Ap bwydo ceffylau

horseRATION

horseRATION

06 Rhagfyr 2012

Yn dilyn llwyddiant ap ffarmio cyntaf Prifysgol Aberystwyth, farmGRAZE, yn gynharach eleni, mae ap arall bellach wedi'i lansio ar iTunes ac wedi'i anelu at y sector ceffylau.

horseRATION yw'r ap cyntaf i gael ei anelu'n benodol at faeth ceffylau ac mae’n caniatáu i'r defnyddiwr cyfrifo faint o fwyd mae ceffylau ei angen.

Gan gymryd i ystyriaeth pwysau, llwyth gwaith, cyflwr y corff, ymddygiad a statws iechyd y ceffyl, mae'r ap yn gallu arwain perchnogion tuag at y diet mwyaf addas ar gyfer eu ceffyl neu ferlen, a fydd yn osgoi problemau iechyd amrywiol gan gynnwys gordewdra.

Hwn yw'r ail ap i gael ei ddatblygu gan y Brifysgol eleni, mewn cydweithrediad â Arkuris Ltd a CEMAS (Morgannwg).

Mae'r ap yn cyfrifo’n gyflym faint o borthiant a phorthiant caled sy'n cael ei fwydo i'r ceffyl, a bydd hefyd yn helpu perchnogion arbed arian yn y tymor hir drwy wella iechyd anifeiliaid.

Eglurodd Dr Rhian Hayward o'r Tîm Trosglwyddo Technoleg, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori yn y Brifysgol, "Mae horseRATION a farmGRAZE yn ffurfio rhan o’r fenter mobileFARM sydd wedi ei greu yn benodol i hyrwyddo apiau a ddatblygwyd o'r arbenigedd ym meysydd amaethyddiaeth, ceffylau gwyddoniaeth ac iechyd anifeiliaid.

"Canlyniad o Her Apiau a gynhaliwyd ar gyfer staff a myfyrwyr y llynedd i drawsnewid syniadau ymchwil i mewn i apiau symudol yw HorseRATION."

Y maethegydd ceffylau Catherine Hale, sydd yn y flwyddyn olaf o'i PhD yn Aberystwyth, enillodd yr Her Apiau gyda'i syniad ar gyfer horseRATION ac mae hi’n chwilio am ffyrdd newydd o wella defnydd egni mewn ceffylau.

Dywedodd, "Rwy'n gweld ceffylau yn ddyddiol sy'n dioddef o wahanol broblemau maeth a lle gallai lles y ceffyl gael ei wella yn hawdd drwy newid y diet. Mae horseRATION yn canfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo’r diet.

"Rydym wedi cynnwys awgrymiadau yn yr ap fel bod defnyddwyr yn gallu cael atebion i’w holl gwestiynau i ffurfio’r bwyd. Bydd yr ap cyfrifo pwysau ac yn darparu awgrymiadau gweledol i helpu’r perchennog i benderfynu ar gyflwr corff eu ceffylau. Gan fod hyn i gyd yn gallu cael ei wneud ar eich iPhone, mae'n hawdd iawn i wneud allan ar yr iard. "

Mae horseRATION, yn debyg i farmGRAZE, wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio arbenigedd y Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a bydd yn helpu perchnogion ceffylau a merlod i reoli eu costau bwyd yn effeithiol ac osgoi biliau milfeddyg diangen. Hwn yw'r ap cyntaf i gael ei ddylunio'n arbennig fel dyfais porthiant bwydo ceffylau.

Mae dwy fersiwn o’r ap ar gael sef fersiwn am ddim a fersiwn a delir amdano. Bydd y fersiwn rhad ac am ddim yn helpu perchnogion gyfrifo swm y porthiant sydd ei angen ar geffyl, tra bod y fersiwn llawn yn cynnwys cyfrifiadau bwyd caled ynghyd a’r darlun cyflawn. Mae’r ddau fersiwn yn cynnig awgrymiadau ar sut i fwydo eich yn ogystal â gwybodaeth archwiliad iechyd.

Mae'r fersiwn a delir amdano (£ 4.99) yn mynd cam yn bellach ac yn caniatáu i'r defnyddiwr i gadw gwybodaeth am sawl ceffyl, arbed ac adalw'r swm bwyd, allforio’r wybodaeth i e-bost a gosod nodyn atgoffa yng nghalendr ffôn y person.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y wefan: www.mobilefarmapps.com

Ers cael ei ryddhau ar y siop ap Google Play ym mis Gorffennaf 2012, mae’r ap farmGRAZE wedi cael ei lwytho dros 1,000 o weithiau gan ddefnyddwyr yn y DG ac yn fyd-eang, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Seland Newydd, Awstralia a De Korea yn ogystal â nifer o wledydd Ewropeaidd.

mobileFARM

Ym mis Mawrth 2011, enillodd Prifysgol Aberystwyth wobr Fast Forward gwerth £30,000 gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) ar gyfer prosiect am 'defnydd effeithiol o hawlfraint a nodau masnach'.

Cafodd yr arian ei wobrwyo i annog dulliau arloesol o drosglwyddo gwybodaeth ymchwil y brifysgol i mewn i gynnyrch a gwasanaethau go iawn.

O fis Ebrill-Gorffennaf 2011, rhedodd y Brifysgol cystadleuaeth 'her apiau symudol 2011' ar gyfer staff a myfyrwyr i gofnodi eu syniadau yn seiliedig ar ymchwil a chyflawniadau fel cysyniadau ap symudol.

Roedd tri ymdrech buddugol. Daeth dau ohonynt o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), gyda'r llall o'r Adran Gyfrifiadureg.

Mae'r brand mobileFARM wedi cael ei sefydlu i farchnad dau ap a nodwyd yn wreiddiol fel enillwyr yr her apiau symudol (y ddwy o IBERS).

Mae mobileFARM yn anelu i gefnogi ffermwyr a pherchnogion anifeiliaid yn lleol ac yn fyd-eang i weithio'n effeithlon i arbed arian ac i ddarparu canllawiau ar gyfer yr arferion gorau. Mae’r ap yn cynnwys farmGRAZE a horseRATION.

SU39512