Darlith Goffa Hugh Rees

Yr Athro Steve Jones

Yr Athro Steve Jones

15 Hydref 2012

Y genetydd blaenllaw, yr Athro Steve Jones, fydd yn traddodi 3edd Darlith Goffa Hugh Rees yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 15 Hydref.

Mae’r Athro Jones yn gyn-bennaeth Adran Geneteg, Esblygiad a’r Amgylchedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Allanol IBERS. 

Yn ogystal, mae’n gyflwynydd teledu, yn awdur arobryn ar y pwnc bioleg ac yn un o’r awduron poblogaidd cyfoes ar esblygiad.

Bydd y ddarlith, ar y pwnc “Llosgach a dawnsio gwerin: dau beth i’w hosgoi”, yn cael ei thraddodi yn y Brif Ddarlithfa bioleg yn IBERS ar gampws Penglais ac yn dechrau am 7 yr hwyr. 

Cafodd y ddarlith ei henwi er cof am yr Athro Hubert (Hugh) Rees DFC, FRS, genetydd blaenllaw a pheilot a wobrwywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Graddiodd mewn Botaneg Amaethyddol yn Aberystwyth cyn esgyn i fod yn Bennaeth Adran ac yna yn Ddirprwy Brifathro’r Brifysgol.

AU35612