Hynt gwalch ar y gwynt…
Gwalch
07 Medi 2012
Yn gynharach yr wythnos hon dechreuodd ymchwilwyr yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amaethyddol (IBERS) Prifysgol Aberystwyth ar y dasg o olrhain yn fanwl, am y tro cyntaf, ymfudiad gwalch Cymreig, wrth i Ceulan, yr unig gyw i oroesi o nyth y Ddyfi eleni, adael am Orllewin Affrica ar ddydd Llun.
Gyda data GPS ar gael bob 48 awr gall y tîm gynnal astudiaeth o ymfudiad gwalch Cymreig am y tro cyntaf un. Erbyn y mesuriad lloeren diweddaraf, ddydd Iau yr wythnos hon, roedd Ceulan wedi croesi Bae Biscay, ac wedi cyrraedd Portiwgal.
Bydd y data a gesglir yn galluogi ymchwilwyr i ddechrau ateb rhai cwestiynau allweddol a dyrys ynghylch ymfudiad adar. Sut, er enghraifft, aiff y gweilch ati i baratoi ar gyfer ymfudo? Sut wyddon nhw pa bryd yw’r adeg cymwys i adael y nyth? Sut wyddon nhw ble i fynd a sut i gyrraedd yno? Pa ffactorau allanol allai effeithio ar eu trywydd, ac ar gyflymdra, uchder, a hyd y daith?
Gellir ymgymryd â’r ymchwil hyn oherwydd presenoldeb y ddyfais dilyn GPS pŵer solar a noddwyd gan IBERS ar gyfer Prosiect Gweilch y Ddyfi’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn.
Trwy ddysgu mwy am ymddygiad gweilch a’u llwybrau ymfudo, eu lleoliadau gorffwys, a’u cynefinoedd gaeaf, galluogir y cadwraethwyr i ofalu amdanynt yn fwy effeithiol.
Bydd olrhain GPS hefyd yn gymorth i’r tîm i ddeall ymfudiad dychwelyd cyntaf adar ifanc a sut y llwyddant deithio yn ôl i’r DG a dewis lleoliadau nythu newydd.
Esbonia Vicky King, Cydlynydd Prosiect Ymchwil llawn-amser yn IBERS, a gwirfoddolwraig reolaidd gyda Phrosiect Gweilch y Ddyfi. “Mae gan y ddyfais dilyn GPS fywyd gweithredol o tua phum mlynedd a bydd yn trosglwyddo lleoliad rheolaidd a data patrwm hedfan, ac yn ein galluogi i ddilyn yr aderyn ar sawl ymfudiad tymhorol rhwng Cymru ac Affrica. Mae hwn yn brosiect ymchwil hir dymor iawn a fydd yn cyfrannu tuag at ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol.”
Fel dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, “Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawi'r cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol at warchod yr amgylchedd.”
Mae ymchwilwyr IBERS yn hapus eu bod yn cael y cyfle i gydweithio ar y prosiect unigryw, a hir dymor hwn gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, prosiect a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ymgyrchoedd cadwraeth y dyfodol yng Nghymru a thu hwnt.
Dechreuodd y gwalch 97 diwrnod oed ar ei daith gyda’i dag lloeren am ei goes am oddeutu 09:26 ar fore dydd Llun ac erbyn diwedd y prynhawn yr oedd yn nythu ychydig o filltiroedd i’r de o Gaerwysg (Exeter) yn Nyfnaint wedi iddo gwblhau’r cymal cyntaf o’i daith aruthrol ac unig o 3,500 o filltiroedd i Orllewin Affrica.
Erbyn canol dydd ar ddydd Mawrth roedd Ceulan wedi croesi’r sianel ac yn brysio ar draws Llydaw, cyn dechrau ar ei daith hir dros Fae Biscay tua 16:00. Croesodd y Bae mewn oddeutu 12 awr, gan hedfan fin nos yn bennaf, a chan gyrraedd y tir ar y Penrhyn Iberaidd am oddeutu 05:00 ar fore dydd Mercher. Erbyn prynhawn dydd Mercher yr oedd wedi teithio yn ddwfn i ganol Portiwgal. Ac felly yr hed Ceulan o hyd ...
Gellir dilyn ymfudiad y gwalch ar wefan swyddogol Prosiect Gweilch y Ddyfi ar: http://www.dyfiospreyproject.com/tracker.
AU29912