Y gyfraith a chartelau

Yr Athro Chris Harding a Dr Jennifer Edwards.

Yr Athro Chris Harding a Dr Jennifer Edwards.

27 Tachwedd 2012

Dyfarnwyd Grant Prosiect Ymchwil Leverhulme gwerth £87,743 i Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth er mwyn cynnal astudiaeth o effaith ataliol mesurau cyfreithiol a gymerwyd yn erbyn cartelau busnes.

Bydd yr astudiaeth ddwy flynedd, Explaining and Understanding Business Cartel Collusion, yn cael ei gwneud gan yr Athro Christopher Harding a Dr Jennifer Edwards.

Prif amcan yr astudiaeth fydd cynhyrchu a dadansoddi nifer o 'fywgraffiadau cartél' a fydd yn tynnu ar y profiad o ddelio â rhai cartelau rhyngwladol mawr mewn nifer o awdurdodaethau dros y 30 mlynedd diwethaf.

Dywedodd yr Athro Christopher Harding, sy'n arwain yr ymchwil, "Mae gweithgareddau cartelau o'r math yma - gosod prisiau, rhannu’r farchnad ac yn y blaen - yn cael eu hystyried yn niweidiol iawn i farchnadoedd a defnyddwyr, ond mae rheolaeth gyfreithiol yn anodd ac yn gostus. Oherwydd hyn, mae gorfodaeth effeithiol o fudd cyhoeddus mawr."

“Bydd astudiaeth o achosion o erlyn cartelau rhyngwladol a gwerthuso cosbau cyfreithiol a osodwyd ar gwmnïoedd ac unigolion yn yr achosion hynny yn cynnig data dibynadwy a fydd yn ein galluogi i gyrraedd casgliadau sydd yn argyhoeddi o safbwynt effeithlonrwydd, dros gyfnod o amser, o’r gwahanol ffyrdd cyfreithiol o reoli cartelau.

Ychwanegodd Dr Jennifer Edwards, a ymunodd â'r prosiect ar ddechrau mis Hydref, "O fewn y 20 mlynedd diwethaf mae'r rheolaeth gyfreithiol o gartelau busnes wedi cynyddu’n aruthrol ar draws y byd a bellach yn weithgaredd rheoleiddio sylweddol. Ond mae angen ystyriaeth fwy o ddiwylliant busnes a diwylliannau cyfreithiol a gorfodol er mwyn ddeall sut mae rheoleiddio yn gweithio."

Mae’r Athro Christopher Harding wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau academaidd sy'n delio â rheoli cartelau busnes ac yn arbennig tor cyfraith cydgynllwynio busnes o'r fath.

Ymchwilydd ôl-ddoethurol yw Dr Jennifer Edwards. Mae ei chefndir mewn ymchwilio ac addysgu cyfraith droseddol ac yn ddiweddar gwnaeth waith ymchwil dan gomisiwn ar weithredu cyfarwyddebau cyfraith droseddol yr Undeb Ewropeaidd.

Ymddiriedolaeth Leverhulme
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme yn 1925 dan arweiniad ewyllys yr Is-Iarll Leverhulme cyntaf. Hi yw un o’r darparwyr cyllid ymchwil i bob pwnc mwyaf yn y DU, ac mae’n dosbarthu oddeutu £60 miliwn yn flynyddol. Am fwy o wybodaeth am y prosiectau a redir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme cliciwch draw at eu gwefan ar www.leverhulme.ac.uk, www.twitter.com/LeverhulmeTrust

AU37912