Cyfleoedd dramatig
Richard Harrington sy'n chwarae'r brif ran yn Mathias
29 Tachwedd 2012
Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn manteisio ar gyfle arbennig i fod yn rhan o gynhyrchiad drama cyffrous fydd yn cael ei ddangos ar S4C.
Ar hyn o bryd, mae criwiau o gwmni teledu Fiction Factory yn gweithio yn ardal Aberystwyth a Cheredigion yn ffilmio'r gyfres dditectif Mathias. Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn hwyr yn 2013.
Drwy weithio gyda'r Brifysgol, mae'r cwmni yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr sydd â'u bryd ar yrfa yn y diwydiant teledu neu ffilm. Yr wythnos diwethaf (19 i 23 Tachwedd) treuliodd saith o fyfyrwyr bum niwrnod ar brofiad gwaith gyda'r criw, a bydd mwy o fyfyrwyr yn cael cyfleodd tebyg dros y misoedd nesaf.
Mae Ed Thomas, uwch-gynhyrchydd a chyd-grëwr Mathias, yn Athro er Anrhydedd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth. Mae'n falch o allu cynnig y cyfle yma i fyfyrwyr yr adran.
"Roeddem yn falch iawn o groesawu’r myfyrwyr atom ni wythnos diwethaf a chael dangos iddyn nhw'r gwahanol agweddau o waith sy'n rhan o gynhyrchiad fel Mathias. Anaml mae cyfleoedd i fyfyrwyr brofi dros eu hunain y math yma o waith, a hynny yn eu hardal leol. Wrth i ni ddod i Aberystwyth i ffilmio, roedd yn bwysig iawn ein bod ni'n adeiladu perthynas dda gyda'r Brifysgol ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhagor o fyfyrwyr brwd i'r set rhwng nawr a diwedd y ffilmio ym mis Mai 2013."
Y saith fu'n mwynhau profiad gwaith yr wythnos diwethaf oedd Sam James, Elliot McIntosh, Abigail Walters, Jonathan Downs, Eleanor Silkstone, Lucy Wylde ac Ellen Dinsgtad – sydd i gyd yn fyfyrwyr ail neu drydedd flwyddyn yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu'r Brifysgol..
Cafodd pob un ei roi ar waith mewn gwahanol adrannau o'r cynhyrchiad yn cynnwys sain, camera, gwisgoedd, golygu, cynllunio, colur a chynhyrchu.
Treuliodd Abigail Walters yr wythnos yn gweithio gyda'r adran wisgoedd, "Tra 'mod i ar brofiad gwaith fe ddysgais lawer am waith helaeth yr adran wisgoedd. Fe wnaethon nhw ganiatáu i fi fynd ar y set i weld drosof fy hun beth sy'n digwydd yn ystod diwrnod prysur o ffilmio ar leoliad. Fe wnes i fwynhau'r profiad ac roedd yn gyfle gwych sydd wedi caniatáu i mi ddysgu wrth wylio gweithwyr proffesiynol wrth eu gwaith."
Dywedodd Dr Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, "Rwy wrth fy modd fod yr Adran wedi gallu gweithio gyda Fiction Factory ar y cynhyrchiad pwysig hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r cynhyrchwyr am gynnig cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau yn y diwydiant cyfryngau sy'n newid ac yn datblygu o hyd ac rwy'n gwybod y bydd y rhai sy'n treulio amser gyda'r tîm yn elwa yn fawr o'r profiad. Mae hwn yn esiampl arall o'r cyd-weithio rhwng yr Adran a'r diwydiannau creadigol ac yn adeiladu ar y profiadau gwych sydd ar gael i'r myfyrwyr yn Aberystwyth."
AU42112