Her BRIT 2012
Phil Packer MBE
16 Hydref 2012
Ar ôl cwblhau mwy na 1,600 o filltiroedd ar ei daith gerdded epig 2012 milltir "Her BRIT 2012", bydd Phil Packer MBE yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 17 Hydref 2012.
Mae Phil yn cyflawni’r her ar ôl dioddef anaf difrifol i linyn y cefn yn 2008 ac ar ôl clywed ei fod yn annhebygol o gerdded eto; i Phil mae cerdded 8-10 milltir yn cyfateb i redeg mwy na marathon i berson sydd heb anaf i linyn y cefn.
Bydd Phil yn annerch myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth am 1.00 cyn symud ymlaen i drac rhedeg y Brifysgol, ger y pwll nofio, lle y bydd yn dechrau ar daith gerdded ddwy filltir am 2.15pm.
Mae Phil yn profi dro ar ôl tro bod "Popeth yn bosib," yn unol ag arwyddair ei elusen – British Inspiration Trust (BRIT), wrth iddo fynd ati i godi £15 miliwn i adeiladu Canolfan Ysbrydoliaeth BRIT ar gyfer pobl ifanc sy'n wynebu trallod.
Pan fydd yn gorffen ym mis Rhagfyr, bydd Phil wedi cerdded yr hyn sy'n cyfateb i tua 310 Marathon mewn 330 diwrnod. Mae BRIT nodi ‘bywyd newydd’ a’i ymroddiad tuag at bobl ifanc sydd yn wynebu trallod. Mae'r elusen yn gweithredu drwy dderbyn cefnogaeth ar ffurf rhoddion gan ei bod yn cadw costau gorbenion yn isel iawn a’r ffaith nad yw Phil yn tynnu cyflog.
Yn ystod mis Hydref bydd Phil wedi cerdded ym mhob sir yng Nghymru. Bydd yn dychwelyd i Lundain ym mis Rhagfyr am ei fis olaf pan fydd yn cerdded ym mhob un o'r 33 bwrdeistref yn Llundain cyn cwblhau ei 2,012 milltir yn Canary Wharf.
Fel rhan o Her 2012 BRIT, mae Phil wedi gosod nifer o amcanion sy'n cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth am British Inspiration Trust, elusen a sefydlodd i helpu pobl ifanc sy'n wynebu trallod i adennill eu hunanwerth, hunangred a hunanhyder, a chwrdd ag ac ysbrydoli pobl ifanc sy'n wynebu trallod corfforol a meddyliol, amddifadedd, cyflyrau meddygol, anafiadau a gofalwyr ifanc.
Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Myfyrwyr a Staff ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae stori Phil yn wirioneddol ysbrydoledig ac rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu i Aberystwyth Brifysgol. Mae’r hyn y mae wedi ei gyflawni dros y pedair blynedd diwethaf, sy'n cynnwys rhwyfo Sianel Lloegr, cerdded Marathon Llundain a dringo El Capitan, yn adrodd cyfrolau am ei benderfyniad a’i ymroddiad i wella bywydau pobl eraill. Bydd cyfle i glywed am ei brofiadau a cherdded gydag ef ar y campws yn fraint i bawb fydd yna. "
Dywedodd Swyddog Addysg yr Undeb, Jess Leigh: "Bydd yn bleser cael croesawu Phil ar ran Undeb y Myfyrwyr. Rwy'n siŵr y bydd yr hyn y mae wedi ei gyflawniadau yn ysgogol i bawb. "
Wrth siarad cyn ei ymweliad i Brifysgol Aberystwyth, dywedodd Phil: "Mae fy ngwaith yn cefnogi elusennau eraill dros y pedair blynedd diwethaf a chwrdd â phobl ifanc sy'n wynebu trallod wedi dangos imi bwysigrwydd adennill hunangred, hunanhyder a hunanwerth. Mae'r heriau meddyliol a seicolegol wrth wynebu anawsterau yn aruthrol, ac mae cwrdd gydag unigolion sydd wedi llwyddo ac yn ysbrydoli ac sydd yn fodlon treulio amser gyda phobl ifanc yn gam pwysig er mwyn goresgyn anhawster. Fy ngweledigaeth yw canolfan sy'n gwasanaethu pobl ifanc ac yn dod ag elusennau a'u harfer da at ei gilydd, gan helpu ein pobl ifanc i benderfynu beth maent am ei gyflawni mewn bywyd a sut i wneud hynny."
Mae rhagor o wybodaeth am Phil Packer MBE, y British Inspiration Trust a BRIT Centre of Inspiration ar-lein yma http://www.britishinspirationtrust.org.uk/.
AU35512