Ail-greu deuawd goll Gilbert & Sullivan

David Russell Hulme

David Russell Hulme

27 Gorffennaf 2012

Mae Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth, Dr David Russell Hulme, wedi darganfod deuawd goll o HMS Pinafore gan Gilbert a Sullivan na chanwyd ers 1878.

Torrwyd y darn allan o’r opera cyn y perfformiad cyntaf ac aeth yn angof ond darganfu Dr Hulme ddarnau cerddorfaol anghyflawn a llwyddodd i ail-adeiladu'r alaw a‘r sgôr lleisiol llawn. O ganlyniad i hyn, perfformir y ddeuawd am y tro cyntaf gan y cwmni proffesiynol preswyl yng Ngŵl Ryngwladol Gilbert a Sullivan Buxton ym mis Awst.

Dywedodd Dr Hulme: "Nid yw ail-adeiladu alaw y cantorion yn fater syml o gyfansoddi rhywbeth fydd yn gweddu i’r cyfeiliant, mae angen ichi drwytho’ch hun yn nulliau y cyfansoddwr a darllen y cliwiau yn y deunydd sydd wedi goroesi - y nodau nad ydynt yno yn ogystal â’r rhai sydd yno eisoes. Mae'n debyg i waith ditectif, gosodir pob darn at ei gilydd mewn dull fforensig gan ddilyn y cliwiau er mwyn darganfod beth ddigwyddodd yn y gorffennol."

Mae Dr Hulme yn adnabyddus am ei waith ymchwil cerddorol, yn adfywio darnau coll ac yn  adfer sgoriau  aeth yn rannol-goll. Recordiwyd ei adferiad o waith cerddorfaol Edward German, y  Marche Solennelle, gan  Gerddorfa Gyngerdd y BBC, ac y mae newydd gael ei ryddhau gan gwmni Dutton.  Bydd adferiad arall a wnaed ganddo o waith Gilbert a Sullivan yn cael ei ddarlledu ar Friday Night is Music Night ar nos Wener, 27ain Gorffennaf.

Mae’n gyfranwr cyson i raglenni Proms y BBC, ac eleni bydd yn darparu nodiadau ar gyfer perfformiad The Yeomen of the Guard, dan arweinyddiaeth Jane Glover.  Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gomisiwn gan y clarinetydd byd-enwog Emma Johnson i addasu darn Edward German ar gyfer piano a chlarinet fel y bydd yn addas i’w chwarae gan gerddorfa ac unawdydd clarinet.

AU26012