Masnach mewn pobl

Yr Athro Ryszard Piotrowicz.

Yr Athro Ryszard Piotrowicz.

08 Hydref 2012

Mae’r Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei enwebu gan Lywodraeth y DG i gael ei ethol i GRETA - y Grŵp o Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Masnach mewn Pobl.

Cynhelir yr etholiadau ar 12 a 13 o fis Tachwedd.

Sefydlwyd GRETA gan Gyngor Ewrop er mwyn monitro cyfreithiau a gweithgareddau Gwladwriaethau Ewropeaidd ym maes atal masnach mewn pobl ac amddiffyn y sawl sy’n dioddef o ganlyniad.

Yn ogystal, ail benodwyd yr Athro Piotrowicz yn ddiweddar i Grŵp Arbenigwyr y Comisiwn Ewropeaidd ar Fasnach mewn Pobl, am gyfnod o bedair blynedd, ac y mae wedi cael ei wneud yn ymgynghorwr ar fasnach mewn pobl i’r Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop.

Yn wreiddiol o’r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal â’r Sefydliad Pwylaidd ar gyfer Materion Rhyngwladol yn Warsaw a Sefydliad Max Plank ar gyfer Cyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.
Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth yn 1987, fe’i penodwyd i ddarlithyddiaeth yn y gyfraith ym Mhrifysgol Tasmania, lle treuliodd ddeng mlynedd a lle bu’n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.

Derbyniodd gadair yn y gyfraith yn Aberystwyth yn 1999 ac y mae hefyd wedi dysgu’r gyfraith ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae’n Gymrawd Alexander-von-Humbolt ac y mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn cyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.
Mae’n arbenigwr mewn cyfraith ymfudo a chyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio’n bennaf ar faterion cyfreithiol sy’n codi o fyd masnach mewn pobl.

Y mae wedi bod yn ymgynghorydd i sefydliadau rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol, a sefydliadau anllywodraethol, a bu’n aelod o Grŵp Arbenigwyr y Comisiwn Ewropeaidd ar Fasnach mewn Pobl ers 2008.

Gweithiodd yr Athro Piotrowicz yn helaeth gyda sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (OSCE), Comisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Ymfudiad (IOM) a’r Undeb Ewropeaidd.

AU33112