Effaith seicolegol cancr

Dr Kate Bullen

Dr Kate Bullen

25 Hydref 2012

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i effeithiau seicolegol cancr y pidyn ar wrywdod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu gwefan newydd a lansiwyd yr wythnos hon yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain.

Mae'r wefan arobryn Healthtalkonline (www.healthtalkonline.org), sy’n cynnig casgliad o brofiadau cleifion a meddygon, wedi lansio adran newydd sy'n ymdrin â chancr y pidyn, cyflwr nad yw’n cael ei drafod yn aml, ond un lle mae 400-600 o achosion newydd bob blwyddyn yn y Deyrnas Gyfunol (DG).

Dr Kate Bullen, Pennaeth yr Adran Seicoleg Athrofa'r Gwyddorau Dynol, sydd wedi bod yn arwain y gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Bullen wedi bod yn rhan o grŵp ymchwil sydd wedi ei ariannu gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd (National Institute of Health Research (NIHR) ac sydd wedi bod yn ymchwilio i brofiadau dynion yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer cancr y pidyn.

Dr Peter Branney o Brifysgol Metropolitan Leeds sydd wedi bod yn arwain y grŵp ymchwil ac mae wedi cydweithio gyda phrifysgolion Aberystwyth a Rhydychen ac Ysbyty St James Leeds i ddatblygu'r prosiect.

Bu Dr Bullen yn gweithio gyda chydweithwyr yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ar seicoleg cancr urogenitol mewn gwrywod am yr 8 mlynedd diwethaf. Cafodd canlyniadau ymchwil cynnar ar gancr y pidyn ei gyflwyno yn Leeds yn 2008 a dylanwadwyd yn drwm ar y prosiect presennol gan y data o’r astudiaeth beilot wreiddiol.

Mae gan Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth nifer o aelodau staff sydd â diddordeb mewn materion iechyd yn ymwneud â rhyw ac yn ddiweddar cwblhawyd PhD ar effaith o gancr y pidyn ar wrywdod.

Cyfrannodd mwy na 70 o ddynion o Gymru a Lloegr at yr astudiaeth a gyllidwyd gan ysgoloriaeth ddoethuriaeth a chefnogaeth elusennol gan Seiri Rhyddion Cymru.  
Dywedodd Dr Bullen: "Mae lansiad adran cancr y pidyn ar y wefan Healthtalkonline yn ganlyniad pwysig i'r gwaith yr ydym wedi bod yn cyfrannu ato yn y maes anodd hwn.
"Mae cancr yn brofiad heriol ar unrhyw adeg ond yn arbennig felly pan fydd y cancr yn anghyffredin, megis cancr y pidyn.

"Mae dynion sy'n dioddef o'r clefyd yn aml yn dweud y byddent yn hoffi clywed am brofiadau pobl eraill gan fod hyn yn lleddfu’r ymdeimlad o unigedd. Ond mae hyn yn anodd oherwydd nifer fechan y cleifion sy’n dioddef o’r cyflwr.

"Mewn ardal wledig fel ein un ni mae dod o hyd i rywun er mwyn trafod y cyflwr yn anodd. Bydd ymwelwyr i'r safle yn cael cyfle i wylio dynion yn siarad am eu profiadau a sut y maent wedi delio â diagnosis o gancr y bidlen a’r driniaeth.

"Gall gwefan hefyd gynorthwyo dynion i oresgyn teimladau o embaras wedi iddynt gael diagnosis cancr mewn rhan mor breifat o’r corff.

"Rydym yn gwybod o’r ymchwil yma yn Aberystwyth bod dynion yn ei chael yn anodd siarad am eu teimladau ac felly mae gwefan fel hon yn hynod o ddefnyddiol gan ei bod yn galluogi dynion i deimlo fod ganddynt fwy o reolaeth ac yn llai bregus ar adeg anodd yn eu bywydau."

Y driniaeth sylfaenol ar gyfer cancr y pidyn yw llawdriniaeth, sydd yn aml yn gyflym a di-boen, ac ymweliadau rheolaidd â’r meddyg er mwyn gweld sut mae’r claf yn gwella. Y nôd yw gwaredu‘r cancr ac unrhyw nodau lymff sydd wedi’u heffeithio.

Po fwyaf y cancr, y mwyaf yw'r swm o feinwe’r pidyn y mae angen ei wared, ac mae oblygiadau i weithgaredd rhywiol a defnyddio'r toiled. Mae diagnosis cynnar yn hynod o bwysig gan y gall effeithio ar y math o lawdriniaeth a faint o feinwe’r bidlen y mae'n rhaid ei gwaredu. Serch hynny, mae'r llawdriniaeth yn dechnegol syml, ac mae’r rhan fwyaf o ddynion yn gweld adferiad iechyd corfforol da ac mae’r tebygolrwydd o wellhad yn dda.

Dywedodd Dr Peter Branney, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds: "Nid oes llawer o ddynion wedi clywed am gancr y pidyn ac mae rhai yn cael eu synnu’n fawr o wybod bod cancr yn gallu datblygu ar y pidyn. Mae'r DG yn arwain y byd o ran trin cancr y pidyn, ond eto mae ein hymchwil yn dangos fod y symptomau yn cael eu camgymryd yn rheolaidd am glefyd a drosglwyddir yn rhywiol, sy'n oedi triniaeth.

"Os ydym yn siarad am gancr y pidyn yn fwy eang, yna efallai y bydd dynion yn cael diagnosis cyflymach ac mewn gwell sefyllfa i ymdopi ag effaith gorfforol ac emosiynol y cyflwr," ychwanegodd.

AU35312