Darlith gyfreithiol
Y Gwir Anrhydeddus Y Barnwr Arglwydd Judge
31 Hydref 2012
Bydd y Gwir Anrhydeddus Y Barnwr Arglwydd Judge yn traddodi darlith flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 1af Tachwedd.
Pwnc darlith yr Arglwydd Judge fydd “Advocacy Today”. Caiff ei chynnal yn theatr ddarlithio C22, Adeilad Hugh Owen, gan ddechrau am 7 yr hwyr.
Hon fydd deuddegfed darlith flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymru a sefydlwyd yn 1999 er mwyn trafod rôl Cymru yn y sustem gyfreithiol ar ôl datganoli.
Y Gwir Anrhydeddus Y Barnwr Arglwydd Judge yw Pennaeth y Farnwriaeth a Llywydd Llysoedd Lloegr a Chymru, ac mae’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Yn frodor o Falta, mae’r Argwlydd Judge yn raddedig o Goleg Magdalen, Caergrawnt, lle’r astudiodd Hanes a’r Gyfraith. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaergrawnt ymunodd â Chymdeithas Anrhydeddus y Middle Temple ac yn dilyn hyn cafodd ei alw i’r Bar 1963.
Cafodd ei benodi’n Gofiadur Llys y Goron yn 1976, ac yn Gwnsler y Frenhines yn 1979. Bu’n aelod o Senedd yr ‘Inns of Court’ a’r Bar rhwng 1980-1983, a rhwng 1984-1986 gwasanaethodd ar y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol.
Yn 1987 cafodd ei ethol yn arweinydd Cylchdaith Midland and Oxford ac yn feinciwr o’r Middle Temple. Bu’n aelod o’r Bwrdd Astudiaethau Barnwrol o 1984-1988, ac o 1990-1993 a 1996-1998 yn Gadeirydd Pwyllgor Troseddol y Bwrdd Astudiaethau Barnwrol.
Yn 1988 cafodd ei benodi’n Farnwr yr Uchel Lys, Adran Mainc y Frenhines, a’i wneud yn Farchog. Ym 1993 daeth yn Farnwr Gweinyddol Cylchdaith Midland and Oxford. Tair blynedd yn ddiweddarach, yn 1996, cafodd ei benodi’n Arglwydd Ustus Apêl ac yn fuan wedi hynny yn Gyfrin Gynghorwr.
O 1998 tan 2003 ef oedd Uwch Farnwr Gweinyddol Lloegr a Chymru, ac yn 2005 cafodd ei benodi’n Lywydd cyntaf Adran Mainc y Frenhines.
Ar y 1af o Hydref 2008 penodwyd yr Arglwydd Judge yn Arglwydd Brif Ustus Lloegr a Chymru, Pennaeth y Farnwriaeth a Llywydd Llysoedd Lloegr a Chymru. Ar y 6ed o Hydref 2008 daeth yn Arglwydd am Oes gan adwain yr enw Barwn Judge o Draycote yn Swydd Warwig.
Cafodd ei wneud yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn 2010.
AU36412