Argyfwng Taflegrau Ciwba

Yr Athro Len Scott.

Yr Athro Len Scott.

24 Hydref 2012

Fis yma, bydd hi’n 50 mlynedd ers Argyfwng Taflegrau Ciwba, a elwir hefyd yn ‘Argyfwng yr Hydref’ ac ‘Argyfwng y Caribî’, sef y gwrthdaro 13 diwrnod a fu rhwng yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau ynghylch presenoldeb lleoliadau lansio taflegrau yng Nghiwba.

I nodi’r achlysur, mae’r Ganolfan ar gyfer Astudio’r Gwasanaethau Cudd a Diogelwch Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Grŵp Astudiaethau Gwasanaethau Cudd Caergrawnt o Brifysgol Caergrawnt yn cynnal cynhadledd fawr yn Neuadd Gregynog ger y Drenewydd rhwng y 25ain - 27ain o Hydref.

Esbonia’r Athro Len Scott, o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, “Roedd yr adeg pan ddarganfuwyd taflegrau niwclear Sofietaidd yng Nghiwba yn un o gyfnodau mwyaf dramatig y Rhyfel Oer, ac yn wir, efallai mai hwn oedd yr ennyd fwyaf peryglus un yn hanes y ddynoliaeth.

“Bydd y gynhadledd yn ceisio ymateb i’r etifeddiaeth a’r gwersi a ddysgwyd yn sgil Argyfwng Taflegrau Ciwba trwy bapurau a thrafodaethau bord gron. Bydd yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o’r ysgolheigion mwyaf blaengar ym meysydd hanes niwclear, gwasanaethau cudd, ysbïwriaeth, gwyddorau gwleidyddol a’r Rhyfel Oer.”

Yn ogystal â’r Athro Len Scott, bydd y siaradwyr yn cynnwys yr Athro Christopher Andrew o Brifysgol Caergrawnt, yr Athro Campbell Craig o Brifysgol Aberystwyth, Dr Michael Goodman o Goleg y Brenin, Llundain, yr Athro Don Munton, Prifysgol Gogledd Colombia Brydeinig a Dr Peter Catterall, Prifysgol San Steffan.

Ar Hydref y 14eg, 1962, tynnodd awyren ysbio U-2 Americanaidd luniau cyfrin o leoliadau taflegrau niwclear yn cael eu hadeiladu gan yr Undeb Sofietaidd yng Nghiwba. Nid oedd yr Arlywydd Kennedy am i’r Undeb Sofietaidd a Chiwba i wybod fod yr UDA wedi darganfod y taflegrau ac wedi nifer o gyfarfodydd hir ac anodd, dewisodd yr arlywydd osod môr-warchae - cylch o longau - o gwmpas Ciwba.

Amcan y môr-warchae oedd atal y Sofietwyr rhag cludo mwy o adnoddau milwrol i’r ynys. Mynnodd Kennedy fod y taflegrau yn cael eu symud oddi yno, a bod y lleoliadau yn cael eu dinistrio. Ar yr 22ain o Hydref, siaradodd yr Arlywydd Kennedy â’r genedl am y sefyllfa mewn anerchiad ar y teledu.

Roedd Kennedy a Khrushchev ill dau’n gwerthfawrogi beth oedd goblygiadau brawychus rhyfel niwclear ac, ar yr 28ain o Hydref, cytunwyd ar fargen: byddai’r Sofietwyr yn datgymalu’r lleoliadau niwclear ar yr amod fod yr Unol Daleithiau’n addo peidio ag ymosod ar Giwba. Mewn bargen annibynnol, a fu’n gyfrinach am dros bum mlynedd ar hugain, cytunodd yr Unol Daleithiau i symud eu harfau niwclear hwy allan o Dwrci a’r Eidal.

AU34912