Camp lawn lenyddol i gyn-fyfyriwr
Dylan Iorwerth
14 Awst 2012
Datgelwyd mai Dylan Iorwerth, sy’n Olygydd Gyfarwyddwr y cwmnïau sy’n cynnwys Golwg, Wcw a’i Ffrindiau, Lingo Newydd a’r gwasanaeth newyddion ar-lein, Golwg360, oedd y buddugwr yng nghystadleuaeth y Gadair yn seremoni’r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar ddydd Gwener y 10fed o Awst 2012.
Gyda’i lwyddiant, cwblhaodd Dylan fath ar gamp lawn lenyddol, gan ei fod eisoes wedi ennill Coron yr Eisteddfod yn Llanelli yn 2000, a’r Fedal Ryddiaeth yn Eryri yn 2005.
Y dasg a osodwyd yng nghystadleuaeth y Gadair eleni oedd llunio dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell, ar y pwnc, ‘Llanw’. Ymgeisiodd 10, a phenderfyniad y tri beirniad, Mererid Hopwood, Huw Meirion Edwards (Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth) ac Ieuan Wyn oedd mai dilyniant ‘Owallt’ (ffugenw Dylan yn y gystadleuaeth) oedd yn haeddu’r Gadair eleni.
Cafodd y cerddi yn y dilyniant buddugol eu hysgogi gan farwolaeth tad Dylan yn gynharach eleni, Thomas Edward Jones neu Twm Glasbwll. Fe'u hysgrifennwyd hwy er cof amdano ac, yn sgîl hynny, maen nhw hefyd yn deyrnged i'w fam, Gweneirys, sy'n byw yng Nghaernarfon.
Er bod y cerddi'n gymysgedd o ddychymyg a gwirionedd, mae'r cyfan wedi'i seilio ar brofiad y bardd o fod gyda'i dad yn ystod ei fisoedd olaf. Yn ogystal รข llanw a thrai bywyd unigolyn, y cefndir ehangach yw llanw a thrai bywyd ei hun a pharhad o genhedlaeth i genhedlaeth.
Dywedodd y Prifardd Mererid Hopwodd, a raddiodd gynt o Brifysgol Aberystwyth ei hun, wrth draddodi’r feirniadaeth fod y cerddi yn y gwaith buddugol i gyd yn weithiau unigol ond eto eu bod yn creu cyfanwaith fel dilyniant testunol.
Fe enillodd nai Dylan, Rhys Iorwerth, 28 oed, y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd, a darllenodd Rhys gyfarchiad i’w ewythr yn ystod y seremoni Gadeirio eleni. Wedi’r seremoni datgelodd Dylan mai efe oedd yn ail i’w nai am y Gadair yn Wrecsam hefyd.
Llongyfarchiadau mawrion iddo ar ei lwyddiant.
AU27612