Pysgod yn dilyn arweinydd
Guppy
16 Tachwedd 2012
Mae heigiau o bysgod yn dilyn y pysgodyn cyntaf i symud. Ac maent yn ei ddilyn gan ei fod, fel arfer, yn gwybod ble i ddod o hyd i ginio. Neu felly y dywed gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth, gan gyhoeddi eu hymchwiliadau o gypïod trofannol ar-lein yn y cyfnodolyn Animal Behaviourhttp://dx.doi.org/10.1016/j.anbehav.2012.10.013.
Ond sut, a faint y gall pysgod ddysgu gan eraill?
Nid yw’n syndod efallai bod gwybodaeth yn arwain at hyfdra (nid oes angen petruso os ydych yn gwybod ble rydych chi'n mynd), ond roedd yr arweinwyr yn diystyru anghenion eu dilynwyr wrth ddewis pa gaffi i ymweld ag ef.
Dilynodd rhai grwpiau unigolyn naïf a oedd yn gweithredu’n hy ac a oedd y cyntaf i adael, gan awgrymu bod rhai anifeiliaid yn arweinwyr naturiol, hyd yn oed heb lefel uwch o wybodaeth. (Pwynt diddorol yn dilyn tymor etholiadol America.)
"Efallai i ymadawiad y pysgodyn cyntaf o’r haig gael ei ddehongli gan aelodau eraill y grŵp fel hyder yn seiliedig ar wybodaeth" meddai Victoria Franks, prif awdur y papur, ac a gynhaliodd yr ymchwil fel rhan o'i thraethawd hir Anrhydedd israddedig.
Wrth gwrs, mae pysgod yn nofio mewn heigiau am nifer o resymau, gan gynnwys diogelwch rhag ysglyfaethwyr. "Gall pysgod ddechrau drwy ddilyn yr arweinydd gwybodus “tybiedig" dim ond oherwydd ei fod yn gweithredu mewn modd mor feiddgar, ond efallai bydd y pysgod diweddarach ond yn dilyn y mwyafrif - nid ydynt am gael eu gadael ar ôl" meddai Dr Rupert Marshall, cydawdur a goruchwyliwr y prosiect.
Mae ymchwil Victoria wedi golygu iddi ennill gwobr 2011 Gwyddor Peirianneg a Thechnoleg (SET) ar gyfer y Myfyriwr Bioleg Gorau yn Ewrop yn ogystal â gradd Anrhydedd dosbarth 1af mewn Sŵoleg o Brifysgol Aberystwyth.
"Fel gwyddonwyr rydym yn ceisio ysbrydoli ein myfyrwyr gyda rhyfeddodau gwyddoniaeth, darparu'r hyfforddiant sydd ei angen i archwilio’r rhyfeddodau hynny, a’u cefnogi wrth iddynt ddechrau ymchwilio i gwestiynau gwyddonol drostynt eu hunain" meddai Dr Marshall. "Pa enghraifft well o ‘ddysgu a arweinir gan ymchwil’ yn Aberystwyth na chyhoeddi ymchwil israddedig mewn cyfnodolyn blaenllaw yn ei faes a adolygir gan gyfoedion. Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant Victoria".
Felly, a yw pysgod ond yn dilyn arweinydd beiddgar, neu a yw arweinwyr yn dweud wrth eu dilynwyr tuag at ble y maent yn anelu cyn gadael? Canfu’r gwyddonwyr fod arweinwyr yn ymddangos fel pe baent yn gweithredu’n hunanol. Roeddent fel pe baent yn anwybyddu eu dilynwyr, gan ymddwyn fel nad oeddynt yn ymwybodol o'u presenoldeb. Er eu bod yn eu harwain i safleoedd gyda bwyd yn hytrach na heb fwyd, nid oeddynt yn fwy tebygol o’u harwain at safle gyda digon o fwyd nag un gyda phrin ddigon ar gyfer eu hunain. Felly, a ddylent ddilyn yr arweinydd bob tro?
"Dros gyfnod o amser, gall unigolion ddibynnu llai ar wybodaeth gan eraill ac yn fwy ar eu gwybodaeth eu hunain wrth iddynt ddod i adnabod ardal benodol. Ond maent yn fwy tebygol o ddibynnu ar wybodaeth gymdeithasol ar y dechrau, yn enwedig mewn amgylcheddau newydd a chymhleth" meddai Dr Marshall.
Mae fel gyrru adref ar ddiwedd gwyliau. 'Rwy'n adnabod y rhan yma' y dywedwch wrth ddiffodd y SatNav: ‘Rwy’n gwybod y ffordd o fan hyn'.
Yn amlwg, mae anifeiliaid sy'n dysgu trwy gopïo yn cyfyngu eu hunain i faint o wybodaeth y mae modd iddynt ddysgu. “Mae hyn yn tanlinellu pwysau dethol ar gyfer dulliau mwy helaeth o drosglwyddo gwybodaeth" y crynhoes Victoria.
Mae Dr Rupert Marshall yn Ddarlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac yn aelod o'r grŵp ymchwil Bioleg Esblygol, Ymddygiadol a Dŵr http://www.aber.ac.uk/en/ibers/research/research-groups/abeb-new/. Mae ei ymchwil yn ymwneud â chyfathrebu anifeiliaid ac esblygiad signal. Mae'n cydlynu cynllun gradd Aberystwyth mewn Ymddygiad Anifeiliaid (cod UCAS C120)
Enillodd Victoria Franks ei BSc (Anrh) Sŵoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011 ac ers hynny mae wedi bod yn dilyn MSc mewn Bioleg Anifeiliaid Gwyllt yng Ngholeg Milfeddygol Brenhinol, Llundain. Enillodd Victoria wobr Gwyddor Peirianneg a Thechnoleg (SET) am y Myfyriwr Bioleg Gorau yn Ewrop yn 2011, a hynny am ei thraethawd hir Anrhydedd israddedig ar ddysgu cymdeithasol mewn gypïod http://www.societyofbiology.org/newsandevents/news/view/349 / http://societyofbiology.blogspot.co.uk/2011/10/shoaling-guppies-project-leads-franks.html
Journals of Animal Behaviour yw'r cyfnodolyn rhyngwladol mwyaf blaenllaw yn ei faes a adolygir gan gyfoedion. Cyhoeddwyd gan ASAB (Cymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid) ers 1953, ac mae'n ymwneud â phob agwedd ar fioleg ymddygiad.
AU40212