Y fasnach mewn pobl
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
15 Tachwedd 2012
Etholwyd yr Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn aelod o Grŵp Arbenigwyr y Cyngor Ewropeaidd ar Weithredu yn erbyn y Fasnach mewn Pobl – Greta.
Enwebwyd yr Athro Piotrowicz am y swydd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a chafodd ei ethol wedi dau ddiwrnod o bleidleisio yn Strasbwrg ar ddydd Llun and dydd Mawrth yr wythnos hon.
Mae’n un o dri ar ddeg o ymgeiswyr a etholwyd o bob cwr o Ewrop a bydd yn gwasanaethu ar y Grŵp am bedair blynedd.
Mae'r GRETA, sydd yn grŵp 15 aelod, yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth gyda Chonfensiwn Cyngor Ewrop yn erbyn y Fasnach mewn Pobl.
Mae’r Deyrnas Gyfunol yn un o 37 gwlad sydd wedi arwyddo’r Confensiwn.
Byddant yn monitro cydymffurfiaeth gyda chyfreithiau rhyngwladol gyda'r nod o fynd i'r afael â’r fasnach mewn pobl trwy asesu effeithiolrwydd y deddfau gwrth-fasnachu cenedlaethol a chynnal ymgynghoriadau a thrafodaethau gyda phrif randdeiliaid megis llywodraethau, yr heddlu, sefydliadau anllywodraethol a phobl sydd wedi cael eu masnachu.
Bydd y grŵp yn adrodd yn flynyddol ar faint o gydymffurfio sydd gyda’r Confensiwn ac yn gallu gwneud cynigion ar gyfer y camau i'w cymryd.
"Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu gan lywodraeth y DG ac wedi fy ethol fewn i Greta," meddai'r Athro Piotrowicz.
"Bydd y gwaith yn rhoi cyfle i mi ddefnyddio, mewn ffordd ymarferol iawn, yr arbenigedd yr wyf wedi ei meithrin ar y fasnach mewn pobl gan y byddaf yn gallu cael rhywfaint o fewnbwn i ddatblygiad cyfraith a pholisi ar y fasnach. Mae'n ffordd effeithiol iawn i gysylltu fy ngwaith academaidd â'r byd y tu hwnt i'r Brifysgol, a hynny gobeithio er lles."
Yn wreiddiol o’r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal â’r Sefydliad Pwylaidd ar gyfer Materion Rhyngwladol yn Warsaw a Sefydliad Max Plank ar gyfer Cyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.
Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth yn 1987, fe’i penodwyd i ddarlithyddiaeth yn y gyfraith ym Mhrifysgol Tasmania, lle treuliodd ddeng mlynedd a lle bu’n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.
Derbyniodd gadair yn y gyfraith yn Aberystwyth yn 1999 ac y mae hefyd wedi dysgu’r gyfraith ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae’n Gymrawd Alexander-von-Humbolt ac y mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn cyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.
Mae’n arbenigwr mewn cyfraith ymfudo a chyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio’n bennaf ar faterion cyfreithiol sy’n codi o fyd masnach mewn pobl.
Y mae wedi bod yn ymgynghorydd i sefydliadau rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol, a sefydliadau anllywodraethol, a bu’n aelod o Grŵp Arbenigwyr y Comisiwn Ewropeaidd ar Fasnach mewn Pobl ers 2008.
Gweithiodd yr Athro Piotrowicz yn helaeth gyda sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (OSCE), Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Ymfudiad (IOM) a’r Undeb Ewropeaidd.
AU39812