Ymwelwyr o America
Y myfyrwyr Fulbright
25 Gorffennaf 2012
Mae Prifysgol Aberystwyth unwaith eto yn estyn croeso i fyfyrwyr is-raddedig o America fel rhan o Raglen Haf Sefydliad Fulbright Cymru 2012. Cyrhaeddodd y myfyrwyr Aberystwyth ddydd Sadwrn ac yn ystod y pythefnos nesaf bydd y Brifysgol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau fydd yn cyflwyno'r wyth myfyriwr i Gymru a'i pherthynas â'r byd ehangach.
Mae'r Comisiwn Fulbright wedi bod yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol trwy gynnig ysgoloriaethau addysgol ers 60 mlynedd. Mae'r Rhaglen Haf wedi eu chynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r DU tra'n datblygu eu sgiliau academaidd ac arweinyddol.
Dywedodd Rachel Tod, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Rydym yn croesawu dychweliad Sefydliad Fulbright i Aberystwyth sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglen 2011. Mae'n gyfle allweddol i'r Brifysgol gryfhau ei chysylltiadau helaeth â Gogledd America, ac i gynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn all Aberystwyth a Chymru ei gynnig. Mawr obeithiwn y byddant yn troi’n lysgenhadon ar ein rhan pan fyddant yn dychwelyd i'r Unol Daleithiau.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datblygu rhaglen gyda chymorth y Comisiwn Brenhinol ar gyfer Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru a’r Ganolfan Dechnoleg Amgen sy'n cynnig gyfle gwych i ysgolheigion Fulbright ddysgu am ddiwylliant a hanes Cymru.
Mae prifysgolion Bangor a Chaerdydd hefyd yn cyfrannu at y cwrs chwe wythnos. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio'r ymchwil blaengar mae’r prifysgolion yn ei wneud i ymateb i sialensau economaidd ac amgylcheddol lleol a byd-eang.
Tra yng Nghymru bydd y myfyrwyr yn astudio hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a daearyddiaeth Cymru, gan ganolbwyntio ar sut mae diwydiant wedi diffinio tirwedd a phoblogaeth y genedl.
Dywedodd Michael Scott-Kline, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gwobrau Fulbright,: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gweld mwy o Americanwyr yn dewis Cymru fel eu cyrchfan astudiaeth . Mae Comisiwn Fulbright yn parhau i fod yn ymroddedig i gefnogi prifysgolion Cymru wrth iddynt ddatblygu eu hagenda rhyngwladol."
AU21012