Pencampwriaeth hwylio robotig
Beagle B ym Mae Caerdydd
17 Medi 2012
Mae Pencampwriaeth Hwylio Robotig y Byd (http://www.roboticsailing.org/) yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yr wythnos (17-21 o Fedi).
Trefnir y bencampwriaeth gan Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd ac mae’n cael ei chynnal yng Nghlwb Hwylio Bae Caerdydd.
Robotiaid yw’r cychod eu hunain, ac fe’u rheolir gan y system GPS ddiweddaraf sy’n galluogi person i ddewis i ba le y dylai’r cwch fynd mewn dull tebyg i ddefnyddio Sat Nav.
Yn ogystal â’r gystadleuaeth, cynhelir Cynhadledd Hwylio Robotig Ryngwladol yng Nghlwb Hwylio Bae Caerdydd ar ddydd Mercher y 19eg o Fedi.
Bydd siaradwyr o’r Almaen, Unol Daleithiau’r Amerig, Awstria, Sbaen, Ffrainc, Norwy ac Israel oll yn ymgynnull yno i drafod pynciau blaengar yr oes ym myd hwylio awtonomaidd.
Esbonia Dr. Colin Sauzé, Cymrawd Ymchwil yn yr Adran Gyfrifiadureg yn y Brifysgol, ”Mae Pencampwriaeth Hwylio Robotig y Byd (WRSC) yn ras ar gyfer robotiaid awtonomaidd. Amcan yr WRSC yw hyrwyddo datblygiad cychod hwylio robotig awtonomaidd, trwy gyfres o rasau byrion, rasau hirion, morlywio a sialensiau awtonomi.
“Mae’r Gynhadledd Hwylio Robotig Ryngwladol (IRSC) yn darparu cyfle i ymchwilwyr sy’n gweithio ar broblemau hwylio awtonomaidd i gyfnewid syniadau gyda chynhadledd wyddonol.”
Mae’r WRSC yn gystadleuaeth sydd a’i gwreiddiau yn yr Her Microtransat, sef ras ar draws yr Iwerydd i robotiaid hwylio awtonomaidd. Cystadlodd Prifysgol Aberystwyth yn yr Her Microtransat am y tro cyntaf yn 2010.
Ychwanega Dr. Colin Sauzé, “Mae’r rhan fwyaf o’r timau sy’n dod i’r WRSC yn bwriadu cystadlu yn y Microtransat yn y pen draw, a defnyddiant y digwyddiad hwn fel digwyddiad hyfforddi. Dim ond dau dîm sydd erioed wedi trio’r Microtransat, sef ein tîm ni, a thîm o Ffrainc.”
Cynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd gan fod dyfroedd cysgodol Bae Caerdydd yn fwy addas ar gyfer rhai o’r cychod llai a fydd yno. Ni fyddai’r cychod hyn yn medru dygymod â cherrynt cryf a thonnau mawrion y dyfroedd oddi ar arfordir Aberystwyth. Gellir canfod gwybodaeth bellach ar y wefan http://www.microtransat.org/wrsc2012/.
AU28112