Uwchgynhadledd newid hinsawdd

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)

05 Tachwedd 2012

Wrth i arweinwyr byd baratoi am y rownd ddiweddaraf o drafodaethau ar newid hinsawdd a fydd yn dechrau yn Qatar yn ddiweddarach y mis hwn, mae myfyrwyr chweched dosbarth o orllewin Cymru yn mynd i fod yn cynnal ffug-uwchgynhadledd newid hinsawdd ar ddydd Mawrth 6 Tachwedd fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Bydd y myfyrwyr o ysgolion Penglais, Penweddig a Bro Ddyfi, a Choleg Ceredigion, yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth newid hinsawdd gan chwarae rhannau rhai o negodwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol y byd, ac yn darparu sylw am yr uwchgynhadledd yn y wasg.

Yn ogystal bydd disgwyl iddynt efelychu’r hyn sydd yn digwydd mewn uwchgynadleddau byd a chytuno ar safbwynt ar newid hinsawdd. Yn ystod y trafodaethau byddant yn cyflwyno datganiad munud o hyd a phoster a fydd yn adlewyrchu ei safbwynt.

Byddant yn cael eu harwain gan dri aelod staff o Brifysgol Aberystwyth sydd â phrofiad eang o sylwebu ar uwchgynadleddau ar newid hinsawdd.

Mae Dr Mark Whitehead yn ddarlithydd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac yn Rheolwr Ymchwil gyda Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru. Bydd Mark yn cyflwyno’r sefyllfa cyn i’r trafodaethau ddechrau.

Mae Sara Penrhyn Jones yn ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac wedi mynychu uwchgynadleddau yn Durban, Copenhagen a Cancun wrth weithio fel newyddiadurwr fideo. Bydd Sara yn trafod sylw i uwchgynadleddau hinsawdd yn y cyfryngau newydd, a sut i gyflwyno stori newid hinsawdd.

Mae Dr Carl Death yn ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac wedi ysgrifennu’n helaeth ar  wleidyddiaeth newid hinsawdd. Carl fydd yn cadeirio’r ffug-uwchgynhadledd newid hinsawdd.


Un o drefnwyr y digwyddiad yw Dr Jenny Deaville, Swyddog Datblygu Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Aberystwyth i drafod mater sydd o bwys mawr i bawb. Wrth chwarae rhannau rhai o’r prif negodwyr a’r cyfryngau ein gobaith yw y byddant yn cael syniad o’r modd y mae ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ein bywydau yn gymdeithasol, economaidd ac yn wleidyddol, nawr ac yn y dyfodol,” dywedodd.


“Mae’n arbennig o amserol bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal nawr gan fod 18fed Cynhadledd y Pleidiau i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn dechrau yn Qatar ar 27ain Tachwedd ac yn para tan y 7fed o Ragfyr 2012.”

Cynhelir y digwyddiad yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac mae’n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn cael ei chynnal rhwng y 3ydd a’r 10fed o Dachwedd 2012.  

10fed Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
‘Negodi Newid Hinsawdd’
Ffug-Uwchgynhadledd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12.
6fed Tachwedd, 2012 Prif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth.

9.30am Gosod yr olygfa (Dr Mark Whitehead, Daearyddiaeth A Gwyddorau Daear)

9.45am Dangos ffilm a sgwrs (Sara Penrhyn Jones, Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu). Sylw am uwchgynadleddau hinsawdd yn y cyfryngau newydd a sut i werthu stori newid hinsawdd.

10.30am Ffug-Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd (Cadeirydd Dr Carl Death, Gwleidyddiaeth Ryngwladol). Mae gan y timoedd 30 munud i baratoi datganiad agoriadol munud o hyd a phoster ar ei safbwynt ar newid hinsawdd.

11am tan 11.30am  Toriad coffi . Tîm cyfryngau yn cyfweld â chynrychiolwyr o’r timoedd.

11.30am  Traddodi’r datganiadau agoriadol gan ladmeryddion o bob tîm. Trafodaethau yn cael eu cynnal.

12.30pm Timoedd yn cynnig pleidlais ar y prif faterion a thraddodi datganiad byr i glou. Cyfweliadau i ddilyn.

1.00pm Cinio a Diwedd.

Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn cael ei chynnal o’r 3ydd tan y 10fed o Dachwedd 2012.

Mae’n cynnwys digwyddiadau gan rai o wyddonwyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw wlad, ac mae’n ddathliad o’r gorau mewn ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrydain a sut mae’n dylanwadu ar fywydau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, nawr ac i’r dyfodol.

Mae’r Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol eleni yn cynnwys mwy na 180 o ddigwyddiadau cyffrous ar draws y Deyrnas Gyfunol er mwyn cymell busnesau, elusennau, asiantaethau’r llywodraeth, myfyrwyr ysgolion a cholegau i drafod, darganfod a chynnal dadleuon ar faterion cyfredol sydd yn ymwneud â’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae datganiadau am rai o’r amryw ddigwyddiadau a rhaglen lawn o ddigwyddiadau i’w cael ar wefan yr Ŵyl (http://www.esrc.ac.uk/news-and-events/events/festival/). Gallwch ddilyn y diweddaraf o’r Ŵyl drwy ddilyn #esrcfestival ar twitter.

AU37312