Profi golwg robot

Idris, y robot crwydrol

Idris, y robot crwydrol

05 Medi 2012

Bydd Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn mynd â robot crwydrol o'r enw Idris i'r Ynysoedd Dedwydd (Canaries) yr wythnos hon.

Bydd prosiect Sgowt Llygad-olwg Robotig y Planedau (PRoViScout), yn cynnal treialon maes ym Mharc Cenedlaethol El Teide, Tenerife, rhwng 13 a 17 Medi 2012.

Mae prosiect PRoViScout yn cael ei ariannu gan Fframwaith yr UE-7 sy'n dwyn ynghyd grwpiau Ewropeaidd o bwys sy’n gweithio ar lygad-olwg blanedol robotig.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan bwysig yn y cynllun hwn.

Nod prosiect PRoViScout yw dangos technegau llygad-olwg gyfrifiadurol ar gyfer nodi peryglon llywio ar y tir, adnabod targedau gwyddonol tebygol, a dewis y targedau "mwyaf diddorol" ar gyfer astudiaeth bellach - i gyd heb ymyrraeth ddynol. Mae'r rhain yn hanfodol i ddyfodol hir dymor sgowtiaid a chyrchoedd archwilio ar blanedau eraill.

Ffefrir Parc Cenedlaethol El Tiede fel lleoliad maes treialon, gan ei fod yn cael tywydd da ac yn dirlun sydd â thapestri cyfoethog o nodweddion a delweddau.

Mae'r nodweddion hyn yn bwysig o ran darparu ystod eang o gyflyrau i brofi'r systemau delweddu.

Nodweddir y tirwedd fflat gan weadau o dywod folcanig, cerrig mân a brigiadau creigiog yn debyg i'r rhai sydd i’w gweld ar wyneb y blaned Mawrth.

Mae’r mwyafrif o archwiliadau a gynhelir ar wyneb neu yn atmosffer gwrthrychau planedol y tu hwnt i'r Ddaear gan offer robotig planedol yn cynnwys dull o symud, naill ai trwy gerbydau crwydrol ar yr wyneb neu gyda cherbydau o'r awyr (balwnau, aerobotau ac ati).

Mae’r systemau symudol ymhlith y rhai mwyaf allweddol o'r holl deithiau gofod, gan fod yr arbrofion angen prosesi a pharatoi data gwyddonol yn gyflym ar y safle er mwyn caniatáu gweithrediadau effeithlon ar gyfer y defnydd gorau posibl o'u hoes gyfyngedig.

Dywedodd yr Athro Dave Barnes o Rŵp Roboteg Gofod a'r Planedau, Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol: "Y llynedd defnyddiwyd y crwydryn EADS (European Aeronautic Defence and Space) Astrium Bridget mewn treialon maes yn Nhenerife fel rhan o'r prosiect PRoViSG.

"Y tro hwn, robot crwydrol o Aberystwyth fydd yn cael ei ddefnyddio, a bydd ein robot ni’n nodi targedau gwyddonol ac yn llywio at y targedau hyn gan ddefnyddio meddalwedd newydd soffistigedig a ddatblygwyd yn ystod y prosiect PRoViScout."
Wrth i deithiau robotig i’r gofod ddod yn fwy niferus, yn fwy uchelgeisiol ac yn hwy, bydd angen iddynt fod yn fwy hunan-ddibynnol nag ydynt ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau annibynnol wrth lywio, dewis samplau gwyddonol, a hyd yn oed eu casglu ar gyfer eu dychwelyd i'r ddaear.

Bydd ProViScout yn sylfaen i systemau archwilio llygad-olwg robotig annibynnol y dyfodol.

Bydd Idris yn gadael Aberystwyth ar ddydd Mercher 5ed Medi ac yn cael ei yrru i Denerife erbyn 9 Medi yn barod ar gyfer y profion ar y 13eg.

AU28912