Llwyddiant dramatig
Bedwyr Rees. Llun drwy garedigrwydd y BBC.
10 Awst 2012
Bedwyr Rees, a raddiodd mewn Astudiaethau Theatr yma yn Aberystwyth, yw dramodydd buddugol Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Yn wreiddiol o Ynys Môn a bellach yn byw yn Llangefni, dyfarnwyd y wobr iddo am ei ddrama lwyfan dair act sydd wedi ei lleoli ar draeth tebyg i Ddinas Dinlle.
Roedd naw wedi cystadlu gyda thair drama yn dod i’r brig. Yn ôl y beirniaid, Ian Rowlands a Sera Moore Williams, roedd "strwythur cadarn, syml y ddrama yn galluogi i amser fynd heibio ac i ninnau ddilyn hanes y tri chymeriad.”
Llongyfarchwyd Bedwyr gan Dr Jamie Medhurst, pennaeth Adran Astudiaethau Theatre, Ffilm a Theledu. Dywedodd: “Mae’r Adran yn ymhyfrydu yn llwyddiant un o’i chyn-fyfyrwyr a hoffwn longyfarch Bedwyr yn gynnes iawn ar ei gamp.”
Bwriad gwreiddio Bedwyr oedd astudio Daearyddiaeth a Chymraeg yn Aberystwyth. Ond, yn ystod ei gyfnod yma penderfynol ddilyn cwrs gradd mewn Astudiaethau Theatr wedi iddo gael ei ddenu at y pwnc gan Hazel Walford Davies.
Bu’n aelod o dîm sgriptio Rownd a Rownd am rai blynyddoedd ac mae’n awdur nifer o nofelau a dramâu i bobl ifainc. Erbyn hyn mae’n aelod o staff y cwmni teledu Rondo.
Cyflwynwyd y Fedal Ddrama er cof am yr athro a’r awdur Urien William, yn rhoddedig gan ei wraig, Eirlys, a'r plant, Hywel, Sioned a Steffan.
Roedd rhodd ariannol hefyd o £500 er cof am y Prifardd L Haydn Lewis gan Richard a Bethan Lewis, Llandaf, Caerdydd.
AU27212