Gwobr Glyndŵr
Dr David Russell Hulme yn derbyn Gwobr Glyndŵr oddi wrth yr Athro April McMahon.
24 Awst 2012
Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Dr David Russell Hulme, yw enillydd Gwobr Glyndŵr 2012.
Cafodd y wobr ei chyflwyno i Dr Hulme gan yr Athro April McMahon ar ddydd Gwener 24 Awst, yn ystod Gŵyl Machynlleth.
Rhoddir Gwobr Glyndŵr yn flynyddol gan Ymddiriedolaeth y Tabernacl ym Machynlleth i anrhydeddu unigolion ym meysydd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth, am eu cyfraniad rhagorol at y celfyddydau yng Nghymru.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Ian Parrott, Alun Hoddinot, Robin Huw Bowen, Syr Kyffin Williams a Gillian Clarke.
Mae Dr Hulme yn awdurdod blaenllaw ar gerddoriaeth Brydeinig ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth theatr, opereta ac yn benodol ar weithiau Arthur Sullivan a’r cyfansoddwr Eingl-gymreig, Edward German.
Mae wedi cyhoeddi'n helaeth gan gynnwys llyfrau a chyfnodolion arbenigol, a hefyd nodiadau rhaglen ar gyfer Proms y BBC, cwmnïau recordio ac opera. Yn 2000 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Rhydychen ei rifyn arloesol o Ruddigore - sydd ar hyn o bryd yn rhan o repertoire Opera North. Dilynwyd hyn gan argraffiadau o waith Haydn, Offeren yn Amser Rhyfel ac 2il Symffoni William Walton ar gyfer y wasg honno, yn ogystal â rhifynnau ar gyfer cyhoeddwr eraill.
Mae Dr Hulme yn anarferol gan ei fod wedi ennill enw da yn rhyngwladol drwy ei waith fel ysgolhaig a pherfformiwr rhagorol o fewn yr un maes. Mae’n gyd-ddisgybl i Syr Adrian Boult, ac wedi cynnal operetta Prydeinig ledled y byd, yn enwedig gyda Chwmni Opera enwog Carl Rosa,a deithiodd Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Chanada. Ymddangosodd mewn gwyliau ym mhellafoedd byd megis Christchurch, Seland Newydd, gyda Royal Opera Canada a Gŵyl Rynglwadol Gilbert a Sullivan yn Buxton. Mae ei recordiad o Tom Jones gan Edward German wedi cyrraedd Rhif 3 yn y siartiau clasurol.
Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a dychwelyd i fod yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth cyntaf y Brifysgol yn 1992. Sefydlodd Canolfan Gerdd y Brifysgol, gan ddatblygu rhaglen a olygodd fod y Brifysgol wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau creu cerddoriaeth yng Nghymru.
Fel arweinydd yr Undeb Gorawl, Philomusica, Sinffonia'r Brifysgol a Chymdeithas Gorawl Aberystwyth fe drefnodd perfformiadau o safon uchel a rhaglenni llawn dychymyg. Rhoddodd fry ar gerddoriaeth Brydeinig a chyflwynodd weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig ac Eingl-Gymraeg, megis Grace Williams, Morfydd Owen, Joseph Parry, Ian Parrott, William Mathias, Arwel Hughes, Edward German a Karl Jenkins.
Yn benodol, mae Dr Hulme yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i gadw'r traddodiad corawl Cymreig gwych o gyflwyno gweithiau mawr yn fyw, megis Breuddwyd Gerontius, Elijah, Requiem Verdi - ac wrth gwrs, y Messiah.
'Rwyf wrth fy modd yn derbyn anrhydedd o’r math', dywedodd Dr Hulme. 'Mae'n cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan y Brifysgol a’r unigolion sy'n gwneud Aber yn lle mor ffyniannus ar gyfer cerddoriaeth. Cefais fy ngeni a’m magu ym Machynlleth ac rwy'n falch iawn o gael dychwelyd adref ar gyfer yr achlysur arbennig iawn.'
AU28212