Y Mona Lisa arall
Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf.
27 Medi 2012
Mae Pennaeth Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, ymhlith arbenigwyr celf sydd wedi dadorchuddio darlun heddiw (dydd Iau 27 Medi) y mae llawer yn credu sydd yn fersiwn gynharach o'r Mona Lisa.
Cafodd Robert Meyrick ei wahodd i siarad yn y dadorchuddiad yng Ngenefa fel arbenigwr byd ar Hugh Blaker.
Prynwyd y llun, sy’n arddel y teitl Isleworth Mona Lisa gan Blaker, gŵr sy’n adnabyddus yng Nghymru fel ymgynghorydd lluniau i’r chwiorydd Davies Gregynog, ym 1913.
Cafodd y llun ei beintio tua 20 mlynedd cyn y portread enwog sydd yn y Louvre. O ran maint mae ychydig yn fwy ac wedi bod yn destun dadl parthed ei ddilysrwydd ers blynyddoedd.
Os yw'r Isleworth Mona Lisa yn ddilys, golyga hyn fod Leonardo da Vinci wedi paentio dwy fersiwn o'r Mona Lisa - fersiwn gynharach a'r fersiwn ddiweddarach eiconig sydd yn y Louvre.
Eglurodd Robert Meyrick, "O'r cychwyn cyntaf, roedd y casglwr celf Blaker yn credu ei fod wedi darganfod fersiwn cynharach o'r Mona Lisa, ond nid oedd ganddo’r wyddoniaeth i brofi hynny. Dadleuodd bod Mona Lisa (La Gioconda) yn wreiddiol ar ddau gynfas ar wahân, ond ar ôl i un fynd ar goll, defnyddiwyd y ddau enw ar y llun yn y Louvre.
"Yn wahanol i fersiwn y Louvre, mae cyfansoddiad yr Isleworth Mona Lisa yn adlewyrchu yn union luniad a wnaeth Raphael o'r peintiad yn stiwdio Leonardo - sydd bellach yn y Louvre."
Wedi i Blaker farw yn 1936, cafodd y llun ei drosglwyddo i’w chwaer Jane a oedd yn byw yng Ngregynog fel cydymaith i’r chwiorydd Davies. Yn dilyn ei marwolaeth yn 1947, cafodd ei werthu yn Llundain i'r casglwr Americanaidd, Henry Pulitzer, a wnaeth, yn ei dro ei adael i'w gariad.
Yn dilyn ei marwolaeth hi, cafodd ei brynu gan gonsortiwm o unigolion dienw o’r Swistir sydd wedi ei gadw mewn banc yn y wlad honno ers 40 mlynedd.
Roedd oddeutu 90 o aelodau o'r wasg ac ysgolheigion Leonardo yn y cyfarfod, a cafod y dadorchuddio swyddogol ei wneud gan bencampwr gwyddbwyll y byd o Rwsia, Anatoly Karpov, sydd hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth y Mona Lisa.
Yr ysgolheigion eraill oedd yr Athro Alessandro Vezzosi, Cyfarwyddwr yr Ideale Museo Leonardo da Vinci, yr Athro John Asmus, ffisegydd ymchwil o Sefydliad y Gwyddorau Ffisegol Pur a Chymhwysol ym Mhrifysgol California, a Joe Mullins, arbenigwr delweddu fforensig yn Sefydliad Celf Efrog Newydd.
Bydd yr ymchwil yn cael ei gyflwyno mewn llyfr 320-tudalen newydd o'r enw Mona Lisa - Leonardo’s Earlier Version, a gafodd ei lansio ar yr un pryd.
Ymchwil Robert Meyrick ar Blaker flwyddyn ddiwethaf a wnaeth ddarparu'r dystiolaeth a oedd ei angen i ddilysu darlun gan Amedeo Modigliani.
AU33412