Astudio mynyddoedd iâ
Y llong ymchwil Gambo o flaen Store, rhewlif ar yr Ynys Las. Credit: David Eden.
29 Hydref 2012
Dadansoddwyd genedigaeth mynydd iâ yn fanwl am y tro cyntaf ac mae canlyniadau’r ymchwil yn mynd i ymddangos ar gyfres BBC2, Operation Iceberg, fydd yn ymddangos am y tro cyntaf ar nos Fawrth 30 Hydref.
Mae Dr Alun Hubbard o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac ymchwilwyr o Brifysgol St Andrews wedi cwblhau arolwg manwl a thrylwyr o’r rhyngwyneb rhwng rhewlif mawr sy’n arllwys i’r môr, a’r cefnfor.
Drwy ddefnyddio techneg sganio-sonig-ochr o’i long ymchwil Gambo yn ystod Gorffennaf 2012, llwyddodd Dr Hubbard a’i dîm o Brifysgol Aberystwyth i fapio newidiadau i wyneb rhewlif Store ar arfordir gorllewinol yr Ynys Las. Y rhewlif hwn yw arllwysfa llen iâ'r Ynys Las.
Un o gydweithiwr Dr Hubbard ar y cynllun oedd Dr Richard Bates o Brifysgol St Andrews sydd wedi datblygu technegau newydd er mwyn prosesu data sydd yn caniatáu iddo gymharu wyneb yr iâ cyn ac ar ôl ffurfio mynydd iâ.
Mae hyn yn ei alluogi i ddelweddu’r newidiadau yma yn fanwl ac amcangyfrif faint o iâ a gollwyd o’r rhewlif dros gyfnod o bythefnos. Roedd hyn yn cynnwys amcangyfrif o faint mynydd iâ unigol a ffurfiwyd o’r rhewlif, sef tua 100 miliwn tunnel.
Datgelodd y mapio fod y rhan o’r rhewlif sydd o dan y dŵr yn glogwyn iâ sydd yn ymestyn 500 metr i’r dwfn mewn rhai llefydd, o leiaf bedair gwaith maint yr hyn sydd i’w weld ar wyneb y dŵr.
Ymysg nodweddion eraill a ddatgelwyd gan y sgan, gwelwyd twneli anferth o ddŵr tawdd yn ymddangos o waelod y rhewlif a thu fewn i wyneb y rhewlif o dan y dŵr. Yn ôl Dr Hubbard mae hyn yn allweddol i’r ffordd y mae mynyddoedd iâ yn cael eu ffurfio.
O dan arweinyddiaeth Dr Hubbard, bu rhaid i’r tîm hwylio’i long ymchwil i ardal llawn perygl lle’r oedd mynyddoedd iâ yn cwympo i’r môr gyda grym dinistriol.
Gall rhewlifoedd dorri’n rhydd islaw’r dŵr gan greu tswnami anferth wrth i’r iâ ddod i’r wyneb. Gwelodd y tîm sawl digwyddiad o’r fath wrth weithio ar Store.
Mae deall y fecanwaith sy’n arwain at ffurfio mynyddoedd iâ yn bwysig i Dr Hubbard a Dr Bates er mwyn iddynt fedru darogan newidiadau i faint o iâ sydd yn cael ei ryddhau i foroedd y byd o ganlyniad i newid hinsawdd.
Mae mynyddoedd iâ a dŵr tawdd o len iâ’r Ynys Las yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynnydd yn lefel y môr, sydd yn ôl amcangyfrif rhai yn mynd i godi rhwng metr a dwy fetr erbyn 2100. Gallai cynnydd yn nifer y mynyddoedd iâ yng Ngogledd Môr yr Iwerydd hefyd amharu ar longau.
Cafodd gwaith y tîm ei ffilmio fel rhan o raglen ddogfen ar gyfer y BBC, Operation Iceberg, a fydd yn cael ei darlledu am 9 yr hwyr ar BBC2 nos Fawrth 30ain Hydref.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Operation Iceberg i’w gael ar y wefan http://www.bbc.co.uk/programmes/p00tvcnx.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Dr Hubbard ar gael ar y wefan www.aber.ac.uk/greenland.
AU36512