Diwrnod creu CV
Diwrnod creu CV
05 Tachwedd 2012
Fe ddaeth cyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn ddiweddar i ddiwrnod creu cwricwlwm vitae ym Mhrifysgol Aberystwyth i helpu ysbrydoli a pharatoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle.
Roedd y cwmnïau yn cynnwys Network Rail, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cambrian Printers, Antur Teifi, Rachel’s Dairy, Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac Undeb y Myfyrwyr, a ddarparodd y myfyriwr gyda llawer iawn o wybodaeth a chipolwg i’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeisydd.
Esboniodd Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sydd yn gyfrifol am ymgysylltu â chyflogwyr, "Y nod o gynnal y digwyddiad hwn yw paratoi’r myfyrwyr ar gyfer y dyfodol a rhoi’r sgiliau, dealltwriaeth a phrofiadau iddynt y byddent eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
"Rydym am iddynt deimlo'n hyderus a hamddenol yng nghwmni darpar gyflogwyr a saff yn gwybod eu bod yn cyflwyno eu hunain yn dda ar bapur a wyneb-i-wyneb. Rydym yn awyddus i roi pob cyfle posib i’n myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r cyflogwyr am roi eu hamser i helpu myfyrwyr ddeall sut i fod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau.”
Cafodd pob un o’r myfyrwyr bum munud gyda phob cyflogwr a oedd yn galluogi i’r cyflogwyr roi adborth ar CV ac awgrymiadau ar sut i’w wella. Fe wnaeth y sesiwn hefyd alluogi'r myfyriwr i siarad am eu profiad a'u sgiliau.
Un o'r cyflogwyr a oedd yn bresennol ar y diwrnod oedd Helen Ford o Network Rail. "Mae gennym berthynas dda iawn â Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth, ac rydym yn falch i fod yn rhan o'r cynllun hwn,” dywedodd. “Yn ogystal â helpu ni i chwilio am fyfyrwyr talentog, rydym hefyd am annog unigolion weithio tuag at eu potensial o ran gyrfa."
AU37212