Gwareiddiad hynafol ac afon sanctaidd
Llun o ddinas hynafol Sukkur a dynnwyd yn 1860, a leolir yn Nyffryn yr Indus, lleoliad gwareiddiad hynafol yr Harappa. (Allan o hawlfraint)
25 Gorffennaf 2012
Llwyddodd yr Athro Mark Macklin, yr Athro Geoff Duller a’r fyfyrwraig PhD Julie Durcan, oll o IGES, ynghyd â grŵp rhyngwladol o ddaearegwyr, geomorffolegwyr, archeolegwyr a mathemategwyr ateb cwestiwn sydd wedi peri dryswch i ysgolheigion ers canrifoedd: be ddaeth o wareiddiad yr Indus neu Harappan?
Ymledodd gwareiddiad yr Harappan o Bacistan dros 625,000 o filltiroedd sgwâr i ddwyrain Afghanistan. Roedd yn herio gwareiddiadau hynafol yr Aifft a Mesopotamia. A gallai ymffrostio system blymwaith dan do, strydoedd grid a bywyd deallusol cyfoethog.
Cododd y gwareiddiad rhyw 4,500 o flynyddoedd yn ôl, a bu’n llewyrchus am 600 mlynedd cyn iddo ddadfeilio. Tybiodd yr ysgolheigion bod caledi neu ymosodiad wedi achosi’r dirywiad, tra bod eraill yn awgrymu'r mai ffactorau amgylcheddol oedd wrth wraidd y cwymp. Mae'r ymchwilwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth ddiweddaraf, a gyhoeddwyd yn y ‘Proceedings of the National Academy of Sciences’, wedi casglu mai newid yn yr hinsawdd oedd yn gyfrifol.
Dywedodd yr Athro Macklin: “Drwy ddefnyddio lluniau lloeren a data topograffig, crëwyd mapiau digidol o ardal dros 625,000 o filltiroedd sgwâr ar hyd yr Indus. Casglwyd samplau maes i bennu oedran y gwaddodion yn y rhanbarth ac er mwyn gweld os ffurfiwyd y strwythur gan afonydd neu'r gwynt. Tros-osodwyd yr wybodaeth ar draws canfyddiadau archeolegol blaenorol, gan ddarparu cronoleg o 10,000 o flynyddoedd o hanes dynol a newidiadau tirwedd.”
Roedd yr Harappan yn dibynnu ar gylch dibynadwy’r monsŵn i fwydo’r systemau afonydd ac ni ddyfeisiwyd system ddyfrhau cnydau. Fodd bynnag, wrth i amser fynd yn ei flaen, crebachodd tymor y monsŵn a sychodd yr afonydd gan achosi methiant cnydau. Nid oedd mwyach fwyd dros ben i gynnal y masnachwyr, yr arlunwyr a’r ysgolheigion, a chan hynny dechreuodd pobl adael y dinasoedd, gan fudo tuag at fasin yn Ganges, lle yr oedd hi’n glawio’n fwy rheolaidd. Ymrannodd y canolfannau wrbaidd i ffurfio pentrefi bychain a threfi.
Darganfu’r ymchwilwyr weddillion daearegol yr afon sanctaidd Hindŵaidd chwedlonol Sarasvati yn yr anialwch sy’n amgylchynu’r dyffryn Ghaggar-Harka modern. Ni chyflenwir yr afon hon gan allyrion yr Himalaya, fel y rhagdybid, ond gan fonsŵn blynyddol, ac wrth i’r hinsawdd newid ni fedrai’r glaw gwannach gynnal yr afon, ac felly, mi ddiflannodd.
AU22412