Arweinyddiaeth o dan bwysau
y Farwnes Eliza Manningham-Buller
13 Tachwedd 2012
Ymwelodd y Farwnes Eliza Manningham-Buller o Northampton, Cyfarwyddwr Cyffredinol MI5 (2002-7) a Chadeirydd Cyngor Coleg Imperial Llundain, â Phrifysgol Aberystwyth ar 7 Tachwedd er mwyn traddodi Darlith Flynyddol y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol.
Traddodwyd y ddarlith, y nawfed yn y gyfres, i gynulleidfa o staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a nifer o wahoddedigion ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Yn ystod ei ddarlith, by Eliza Manningham-Buller yn trafod rhai o’r materion a wynebodd yn ystod ei chyfnod fel pennaeth Gwasanaethau Diogelwch y Deyrnas Gyfunol ac yna atebodd amrywiaeth o gwestiynau o’r gynulleidfa.
Yn dilyn y ddarlith mynychodd dderbyniad gwin lle bu Eliza Mannigham-Buller yn sgwrsio gyda’r gynulleidfa (yn enwedig gyda llawer o fyfyrwyr yn bresennol).
Dywedodd Dr R. Gerald Hughes, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol: "Rydym yn falch iawn bod Eliza Manningham-Buller wedi derbyn ein gwahoddiad i gyflwyno’r ddarlith flynyddol eleni. Roedd yn achlysur gwych ac rydym yn falch iawn fod cymaint o gyfeillion a chydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol wedi medru ymuno â ni.
"Darlith Eliza Manningham-Buller oedd y nawfed yn y gyfres ac mae’n ymuno â rhestr o enwau mawr sy'n cynnwys Syr Stephen Lander, yr Athro Keith Jeffery, Syr Michael Quinlan, Syr David Omand, Lord (Robin) Butler , Lord (George) Robertson a'r Arglwydd (Peter) Hennessy. "
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor, a drefnodd y ddarlith ochr yn ochr â Llywydd y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry: "Roedd y Brifysgol yn falch iawn o groesawu Eliza Manningham-Buller i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Rydym yn hynod ddiolchgar iddi am rannu ei phrofiad a'i gwybodaeth am yr heriau oedd yn eu hwynebu hi fel arweinydd, ac am gyflwyniad mor ddiddorol. Rwy'n gwybod fy mod i, ynghyd â'r myfyrwyr a staff a fynychodd y ddarlith, wedi ein hysbrydoli gan ei harddull diffuant."
AU38412