Herio straen
Dr Kate Bullen
05 Tachwedd 2012
Er mwyn cefnogi Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen ar ddydd Mercher 7 Tachwedd, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal llwybr lles ar Gampws Penglais ar gyfer staff a myfyrwyr a fydd yn cynnwys gweithgareddau fel sesiynau myfyrdod a thylino, arolwg iechyd ac ymarferion i ryddhau straen.
Mae'r Llwybr yn cynnwys naw lleoliad ar y Campws sy'n cynnwys Penbryn 5, Llyfrgell Hugh Owen, Canolfan y Celfyddydau, Undeb y Myfyrwyr, Adeilad Carwyn James, Canolfan Chwaraeon, TaMed Da, Canolfan Croesawu Myfyrwyr a'r Ganolfan Ddelweddu. Mae map yn dangos y llwybr i'w weld yma: http://www.aber.ac.uk/en/psychology/latest-news/news-article/title-123228-en.html
Bydd pob lleoliad yn cynnig gwasanaeth gwahanol megis cyngor ynglŷn ag astudio ac ymlacio yn Llyfrgell Hugh Owen, sesiwn sgrinio iechyd yn Adeilad Carwyn James, sesiwn yoga yn Undeb y Myfyrwyr a bwydlen arbennig yn TaMed Da i arddangos bwyd sy'n helpu lleddfu straen.
Eglurodd Kate Bullen, Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Mae un o bob pedwar o bobl yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn y DG - mwy o bobl nag yr ydym yn ei feddwl. Fodd bynnag, yn aml iawn, ni fydd pobl yn cydnabod ac yn trafod eu pryderon oherwydd y stigma sydd ynghlwm a materion iechyd meddwl.
"Gall gormod o straen gyfrannu at ystod o broblemau iechyd, gan gynnwys cur pen, poen stumog, problemau cysgu, materion canolbwyntio, pwysedd gwaed uchel a hyd yn oed strôc neu glefyd y galon. Gall hefyd achosi teimladau o ddicter, ddiffyg ymddiriedaeth, pryder ac ofn, a gall hynny yn ei dro niweidio perthnasoedd yn y cartref ac yn y gwaith."
Yn ystod y dydd, bydd cynrychiolwyr o Mind Aberystwyth ac Amser i Newid Cymru hefyd wrth law ym Mhenbryn 5 i ateb cwestiynau a darparu unigolion gyda gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i unrhyw un sy'n profi straen neu broblemau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Yn ogystal â chwmnïau allanol, fe fydd staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd Ymgynghorol ac Adnoddau Dynol y Brifysgol wrth law i ddarparu cefnogaeth a chyngor i staff a myfyrwyr.
"Y syniad gyda’r diwrnod yma yw cael bobl i feddwl am eu lles cyffredinol ac i geisio trafod unrhyw faterion neu bryderon mewn amgylchedd cyfeillgar a gyda phobl a fydd yn deall eu sefyllfa," ychwanegodd Kate Bullen.
"Y nod yw estyn allan at ein staff a myfyrwyr a rhoi gwybod iddynt am y cymorth a’r cyngor ar gael yn y Brifysgol ac o fewn y gymuned ehangach."
Fe fydd gweithgareddau eraill yn eu cynllunio drwy gydol y diwrnod ac yn cynnwys sesiwn myfyrdod, hypnotherapi a thylino yn y Ganolfan Chwaraeon, ymarferion rhyddhau straen yn y Ganolfan Groeso i Fyfyrwyr a gwybodaeth gan staff Adnoddau Dynol ar wasanaethau cynghori newydd yn y Ganolfan Ddelweddu.
Un o'r ymgyrchoedd llwyddiannus sy’n cael ei redeg gan Mind Aberystwyth yw'r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae sawl aelod o staff y Brifysgol wedi ennill y cymhwyster hwn ac yn galluogi unigolyn i ddelio â'r arwyddion cyntaf o rywun yn datblygu salwch meddwl a'u harwain tuag at gael y cymorth priodol.
AU35812