Haf o ddysgu
Yn dathlu haf o ddysgu mae (chwith i’r dde): Neil Surman, Pennaeth yr Adran Addysg Uwch dros Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Claire James o Lanfair-ym-muallt, Lily Robbins o Ysgol Gyfun Greenhill, Dinbych-y-pysgod, Roisin Wood o Lanio ger Tregaron, George Smith o Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Caer, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Dylan Lewis, Maer Aberystwyth.
28 Awst 2012
Tra byddai’r rhan fwyaf o bobl ifainc yn dueddol o gymryd hoe oddi wrth eu hastudiaethau, dewisodd 74 myfyriwr ifanc ddewis mynychu 6 wythnos o ddarlithoedd, ymchwil a chyflwyniadau ym Mhrifysgol Haf Aberystwyth.
Mae Prifysgol Haf Aberystwyth yn fanerlong i raglenni ehangu mynediad sydd wedi’u hanelu at bobl sy’n 17 neu’n hŷn ac sy’n medru arddangos ymroddiad a dyfalbarhad i gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus. Maent yn byw a / neu’n mynychu’r ysgol mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf Cymru, neu fe ddônt o gefndir gofalwr / darparwr gofal, neu nhw yw’r cyntaf o’u teuluoedd neu eu cymunedau i fynd i’r brifysgol.
Cryfder y Brifysgol Haf yw ei bod yn caniatáu i grŵp mawr o fyfyrwyr i ddod ynghyd am amser estynedig lle cânt astudio pynciau o’u dewis hwy, wedi’u dysgu gan academyddion yn yr Adrannau, gan efelychu bywyd prifysgol ym mhob modd posibl.
Daw llawer o’i rhagoriaethau o’r ffaith fod gan y myfyrwyr 6 wythnos i ymdrwytho eu hunain yn y profiad prifysgol, lle mae’n rhaid iddynt ddygymod â bod oddi cartref, yn ogystal â gwasgfeydd gwaith academaidd, heb sôn am orfod datblygu sgiliau rheoli amser a fydd yn eu galluogi i fwynhau rhaglen o weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol.
Mae Lily Robbins, disgybl blwyddyn 12 o Ysgol Gyfun Greenhill, Dinbych-y-pysgod, newydd orffen eu harholiadau lefel AS, a gobeithia astudio nyrsio yng Nghaerdydd neu Lenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth.
“Mae fy mam wedi bod yn f’annog i fynd i’r brifysgol, ond yr oeddwn i braidd yn nerfus wrth feddwl am fyw oddi cartref,” dywedodd, “ond mae’r cwrs hwn wedi meithrin hunan hyder newydd ynof.
“Roedd y dyddiau cyntaf braidd yn straenllyd ond yn fuan gwnes gyfeillion o bob cwr o Gymru, gan ein bod oll yn yr un cwch.
“Teimlais hi’n hawdd i ymaddasu at ofynion gwaith y cwrs, gan fod y staff mor gefnogol. Dysgais lawer yn y darlithoedd ac yn f’astudiaethau annibynnol ac mae’n llawer gwell nac eistedd o gwmpas heb ddim i wneud drwy’r haf, neu weithio. Bu’n brofiad gwych.”
Datblygodd George Smith, disgybl yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Caer, rai sgiliau gwerthfawr yn sgil ei brofiadau ar y cwrs.
“Dywedodd f’athro gwleidyddiaeth wrthyf y dylwn i ystyried astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r cwrs wedi bod yn werthfawr tu hwnt, y mae wedi ehangu fy sgiliau siarad cyhoeddus, gwella fy nhechneg ysgrifennu traethodau, ac wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o faint o ddarllen cefndirol sy’n angenrheidiol ar gyfer y pynciau amrywiol,” dywedodd George.
“Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig trywydd datblygiad ichi os fynychwch chi’n Ysgol Haf, yn pasio pob un o’r 6 modiwl academaidd, ac yn pasio 2 Lefel A (neu gyffelyb), felly neidiais am y cyfle i fynychu’r ysgol. O fewn dau neu dri diwrnod roeddwn wedi cwrdd â llawer o bobl ac roedd hi’n braf cael dod i adnabod rhan arall o’r wlad.”
Un o amcanion pennaf Prifysgol Haf Aberystwyth yw herio’r rhagdybiaeth fod addysg uwch yn “beth i bobl eraill” ac eir ati i hyrwyddo hyder pob un sy’n ei mynychu. Roedd un o’r mynychwyr, Roisin Wood o Lanio ger Tregaron, yn teimlo fod y cwrs yn gyfle i ddileu’r fath chwedlau.
“Mae’r cwrs hwn yn gosod bywyd Prifysgol yn ei gyd-destun a byddwn i’n sicr yn annog pobl i’w fynychu yn y dyfodol,” dywedodd
"Roedd y darlithwyr yn bobl agored a chymwynasgar ac roedd hi’n hawdd siarad â hwy. Mwynheais ddilyn y cyrsiau gwyddoniaeth. Yr uchafbwynt imi oedd y gwersi fforensig ymarferol, ac ers imi dderbyn fy nghanlyniadau Lefel A, mae Aberystwyth wedi cynnig lle imi astudio ar eu cwrs Troseddeg.”
Trefnir yr Ysgol Haf gan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Mynediad, ac mae’n ddibynnol ar gymorth Myfyrwyr-arweinwyr hyfforddedig i helpu gyda gofal bugeiliol a gweithgareddau chwaraeon/cymdeithasol.
Dywedodd Dr Debra Croft, y Rheolwraig: “Nid y bobl ifainc sy’n astudio gyda ni’n unig sydd yn cael budd o’r Brifysgol Haf. Mae hefyd yn gyfle i’r tîm o Fyfyriwyr-arweinwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u cyfleoedd cyflogadwyedd yn ogystal.”
Yn eu plith yr oedd y fyfyrwraig Hanes 2il flwyddyn, Claire James o Lanfair-ym-muallt. Cymrodd Claire ran yn yr Ysgol Haf yn 2009 gan nad oedd unrhyw un o’i theulu wedi profi addysg uwch, a chan eu bod hithau am gael blas o’r profiad cyn ymroi’n llwyr iddo.
“Bu’n gymorth mawr imi ac rwyf mewn cyswllt â’m cyfeillion o 2009 o hyd. Mae llawer ohonynt wedi gorfod goresgyn sialensiau ond maent oll wedi cael budd o’r profiad agorodd y drws iddynt i’w cyrsiau gradd,” dywedodd Claire.
“Gwerthfawrogais yr hyn a gynigwyd imi ar y cwrs yn fawr iawn ac roeddwn yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl, gan ei bod hi’n hanfodol i ehangu mynediad at addysg. Mae llawer o bobl ifainc yn gyndyn i fynd i’r brifysgol gan eu bod yn dod o gefndiroedd anodd, a chan nad oes ganddynt gefnogaeth eu teulu a’u cyfeillion, o reidrwydd. Gobeithiaf ein bod ni, fel Arweinyddion, wedi cynnig cefnogaeth ac wedi bod yn batrymluniau da i’r myfyrwyr eleni,” ychwanegodd.
Ar ddydd Gwener, 24ain o Awst, gwobrwywyd yr holl waith caled, pan dderbyniodd y myfyrwyr dystysgrif Prifysgol Haf Aberystwyth i nodi eu bod wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Cynhaliwyd y ‘seremoni raddio’ yn Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais tan arweiniad yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon.
Dywedodd yr Athro McMahon: “Llongyfarchaf bawb ar eu dewrder a’u hymroddiad i fynychu’r Brifysgol Haf, rhywbeth a all deimlo fel cam mawr i fyd newydd, a llongyfarchaf chi hefyd ar eich dyfalbarhad wrth gynnal eich astudiaethau ar lefel uchel am 6 wythnos. Bu’n bleser cael cwmni pawb ohonoch yma, ac mae’n llawenydd imi weld cyfeillion a theuluoedd ein myfyrwyr yn y digwyddiad heddiw yn cyd-ddathlu yn eu llwyddiant.”
Ymunodd Neil Surman, Pennaeth yr Adran Addysg Uwch dros Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru, a Dylan Lewis, Maer Aberystwyth, â’r Athro McMahon er mwyn cyflwyno’r tystysgrifau i’r bobl ifainc ger bron cynulleidfa o rieni, teuluoedd, tiwtoriaid, a gwesteion balch.
AU28412