Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Stondin Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod
02 Awst 2012
Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal ar y stondin dros yr wythnos. Ceir rhaglen o sgyrsiau a darlithoedd a bydd gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer pawb. Yn ogystal â hynny bydd gennym gyfrifiaduron ar y stondin felly gall ymwelwyr gael mynediad i’r rhyngrwyd am ddim drwy’r wythnos.
Dewch heibio i holi cwestiynau am y Brifysgol os ydych yn ddisgybl ysgol, neu dewch i hel atgofion am eich amser gyda ni! Bydd croeso hefyd i athrawon ddod draw am dro ac i gael sgwrs gyda staff ynglŷn â’r cyfleoedd i fyfyrwyr y dyfodol yn y Brifysgol. Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni!
Cyfle i ennill beic mynydd gwerth £325!
I nodi cynnwys Prifysgol Aberystwyth ar restr canolfannau ymarfer swyddogol i feicio mynydd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 rydym yn cynnal cystadleuaeth I ennill beic mynydd Trek 3700 yn wobr. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd ymweld â stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod ac ateb cwestiwn syml. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y stondin am 4.30 b’nawn Gwener
Rhaglen yr Wythnos:
Dydd Llun – 6ed Awst
2.30yh Seliau Cymru a’r Mers yn yr Oesoedd Canol
Cyflwyniad byr ac arddangosfa am gynllun sy’n archwilio seliau canol oesol ac yn cynnig cipolwg ar agweddau cymdeithasol y cyfnod gan gynnwys gwleidyddiaeth, y gyfraith, rhyw a duwioldeb.
Dydd Mawrth – 7ed Awst
11yb Canu pop a roc: Dylanwad Pantycelyn
Gwibdaith ar hyd llwybrau a choridorau cerddorol Neuadd Pantycelyn; cartref i lawer iawn o gerddorion a grwpiau eiconig ar hyd y degawdau. Galwch heibio’r stondin i glywed mwy am gyfraniad y Neuadd i’r sin pop a roc yng Nghymru. Cyfraniad sy’n parahau hyd heddi. Straeon, cymeriadau a llond côl o atgofion yng nghwmni:
Gwyn Williams (Doctor), Rhys Harries (Trwynau Coch) a Gruff Pritchard (Yr Ods); a’r cyfan yn cael ei lywio gan Sion Jobbins.
2yh Her Prifysgol Aberystwyth
Profwch eich gwybodaeth gyffredinol. Bydd dau dîm yn wynebu ei gilydd, sef aelodau staff a chyn-lywyddion Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – UMCA. Yn cadw trefn ar y cyfan bydd yr hanesydd, awdur a’r darlledwr Dr Russell Davies.
Dydd Mercher – 8fed Awst
12yh Lansiad Yr Heriwr
Lansiad swyddogol papur newydd Cymraeg Aberystwyth. Mae myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi sefydlu papur newydd fydd yn cyhoeddi newyddion bob tymor am hynt a helynt y Brifysgol, Aberystwyth a’r cylch a Chymru gyfan. Mae’r fenter yn un wirfoddol a bydd y papur yn rhad ac am ddim i bawb.
2-4yh Aduniad Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Cynhelir y derbyniad ar y cyd rhwng Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a’r Brifysgol. Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth i i gwrdd â’i gilydd ar faes yr Eisteddfod.
Eleni y siaradwr gwadd fydd y cyn-fyfyriwr, Dr Dylan Elfyn Jones, prifathro ysgol Gyfun Bro Morgannwg a chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012. Darperir lluniaeth ysgafn a chewch gyfle i hel atgofion gyda hen ffrindiau. Croeso i bawb!
Dydd Iau – 9fed Awst
11yb Arweinydd mewn byd newidiol?: Gweithgarwch newid hinsawdd Llywodraeth Cymru
Bydd Dr Elin Royles, darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Cymreig yn trafod ymchwil ar weithgarwch polisi Llywodraeth Cymru mewn maes sy’n uchel ar yr agenda wleidyddol ryngwladol. Cyfle am drafodaeth o’r llawr a lluniaeth ysgafn ar ôl y cyfarfod.
12yh Talwrn rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor
Wedi’r ornest gyntaf yn Eisteddfod Wrecsam y llynedd, dyma’r ail Dalwrn rhwng Aberystwyth a Bangor. Bydd y ddau dîm o ddarlithwyr, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn herio’i gilydd dan ofal y Meuryn a Chymrawd y Brifysgol, y Prifardd John Gwilym Jones.
Dydd Gwener, 10fed Awst
11.30yb Her Gyfieithu 2012
Bydd Tŷ Cyfieithu Cymru yn gwobrwyo enillydd Her Gyfieithu 2012 yn y babell ar ddydd Gwener. Ymunwch â’r Beirniad Mererid Hopwood wrth iddi ddatgan enillydd yr Her a chyflwyno Ffon y Pencerdd. Mae’r ffon wedi ei cherfio’n arbennig o ddarn o goedyn o ardal Llanystumdwy ac fe’i noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
2-4yh Aduniad Ganol Haf
Os ydych yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yna dewch draw i’r stondin am Aduniad Ganol Haf gyda’ch ffrindiau! Bydd adloniant gan Catrin Herbert, a cheir lluniaeth ysgafn. Dyma gyfle gwych hefyd i ddarpar-fyfyrwyr a’u teuluoedd ddod i gwrdd â myfyrwyr a staff presennol y Brifysgol a gofyn cwestiynau am fywyd prifysgol.
4.30yh Cyhoeddi Enillydd y Beic!
Os ydych wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth i ennill y beic cofiwch ddod heibio’r stondin heddiw i weld ai chi yw’r person lwcus!
Beth bynnag fo’r tywydd, gallwch fod yn sicr y bydd y croeso ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn un cynnes. Mae croeso mawr i chi ddod i sgwrsio gyda staff y Brifysgol dros baned.
AU25512