is/news/2012/book-festival/
Gyda gwin cynnes a mins peis, dyma gyfle i ddechrau eich Nadolig yng Ngŵyl Lyfrau Aberystwyth 2012!
Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys y rhaglen, ewch http://www.aber.ac.uk/cy/is/news/2012/book-festival/ neu www.ceredigion.gov.uk/libraries neu e-bostiwch abigailc@ceredigion.gov.uk
Trefnwyd y rhan sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg gan fyfyrwyr o Adran y Gymraeg. Hoffwn gydnabod nawdd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru a CyMAL, New Welsh Review, Cylchgrawn Planet, Siop Inc, Dalen, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
AU41512