Diogelwch ddigidol

Symposiwm Gwybodaeth, Diogelwch a Phreifatrwydd Fforensig yn yr Oes Ddigidol

Symposiwm Gwybodaeth, Diogelwch a Phreifatrwydd Fforensig yn yr Oes Ddigidol

05 Medi 2012

Cynhelir symposiwm ar y pwnc Gwybodaeth, Diogelwch a Phreifatrwydd Fforensig yn yr Oes Ddigidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y 6ed o Fedi, prosiect ar y cyd a drefnwyd gan y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu cynnydd aruthrol yn y maes hwn yn ail ddegawd y mileniwm hwn, gyda dyfarniad y Cenhedloedd Unedig bod mynediad i'r rhyngrwyd yn hawl dynol sylfaenol, trafodaethau  lu ar Ymchwiliad Leveson ynghylch safonau’r wasg a’r diwylliant gwyliadwriaeth ac adolygiad yr UE o’i pholisïau diogelwch data ac e-breifatrwydd.

Mae trafodaethau ar y meysydd cyhoeddus a phreifat yn yr oes ddigidol wedi cyflyru  beirniadaeth hallt gan lawer ac mae rhaid bellach ail-ystyried ystyr y cyhoeddus a’r  preifat ym maes gwybodaeth.

Poblogeiddiwyd y ddadl hon, ynghyd â'r cwestiwn o ba wybodaeth sydd, neu a ddylai fod yn gyhoeddus a phreifat  gan ddatblygiadau mewn cyfathrebu a masnach ar-lein. Mae’n adlewyrchu felly cymhlethdod a chydgysylltiad personâu personol a chyhoeddus.

Trefnydd y symposium yw Kirsten Ferguson-Boucher, ymgynghorydd rhaglenni ar gyfer yr MScEcon mewn Sicrwydd a Rheolaeth Gwybodaeth sydd hefyd yn arwain cangen Canolfan Sicrwydd Gwybodaeth a Seiberddiogelwch Prifysgol Washington yn y DU.
Dywedodd Ms Ferguson-Boucher, "Mae preifatrwydd, ac yn benodol preifatrwydd gwybodaeth, wedi dod yn bwnc llosg yn yr oes ddigidol. O ganlyniad i ddatblygiadau technolegol a chynnydd gweithgarwch ar-lein, mae ein gallu i sicrhau hawliau preifatrwydd gwybodaeth yn cael eu herio.  Mae angen dealltwriaeth o'r hyn mae'r technolegau yn gallu gwneud a beth all fframweithiau cyfreithiol gynnig.

“Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn rhoi cyfle i archwilio sut mae ymddygiad unigolion yn newid a pha effaith bydd hyn yn ei gael ar y defnyddiwr cyffredin yn ogystal â sefydliadau a llywodraethau."

Bydd y symposiwm yn archwilio ffiniau cyhoeddus a phreifat yr ecoleg ddigidol ac yn cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth o feysydd: fforensig, diogelwch, y gyfraith, gwybodaeth a gwyddoniaeth archifol, y cyfryngau cymdeithasol a symudol.
Bydd Dr Barbara Endicott-Popovsky o Brifysgol Washington, Seattle yn rhoi sgwrs ar Breifatrwydd a Seiberdrosedd. Mae Dr Endicott-Popovsky yn Gyfarwyddwr Canolfan Sicrwydd Gwybodaeth a Seiberddiogelwch ac fe’i gwnaethpwyd yn Gymrawd Adran Astudiaethau Gwybodaeth y Brifysgol eleni.

Mae ei chyflwyniad yn archwilio’r hyn y mae'n rhaid i unigolion ei wneud i aros yn ddiogel ar-lein yn sgil twf llethol Seiberdrosedd. Mae arbenigwyr ym maes seiberdiogelwch a gwybodaeth yn ymddangos yn or-baranoid am fygythiadau ar-lein, ond maent yn gweld ymdrechion beunyddiol di-baid, gan y rhai sy'n cynaeafu gwybodaeth werthfawr gan ein systemau ar-lein. Bydd golwg manylach ar realiti troseddu ar-lein a disgrifir yr hyn y gall unigolion ei wneud i aros yn ddiogel.

Bydd y themâu ar gyfer y diwrnod yn cynnwys:
• Preifatrwydd, y cyfryngau cymdeithasol a'r dyddiadur cyhoeddus
• Casgliadau Treftadaeth fel  mannau cyhoeddus / preifat
• Hawliau cymdeithasol a chyfiawnder a gwybodaeth
• Materion cyfreithiol sy'n ymwneud â bugeilio ffiniau cyhoeddus a phreifat
• Fforensig Cloud a data mawr

Gellir gweld rhaglen gyflawn y gynhadledd arlein ar http://www.aber.ac.uk/cy/dis/research/privacy-security-forensics-symposium/

Am fwy o wybodaeth am y symposiwm cysylltwch â Kirsten Ferguson-Boucher ar 01970 622069 / knb@aber.ac.uk neu ewch i http://www.aber.ac.uk/en/dis/latest-news.

AU28812