Teyrnas sy’n diflannu?
Yr Athro Norman Davies
30 Hydref 2012
Mae Sefydliad Coffa David Davies, sydd yn rhan o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi bydd yr hanesydd uchel ei barch yn rhyngwladol, yr Athro Norman Davies yn traddodi Darlith Flynyddol 2012.
Yr Athro Davies fydd y diweddaraf mewn rhestr o ddarlithwyr o fri sydd wedi cyfrannu at y gyfres ers ei dechrau yn 1954.
Ymddeolodd yr Athro Davies o Ysgol Astudiaethau Slafonig Prifysgol Llundain yn 1996, ond mae’n parhau’n eithriadol weithgar fel awdur ac yn cyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus.
Ar hyn o bryd mae’n Athro ym Mhrifysgol Jagiellonia, Krakow, ac yn Gymrawd er Anrhydedd yng Ngholeg St Antony, Prifysgol Rhydychen, ac yn aelod oes o Neuadd Clare a Peterhouse ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’n Gymrawd yr Academi Brydeinig.
Yn ystod cyfnod cynnar ei yrfa arbenigodd yr Athro Davies yn hanes Gwlad Pwyl. Ers hynny gwnaeth gyfraniadau nodedig i’n dealltwriaeth o hanes Prydeinig ac o Ewrop gyfan.
Cafodd ei gyfrol ddiweddaraf, Vanished Kingdoms:The History of Half-Forgotten Europe (2011), glod mawr gan y beirniaid.
Cynhelir Darlith Flynyddol Sefydliad Coffa David Davies am 6 yr hwyr ar nos Iau 1 Tachwedd 2012 yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth. Mae hon yn ddarlith gyhoeddus ac mae croeso i bawb.
Pwnc darlith yr Athro Davies’ yw ‘Is the European Union a Vanishing Kingdom?’ Mae’n gaddo bod yn ddatganiad o bwys mawr gan un o haneswyr mwyaf blaenllaw ein cyfnod.
AU36312