Christopher Williams
Christopher Williams yn gweithio ar bortread o Lloyd George.
19 Gorffennaf 2012
Agorwyd arddangosfa bwysig o waith Christopher Williams (1873-1934) yn y Llyfrgell Genedlaethol gan y cyn aelod seneddol ac aelod o’r Lywodraeth Lafur ddiwethaf, Kim Howells ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf.
Curadwyd yr arddangosfa yw Robert Meyrick, Pennaeth Ysgol Gelf y Brifysgol ac mae dwyn ynghyd weithiau o archifau, casgliadau preifat a chasgliadau cyhoeddus, lawer ohonynt nas gwelwyd yn gyhoeddus o’r blaen, i greu’r arddangosfa fwyaf cynhwysfawr o waith yr artist o Faesteg. Mae’r arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol tan 22 Medi.
Mae Christopher Williams yn fwyaf adnabyddus am ei bynciau Beiblaidd a mytholegol, megis ei ddelweddau o’r Mabinogion: Ceridwen (1910) - sydd i’w gweld yn yr arddangosfa - Branwen (1915) a Blodeuwedd (1930).
Yn ôl Robert Meyrick, “Yn ei ddydd, yr oedd Christopher Williams yn artist hynod o adnabyddus. Yn 1911 cafodd ei gomisiynu gan y Brenin George V i beintio Arwisgiad Edward, Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, peintiodd Hyrddiad y Cymry yng Nghoedlan Mametz. Peintiodd hefyd bum portread o David Lloyd George.
“Er iddo ddod yn adnabyddus am ei bortreadau comisiwn o wleidyddion, academyddion, ac arweinwyr crefyddol, ei baentiadau digymell a wnaeth o arfordir Cymru, rhai nad ydynt wedi’u gweld o’r blaen gan y cyhoedd, sy'n rhoi cipolwg i ni ar bersonoliaeth yr artist a'i gariad tuag at Gymru.”
Ddisgrifiodd Lloyd George Christopher Williams fel, "un o'r artistiaid mwyaf dawnus i Gymru ei gynhyrchu."