Mae Bili’n Bwrw’r Bronco

Mae Bili’n Bwrw’r Bronco

Mae Bili’n Bwrw’r Bronco

23 Awst 2012

Addasiad Cymraeg sydd yma o Decky Does a Bronco; sgript wreiddiol a gafodd ei hysgrifennu gan Douglas Maxwell a'i chreu a'i pherfformio gan gwmni theatr o'r Alban, Grid Iron.

Cafodd Decky Does a Bronco ei chreu yn 2000 a bu'n llwyddiannus iawn yng Ngŵyl y Fringe yng Nghaeredin gan ennill Gwobr y Scotsman Fringe First. Aeth ar daith yn yr Alban a Lloegr a chafodd ei henwebu ar gyfer gwobr TMA/Barclays am y Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn 2001.

Yn 2011, aeth Canolfan Mileniwm Cymru ati i greu fersiwn Cymraeg o Decky Does a Bronco… a dyna oedd dechrau Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru ar y cyd â Theatr na n’Óg yw Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco, a gafodd ei ysgrifennu a'i addasu gan Jeremi Cockram.

Mae Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco yn berfformiad theatr awyr agored a gyflwynir o amgylch set o swings mewn parc. I "fwrw'r bronco", rydych chi’n sefyll ar y swing ac yn ei gwthio mor uchel â'r bar, cyn cicio'r sedd dros eich pen a neidio oddi tani.

Cynhyrchir ar y cyd â’n cwmni cysylltiol, Theatr na n’Óg. Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Tocynnau ar  gael ar gyfer nos Sadwrn 25ain o Fedi, ffoniwch 01970 62 32 32

Pris: £12 (£10)

Perfformiad i ddechrau am 6yh.

AU28612