Ysgoloriaethau Cyfryngau Creadigol
Y sêr tu ôl i’r sgrin
20 Awst 2012
Mae chwe ysgoloriaeth blwyddyn ar gael ar gyfer rhaglen MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth.
Yn ystod y flwyddyn bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn dilyn cwrs MA yn y Brifysgol yn Aberystwyth ac yn treulio cyfnod ar leoliad gydag un o’r chwe chwmni creadigol sy’n rhan o’r cynllun.
Fel rhan o’r cwrs byddant yn cwblhau prosiect ar fydd yn cyfrannu at ddyfodol y cwmnïoedd, a thrwy hynny at ffyniant economaidd yr ardaloedd lle mae’r cwmnïoedd wedi eu lleoli.
Y cwmnïoedd sydd yn rhan o’r cynllun a natur y gwaith fydd angen ei wneud yw:
• Theatr Arad Goch (Aberystwyth): apelio at a gweithio gyda chynulleidfaoedd theatr ifanc
• Boomerang (Aberystwyth): datblygu presenoldeb teledol/aml-gyfrwng ar gyfer dysgwyr Cymraeg
• Cwmni Theatr y Frân Wen (Porthaethwy): strategaethau lleoleiddio/lleoliad cynhyrchiad perfformiadol
• Galeri Caernarfon: datblygu ymrwymiad cymunedol a chynulleidfaol Sinema
• Palas Print (Caernarfon): datblygu strategaethau ar gyfer meicro-ddigwyddiadau ym maes mân-werthant llyfrau
• Telesgôp (Abertawe): datblygu presenoldeb teledol/aml-gyfrwng ar gyfer miwsig gwerin
Dywedodd Dafydd Sills-Jones, darlithydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Rwy’n arbennig o falch bod ein cwrs newydd wedi atynnu gymaint o ysgoloriaethau am y flwyddyn gyntaf. Mae’n addo bod yn gwrs cyffrous a deinamig, sydd am roi’r myfyrwyr yng nghanol y diwydiant creadigol yng Nghymru.”
Bydd yr ysgoloriaethau yn cynnwys ffioedd dysgu cartref/UE, £5,529 at gostau byw a chyfraniad at dreuliau.
Cyllidir Mynediad i Feistr yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Raglen Gyd-gyfeirio’r Undeb Ewropeaidd (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd) a weinyddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ardal Cyd-gyfeirio yn cynnwys 15 Awdurdod Lleol sef, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Penybont ar Ogwr, Rhondda Cynon Tâf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen.
Cymwysterau: Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob un o’r ysgoloriaethau. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys ar gyfer ffioedd y DG/UE, a chanddynt radd anrhydedd 2:1 (neu’n gyfwerth), a chyfeiriad yn Ardal Gyd-gyfeirio Cymru.
Proses Ceisio: Mae angen i bob ymgeisydd ennill lle ar y cwrs MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol cyn ennill ysgoloriaeth Mynediad i Feistr, ond mae modd ceisio amdanynt ar yr un pryd.
Am fwy o wybodaeth ewch at:
MA: http://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/howtoapply/before-you-apply/
Ysgoloriaeth Mynediad i Feistr: http://www.aber.ac.uk/cy/ccs/staff-students/funding/atm/
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher, 5ed Medi 2012. Cynhelir y cyfweliadau ar ddydd Iau, Medi 13eg.
Cewch fanylion pellach gan Catrin Davies: 01970 623111/ mis@aber.ac.uk
AU27912