03 yw’r rhif cyfrin

Y Gweinidog dros Adfywio, Huw Lewis AC, yn lansio’r gwasanaeth newydd.

Y Gweinidog dros Adfywio, Huw Lewis AC, yn lansio’r gwasanaeth newydd.

12 Medi 2012

Agorir gwasanaeth bws newydd a fydd yn cysylltu canol tref Aberystwyth, y Brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol yn swyddogol heddiw (Dydd Iau 13 Medi) gan y Gweinidog dros Adfywio, Huw Lewis AC.
 
Bydd y bws 03 Mid Wales Travel, a fydd yn darparu gwasanaeth deirgwaith yr awr, yn galw rhwng y dref, y Llyfrgell Genedlaethol, y Brifysgol, Canolfan y Celfyddydau ar Ganolfan Chwaraeon trwy ffordd gysylltiol newydd.

Cyllidwyd y ffordd newydd, sy’n pontio rhwng cefn y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol, gan grant gwerth £192, 750 oddi wrth Gronfa Adfywiad Ardal Aberystwyth. Ei bwriad yw hybu’r amgylchedd trwy leihau’r nifer o geir a phwysau traffig ar y campws yn ogystal ag agor llwybr cerdded a beicio newydd.

Esbonia Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon: “Yr ydym wrth ein bodd gyda’r fenter newydd hon rhwng y Brifysgol a’r Llyfrgell. Bydd yn darparu gwell gwasanaeth bws i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd, a hefyd yn darparu amgylchedd mwy diogel. Carwn hefyd feddwl ei fod yn gam pwysig tuag at ein nod o annog pobl leol i wneud gwell defnydd o’r hyn sydd gennym i’w gynnig.”

Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae Prosiect Adfywiad Ardal Aberystwyth wedi rhoddi inni’r cyfle i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth gyda sefydliadau allweddol yn y dref. Galluoga’r prosiect newydd hwn inni hybu ein sefydliadau unigol yn eu cyd-destun ymysg y profiadau gwych eraill a geir yn y dref.”

Ychwanega Gweinidog dros Adfywio, Huw Lewis AC: “Mae creu tref fywiog, atyniadol a llewyrchus ar gyfer pobl Aberystwyth yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau gwella hygyrchedd. Mae Llywodraeth Cymru yn daer yn ei hymroddiad i adfywio canol trefi a bydd y prosiect hwn yn ei gwneud yn haws i drigolion y dref ac ymwelwyr i deithio i leoliadau allweddol. Bydd hefyd yn cefnogi’r dref wrth iddi hyrwyddo’i diwylliant amrywiol.”

Yn ystod y tymor mi fydd y gwasanaeth newydd yn cylchu rhwng y dref, y Llyfrgell Genedlaethol a Champws Penglais bob 20 munud rhwng 07:40 ac 19:40, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r gwasanaeth hwyrnos rhwng 20:20 a 22:20 yn rhedeg bob awr, ac mae’r bws diwethaf yn gadael Canolfan y Celfyddydau am 22:33.

Ar y penwythnosau a thu allan i ddyddiau’r tymor, darperir gwasanaeth bob awr rhwng 07:45 a 22:45. Gellir gweld amserlen lawn a map o’r campws ar y wefan hon: http://www.aber.ac.uk/cy/maps-travel/bus/new-bus/

Bydd Mid Wales Travel, cwmni lleol wedi’i leoli ym Mhenrhyn-coch, yn defnyddio’r bws 29 sedd gyda pheiriant Euro 5, yr Enviro200, ar gyfer y gwasanaeth hwn, sef y model allyriadau isel, amgylcheddol-gyfeillgar, diweddaraf.

Cost taith unigol o’r dref i’r cyrchfannau ar Riw Penglais, neu daith unigol yn y cyfeiriad arall, fydd £1 (50c i blant), a gellir prynu’r tocyn ar y bws. Caiff staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru bwrcasu tocyn blwyddyn am £65. Gellir pwrcasu'r rhain o Undeb y Myfyrwyr yn y Brifysgol. Caniateir i ddeiliaid Tocyn Teithio Mantais Ceredigion ddefnyddio’r gwasanaeth am ddim.
Diwedd.

AU27712