Hwb i werth maethol llus
Llus duon
22 Awst 2012
Gall lefelau cynyddol o CO2 yn yr atmosffer ac ymbelydredd uwchfioled roi buddiannau annisgwyl i rai rhywogaethau o aeron gwyllt yn ôl astudiaeth yn yr is-Arctig gan wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Mae'r llus yn gynhaeaf bwyd gwyllt pwysig i bobl Gogledd Ewrop ac yn ffynhonnell hanfodol o faeth ar gyfer adar yr Arctig.
Dyma un o ganfyddiadau arbrawf 20 mlynedd sydd newydd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Ambio. Darganfu’r tîm fod lefelau gwrthocsidydd mewn llus (Vaccinium myrtillus) yn codi pan fyddant yn derbyn cyfuniad o ymbelydredd uwchfioled uwch a lefelau Carbon Deuocsid uwch, ac mae nifer yr aeron a gynhyrchwyd yn codi yn ogystal. Roedd lefelau uwch o ymbelydredd uwchfioled hefyd yn cynyddu ffrwythlondeb yr hadau.
Mae lefelau uwch o ymbelydredd uwchfioled yn parhau i fod yn bryder amgylcheddol yn yr Arctig, byth ers darganfod 'twll' yr osôn am y tro cyntaf yn 1985. Hefyd mae lefelau cynyddol o CO2 yn yr atmosffer sydd yn cyfrannu tua newid o'r hinsawdd. Serch hynny, gall y ffactorau yma fod o fudd i’r rhai sy’n bwyta llus gwyllt. Gallent hefyd hybu gwasgaru hadau’r rhywogaethau, gan fod rhai adar yn ffafrio aeron gyda chynnwys gwrthocsidig uwch wrth fwydo.
Mae gwyddonwyr, dan arweiniad Dr Dylan Gwynn-Jones, yn credu bod lefelau uwch o ymbelydredd uwch-fioled yn achosi 'ymatebion straen' mewn llus gwyllt, sydd yn gorfodi’r planhigion i neilltuo mwy o egni ar gyfer atgenhedlu. Ac mae’n bosibl fod lefelau uwch o CO2 yn cynorthwyo’r broses, gan fod mwy o’r carbon sydd ei angen ar blanhigion i gynhyrchu egni drwy ffotosynthesis ar gael.
Ond ceir rhybudd gan yr ymchwilwyr. Er bod eu hastudiaeth yn nodi rhai manteision byrdymor anuniongyrchol i lus gwyllt a rhywogaethau tebyg (creiglys a lingonberry), gallai’r ffactorau amgylcheddol cyfnewidiol hyn darfu ar weithrediad ecosystemau yn y tymor hir.
Mae'r ymchwil yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Cenedlaethol (NERC), http://www.nerc.ac.uk ac yn derbyn cefnogaeth gan Secretariat Ymchwil Pegynol Sweden http://www.polar.se/ên/.
Cyhoeddir y papur Enhanced UV-B and Elevated CO2 Impacts Sub-Arctic Shrub Berry Abundance, Quality and Seed Germination yn y cyfnodolyn academaidd Ambio ac y mae ar gael ar-lein ar http://dx.doi.org/10.1007/s13280-012-0311-4.
Awduron y papur yw Dylan Gwynn-Jones, Alan Jones, Alice Waterhouse, Ana Winters, David Comont, John Scullion, Rosie Gardias, Bente J. Graee, John A. Lee, Terry V. Callaghan (2011)
Yr astudiaeth
Cynhaliwyd yr ymchwiliad fel rhan o raglen ugain mlynedd o arbrofi yng nghylch Arctig gogledd Sweden yng Ngorsaf Ymchwil Gwyddonol Abisko, sydd o fri rhyngwladol. Dyma ganolfan rhagoriaeth a weinyddir gan Secretariat Ymchwil Polar Sweden ac mae wedi datblygu ffrydiau blaenllaw o ymchwil ar ecosystemau Arctig yn ystod y degawdau diwethaf, gan gynnwys ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rhyngweithia ardal arbrofol bïom goedwigol y boreal â thwndra’r Arctig ac y mae’n gymuned wyddonol blanhigol a ddisgrifir fel 'rhostir bedw-is-arctig'. Cychwynnodd y triniaethau arbrofol a’r rheolaethau ar gyfer yr astudiaeth hon yn 1993 dros 16 llain dyblygiedig sy'n cwmpasu ardal o oddeutu tua 25 x 25m. I brofi effeithiau lefelau uwch ar CO2, mygdarthir y llystyfiant yn ystod pob tymor tyfu mewn siambrau agored (0.73m2) ar lefelau CO2 a ragwelir ar gyfer y flwyddyn 2050 (600ppm). Gosodir lefelau cynyddol ar ymbelydredd uwchfioled-B trwy amrywiaeth o lampau fflworoleuol hefyd, sy'n efelychu disbyddiad o 15% mewn osôn stratosfferig. Samplwyd aeron o'r plotiau arbrofol ym mis Awst 2006 a mis Gorffennaf-Awst 2009. Sefydlogwyd y rheiny a ddefnyddir ar gyfer dadansoddiad biocemegol gan sychrewi, proses sy'n echdynnu dŵr o feinwe biolegol trwy ddefnyddio gwactod er mwyn cynnal eu cyfansoddiad cemegol. Dadansoddwyd y samplau sefydledig yn y DG yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, i ganfod crynodiadau o gyfansoddion flafonoid, gan ddefnyddio cromatograffi hylif pwysedd uchel (HPLC). Mae’r cyfansoddion hyn yn ffurfio cyfres o gemegau a elwir yn 'wrthocsidyddion' ac maent yn fanteisiol i iechyd.
Disbyddu osôn
1) Cynhyrchodd pennod 2011 o deneuo oson yr Arctig (fel yr adroddwyd yn Nature) golled o 80% o’r osôn stratosfferig yn y rhanbarth Arctig - y mwyaf a gofnodwyd erioed yn hemisffer y gogledd (mae ein triniaeth arbrofol, sy'n efelychu colled o 15% yn ymddangos yn gymharol geidwadol o’i gymharu â hyn) http://www.nature.com/nature/journal/v478/n7370/full/nature10556.html
2) Mae disbyddiad osôn ar ei waethaf yn ystod y gaeaf-gwanwyn hwyr, bydd amlygiad uwchfioled felly hefyd ar ei uchaf ar yr adeg hynny. Cynigia orchudd eira hwyr rywfaint o ddiogelwch ar gyfer llystyfiant rhag hyn, yn enwedig ar ledredau uchel yn yr Arctig. Mae'r haen oson yn ‘atgyweirio’ yn ystod yr haf oherwydd cymysgu stratosfferig, sy'n golygu bod y cysylltiad uniongyrchol rhwng aeron sy’n aeddfedu yn y gwyllt a uwchfioled uchel yn debygol o fod yn fwy cymedrol ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
Gwybodaeth am y cylchgrawn Ambio
Mae AMBIO yn mynd i'r ymrafael â'r ffactorau gwyddonol, cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol sy'n dylanwadu ar gyflwr yr amgylchedd dynol. Fe'i sefydlwyd yn 1972, blwyddyn Cynhadledd gyntaf y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd. Am fwy na 40 mlynedd mae AMBIO wedi dod â phersbectif rhyngwladol i ddatblygiadau pwysig mewn gweithgareddau ymchwil a pholisi amgylcheddol a materion cysylltiedig, i ddarllenwyr o arbenigwyr rhyngwladol, cyffredinolwyr, myfyrwyr, sy'n gwneud penderfyniadau a lleygwyr sydd â diddordeb. Mae cwmpas eang o sylw’r cylchgrawn yn ymestyn i ecoleg, economeg amgylcheddol, daeareg, geocemeg, geoffiseg, palaeontoleg, hydroleg, adnoddau dŵr, eigioneg, gwyddorau daear, meteoroleg, a daearyddiaeth ffisegol.
Cyllid a chefnogaeth
Mae'r ymchwil yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Cenedlaethol (NERC), http://www.nerc.ac.uk
NERC yw prif asiantaeth y DG ar gyfer ariannu a rheoli ymchwil o'r radd flaenaf, hyfforddiant, a chyfnewid gwybodaeth yn y gwyddorau amgylcheddol. Mae'n cyd-drefnu rhai o'r prosiectau mwyaf cyffrous yn y byd ymchwil, yn mynd i'r ymrafael â materion o bwys megis newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd, dylanwadau amgylcheddol ar iechyd pobl, cyfansoddiad genetig bywyd ar y ddaear, a llawer mwy. Mae NERC yn derbyn tua £300m y flwyddyn oddi wrth gyllideb wyddoniaeth Llywodraeth y Derynas Gyfunol, a defnyddir yr arian i gyllido gwaith ymchwil a hyfforddiant mewn prifysgolion a’i ganolfannau ymchwil ei hun.
Cyd-gefnogir yr arbrawf gan NERC ac mae Secretariat Ymchwil Polar Sweden CCSau yn hybu ac yn cydlynu ymchwil polar Sweden, gan gynnwys ymchwil yn y rhanbarthau Arctig a'r Antarctig. Mae Abisko, yr Orsaf Ymchwil Wyddonol, yn rhan o'r rhwydwaith hwn ac mae wedi ei lleoli tua 200 km i'r gogledd o Gylch yr Arctig yn Sweden (68 ° 21'N, 18 º 49'E).
http://www.polar.se/ên/abisko/about-abisko-scientific-research-station